Roscommon

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Roscommon
Ros Comáin 1.jpg
Logo-contea-Roscommon.png
Mathanheddiad dynol Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC±00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Roscommon Edit this on Wikidata
GwladGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Arwynebedd8 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr80 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.6333°N 8.1833°W Edit this on Wikidata
Neuadd Harrison, Roscommon.

Tref yn Iwerddon yw Roscommon (Gwyddeleg: Ros Comáin), sy'n dref sirol Swydd Roscommon, Gweriniaeth Iwerddon, yng nghanolbarth yr ynys. Enwir y dref ar ôl Sant Comáin (Coman). Poblogaeth: tua 5,000. Lleolir Castell Roscommon ger y dref.

Allforiwyd defaid Roscommon i Ben Llŷn rhwng 1810-15 gan Dishley Leicester o'r Iwerddon a Lloyd Edwards, Nanhoron a'i gyfaill Syr Watkin Williams-Wynn (Yr Arglwydd Mostyn), Ystâd Cefn Amwlch o Gymru. O fewn pedair blynedd o werthu'r ddafad i'w tenantiaid a'u bridio efo hwrdd Cymreig, roedd yr epil yn ddafad bur ac fe'i galwyd yn "ddafad Llŷn".[1] Maen nhw'n gweddu i dir gwastad y dyffryn yn ogystal a thir mynydd.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Fferm a Thyddyn, Calan Mai 2014, rhif 53. Awdur: T. Rees Roberts.
  2. "The Breed". Lleyn Sheep Society. Cyrchwyd 8-06-2014. Check date values in: |accessdate= (help)