Triangulum (cytser): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
Alexbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: zh-yue:三角座
Llinell 64: Llinell 64:
[[vi:Tam Giác (chòm sao)]]
[[vi:Tam Giác (chòm sao)]]
[[zh:三角座]]
[[zh:三角座]]
[[zh-yue:三角座]]

Fersiwn yn ôl 14:21, 25 Hydref 2009

Cytser Triangulum

Cytser bychan yn y gogledd yw Triangulum, a elwir felly am fod ei dair seren disgleiriaf yn ffurfio triongl estynedig. Mae'n un o'r 88 cytser modern, ac un o'r 48 traddodiadol a restrir gan y seryddwr Groeg Ptolemy.

Nodweddion

Does gan Triangulum ddim sêr o'r magnitiwd cyntaf. Ei sêr disgleiriaf yw β Trianguli (magnitiwd 3.00) ac α Trianguli (m 3.41).

Gwrthrychau pwysig

Triangulum yw lleoliad Galaeth Triangulum, M33, un o'r galaethau yn y Grŵp Lleol. Mae'n 2.9 miliwn blwyddyn golau i ffwrdd, a gyda magnitiwd o 5.8 mae'n ddigon disglair i'w gweld â'r llygaid yn unig ar nosweithiau clir.

Hanes a mytholeg

Un o enwau cynnar y cytser oedd Sicilia, am y credid fod Ceres, nawdd-dduwies Sisili, wedi deisyfu'r duw Iau i roi'r ynys honno yn y nefoedd.

Dolenni allanol