Pabo Post Prydain
Pabo Post Prydain | |
---|---|
Ganwyd | 474 |
Galwedigaeth | teyrn |
Swydd | brenin |
Dydd gŵyl | 9 Tachwedd |
Tad | Ceneu ap Coel Hen, Arthwys ap Mor |
Plant | Sawyl Ben Uchel, Dynod Fawr, Arddun Penasgell |
Pennaeth o'r Hen Ogledd oedd Pabo Post Prydain (Cymraeg Canol: Pabo Post Prydein) (fl. 6g). Yn ôl traddodiad, roedd Pabo yn un o ddisgynyddion y Brenin Coel Hen. Fe'i cysylltir â Llanbabo ym Môn ond does dim prawf pendant i'w uniaethu â'r sant Pabo a goffeir yn enw'r llan honno, sydd fel arall yn anhysbys.
Yr Hen Ogledd
[golygu | golygu cod]Yn yr achau traddodiadol a geir yn y testun Cymraeg Canol Bonedd Gwŷr y Gogledd, ceir llinach Pabo Post Prydain ac enwau ei feibion:
- Dunawd a Cherwydd a Sawyl Ben Uchel meibion Pabo Post Prydain mab Arthwys mab Mar mab Cenau mab Coel.
Mae testun achau arall, 'Bonedd y Saint', yn cofnodi enw ei ferch Arddun Ben Asgell, mam Tysilio Sant. Ond mae'r testunau achau hyn yn dyddio o'r Oesoedd Canol ac ni ellir dibynnu ar bob manylyn ynddynt. Mae disgynyddion eraill Coel Hen, sef y Coelwys, yn cynnwys Urien Rheged, Llywarch Hen, Clydno Eidyn, Elidir Lydanwyn, Eliffer Gosgorddfawr a Gwenddolau.
Yn y casgliad o draddodiadau Cymreig a Brythonig Trioedd Ynys Prydain, cofnodir Dunawd fab Pabo Post Prydain yn un o 'Dri Phost Cad Ynys Prydain'. Mae'r enw Pabo yn Gymreigiad o'r gair Lladin papa. Gelwir Urien Rheged yn 'Bost Prydain' hefyd. Trosiad yw 'post' am gynhalwr, h.y. brenin neu bennaeth, un sy'n cynnal trefn y gymdeithas.
Cyfeirir at Pabo Post Prydain yng ngwaith y bardd Llygad Gŵr ac efallai hefyd mewn cerddi gan Llywarch ap Llywelyn (Prydydd y Moch) a'r Ustus Llwyd.
Sant Llanbabo
[golygu | golygu cod]Cofnododd Lewis Morris arysgrif ar hen faen a ddangoswyd iddo fel bedd honedig Pabo yn eglwys Llanbabo yn y 18g. Roedd yn darllen:
- Hic iacet Pabo Post PriiD ('Yma y gorwedd Pabo Post P[rydain]'?)
Ond dydy'r arysgrifen ddim yn ddigon eglur i'w darllen yn iawn heddiw ac mae haneswyr yn amau dilysrwydd y traddodiad am nad oes rheswm amlwg i frenin o'r Hen Ogledd ymddeol i fod yn glerigwr ym Môn, ymhell i'r de.
Ffynhonnell
[golygu | golygu cod]- Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1961; arg. newydd 1991). Gweler Triawd 5, Atodiad II, a'r nodyn ar dud. 483.