Kingston upon Hull
Math | dinas |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Kingston upon Hull |
Poblogaeth | 260,200 |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dwyrain Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 71,450,000 m² |
Cyfesurynnau | 53.7444°N 0.3325°W |
- Erthygl am y ddinas yn Lloegr yw hon. Gweler hefyd Hull (gwahaniaethu).
Dinas, awdurdod unedol, a phorthladd yn Nwyrain Swydd Efrog, rhanbarth Swydd Efrog a'r Humber, yng ngogledd-ddwyrain Lloegr yw Kingston upon Hull[1] neu Hull. Saif ar lan Afon Hull, yn y man lle mae'n ymuno â Afon Humber, tua 25 milltir o arfordir Môr y Gogledd.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Kingston upon Hull boblogaeth o 284,321.[2]
Pysgota yw'r prif ddiwydiant traddodiadol.
Cafodd ei enwi yn "Kings town upon Hull" ("Kingston upon Hull") gan y brenin Edward I o Loegr yn 1299. Ymladdwyd sawl brwydr yno yn ystod Rhyfeloedd Cartref Lloegr. Er bod Hull yn ddinas, does dim eglwys gadeiriol yno. Dioddedfod y ddinas yn drwm yn ystos yr Ail Ryfel Byd ac mae ei diwydiant wedi dioddef hefyd ers hynny. Ond yn ddiweddar mae rhaglen o adfywio wedi cychwyn gyda sawl prosiect diwylliannol a phrosiectau chawaraeon.
Ganed William Wilberforce yn Hull yn 1759 a cheir amgueddfa iddo yn y ddinas.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Castell Hull
- Gerddi'r Brenhines
- Guildhall
- Stadiwm KC
- Theatr Newydd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 17 Mehefin 2020
- ↑ City Population; adalwyd 17 Mehefin 2020
Dinas
Kingston upon Hull
Trefi
Beverley ·
Bridlington ·
Brough ·
Driffield ·
Goole ·
Hedon ·
Hessle ·
Hornsea ·
Howden ·
Market Weighton ·
Pocklington ·
Snaith ·
South Cave ·
Withernsea