Castlebar
Jump to navigation
Jump to search
Tref yn Iwerddon yw Castlebar (Saesneg) neu Caisleán an Bharraigh (Gwyddeleg) sy'n dref sirol Swydd Mayo yn nhalaith Connacht, Gweriniaeth Iwerddon. Fe'i lleolir ar groesffordd tua deg milltir o arfordir Connacht, tua 48 milltir i'r gogledd o Galway a thua 140 milltir i'r gorllewin o ddinas Dulyn.
Saith milltir i'r de o'r dref ceir adfeilion Abaty Baile Tobair a godwyd gan Cathal O'Connor, Brenin Connacht, yn 1216.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Clive James, Iwerddon (Gwasg Carreg Gwalch, 1993), tud. 124.