Amhrán na bhFiann

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Amhrán na bhFiann ("Cân y Milwr") yw anthem cenedlaethol Gweriniaeth Iwerddon. Peadar Kearney ysgrifennodd y geiriau, a Kearney a Patrick Heeney y dôn. Cyhoeddwyd y gân am y tro cyntaf yn yr Irish Freedom yn 1912 (ond cyfansoddwyd y gân yn 1907).

Roedd y gân yn anhysbys tan y cafodd ei chanu yn Swyddfa'r Post Cyffredinol (GPO) yng Ngwrthryfel y Pasg yn 1916, ac wedyn mewn gwersylloedd dalgadwraeth ym Mhrydain. Daeth yn anthem swyddogol y wladwriaeth yn 1926.

Mae'r anthem yn cynnwys y gytgan yn unig, (dechrau Sinne Fianna Fáil . . . tan . . . Amhrán na bhFiann. isod). Mae'r ddwy linell gyntaf, a'r ddwy linell olaf, yn ffurfio'r Cyfarchiad Llywyddol, sydd yn cael eu chwarae pan mae Arlywydd Iwerddon yn mynychu digwyddiadau.

Yn y blynyddoedd diweddar, mae rhai papurau newydd Gwyddelig wedi cynnig newid yr anthem am fod y geiriau'n rhy dreisiol a gwrth-Brydeinig, a bôd y dôn yn rhy anodd i fandiau ei chwarae yn iawn (fel mae tîmau chwaraeon Gwyddelig yn darganfod yn aml pan mae'r gân gyfan yn cael ei chwarae (nid ond y cytgan), neu pan mae'r darn iawn yn cael ei chwarae yn rhy gyflym neu yn rhy araf!).

Geiriau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwyddeleg

Seo dhibh, a cháirde, duan Oglaigh,
Cathréimeach briomhar ceolmhar,
Ár dtinte cnámh go buacach táid,
'S an spéir go min réaltogach
Is fonnmhar faobhrach sinn chun gleo
'S go tiúnmhar glé roimh thíocht do'n ló
Fé chiúnas chaomh na hoíche ar seol:
Seo libh, canaídh Amhrán na bhFiann.
Sinne Fianna Fáil atá fé gheall ag Éirinn,
Buíon dár slua thar toinn do ráinig chugainn,
Fé mhóid bheith saor, seantír ár sinsir feasta
Ní fhagfar fén tíorán ná fén tráill.
Anocht a théam sa bhearna bhaoil,
Le gean ar Ghaeil, chun báis nó saoil
Le gunnascreach, fé lámhach na bpiléar
Seo libh, canaídh Amhrán na bhFiann.
Cois bánta réidhe, ar ardaibh sléibhe,
Ba bhuadhach ár sinsir romhainn,
Ag lámhach go tréan fén sárbhrat séin
'Tá thuas sa ghaoth go seolta
Ba dhúchas riamh dár gcine cháidh
Gan iompáil siar ó imirt áir,
'S ag siúl mar iad i gcoinne námhad
Seo libh, canaídh Amhrán na bhFiann.
A bhuíon nách fann d'fhuil Ghaeil is Gall,
Sin breacadh lae na saoirse,
Tá scéimhle 's scanradh i gcroíthe námhad,
Roimh ranna laochra ár dtíre.
Ár dtinte is tréith gan spréach anois,
Sin luisne ghlé san spéir anoir,
'S an bíobha i raon na bpiléar agaibh:
Seo libh, canaídh Amhrán na bhFiann.

Cyfieithiad answyddogol i'r Gymraeg

Canwn gân, cân milwr,
Gyda chytgan bywiog llon,
Tra ymgasglwn wrth ein coelcerthi o dân,
Y nefoedd serennog uwch ein pennau;
Yn ddiamynedd am y brwydr i ddod,
Ac fel arhoswn olau'r bore,
Yma yn nhawelwch y nos,
Datganwn gân milwr.
Milwyr ydym ni
Wedi addo ein bywydau i Iwerddon;
Mae rhai wedi dod
O dir dros y don.
Wedi tyngu i ddod yn rhydd,
Ni fydd gwlad hynafol ein tadau
Yn cysgodi'r unben na'r caethwas.
Heno criwiwn bwlch peryglus
Mewn achos Erin, am ddrwg neu dda
Rhwng rhuo'r canonau a sain y reiffl
Datganwn gân milwr.
Mewn dyffryn las, ar carreg dyrog,
Ymladdodd ein tadau o'n blaen,
Gorchfygodd o dan yr un faner hen
Sy'n hofran falch uwch ein pennau.
Plant hil ymladd ydym ni,
Sydd byth wedi gwybod gwarth,
Ac fel gorymdeithiwn i wynebu'r gwrthwynebydd,
Datganwn gân milwr.
Meibion y Gael! Dynion y Polyn!
Mae'r dydd hir-wyliedig yn gwawrio;
Bydd rhengoedd clòs Inisfail
Yn gwneud i'r Gormeswr grynu.
Mae tanau ein gwersyll yn llosgi'n isel;
Gwelwch yn y ddwyrain dywyn ariannaidd,
Dacw'r gelyn o Saes yn disgwyl,
Datganwn gân milwr.

Cyswllt allanol[golygu | golygu cod y dudalen]