Cross Ash

Oddi ar Wicipedia
Cross Ash
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.873°N 2.863°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO407197 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Davies (Ceidwadwr)
Map

Pentref yng nghymuned Llangatwg Feibion Afel, Sir Fynwy, Cymru, yw Cross Ash[1][2] neu Croes Onnen.[3][4] Saif mewn ardal wledig yng ngogledd-ddwyrain y sir, ar ffordd y B4521 rhwng Y Fenni ac Ynysgynwraidd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[5] ac yn Senedd y DU gan David Davies (Ceidwadwr).[6]

Enw[golygu | golygu cod]

Yr enw Cymraeg yw'r enw gwreiddiol ar yr ardal yn ôl cofnodion mapiau hanesyddol o hanner cyntaf y 19eg ganrif.[4][7] 'Croesffordd gydag onnen' yw ystyr yr enw.[8]

Yn 2004 ychwanegwyd yr enw "Croes Onnen" at arwyddion ffyrdd y tu allan i'r pentref er mwyn eu dwyieithogi. Er ymddengys taw hwn yw'r enw gwreiddiol ar yr ardal,[4] mynnodd ymgyrchwyr lleol nad oedd sail hanesyddol iddo a’i fod yn fathiad diangen, a chwyno na fu unrhyw ymgynghori â phentrefwyr.[9][10] Llwyddodd yr ymgyrchwyr i gael yr enw Cymraeg wedi'i dynnu o'r arwyddion yn 2011.[11] Ailgyflwynwyd yr enw Cymraeg i brif stryd y pentref yn 2021 pan osodwyd arwydd ysgol newydd gan yr ysgol gynradd.[3] "Cross Ash" yw'r ffurf sy'n ymddangos ar restr Enwau Lleoedd Safonol Cymru a gyhoeddir gan Gomisiynydd y Gymraeg.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 27 Rhagfyr 2021
  3. 3.0 3.1 "Arwydd Ysgol Gynradd Croes Onnen". Twitter. 6 Medi 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Chwefror 2022.
  4. 4.0 4.1 4.2 Budgen, Charles (1813). "Darluniau'r Arolwg Ordnans: Wysg". Y Llyfrgell Brydeinig. Cyrchwyd 17 Chwefror 2022.
  5. Gwefan Senedd Cymru
  6. Gwefan Senedd y DU
  7. "Map degwm Ynysgynwraidd". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 1842. Cyrchwyd 18 Chwefror 2022.
  8. Owen, Hywel Wyn (2007). Dictionary of the place-names of Wales. Richard Morgan. Llandysul: Gwasg Gomer. ISBN 978-1-84323-901-7. OCLC 191731809.
  9. Nicholas, Roy (24 Chwefror 2011). "Don't blame the Welsh Language Board". Monmouthshire Beacon. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Chwefror 2022.
  10. Brendan Hughes (1 Mehefin 2011). "Villages' Welsh names painted out by council". Western Mail. Cyrchwyd 1 Mehefin 2011.
  11. "Rockfield and Cross Ash signs have Welsh names removed". BBC News. 1 Mehefin 2011. Cyrchwyd 1 Mehefin 2011.