Tiwnisia

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Tunisia)
Neidio i: llywio, chwilio
Al-Jamhūriyyah at-Tūnisiyyah
République Tunisienne

Gweriniaeth Tiwnisia
Baner Tiwnisia Arfbais Tiwnisia
Baner Arfbais
Arwyddair: Trefn, Rhyddid a Chyfiawnder
Anthem: Himat al Hima
Lleoliad Tiwnisia
Prifddinas Tiwnis
Dinas fwyaf Tiwnis
Iaith / Ieithoedd swyddogol Arabeg, Ffrangeg
Llywodraeth Gweriniaeth
Arlywydd
Prif Weinidog
Moncef Marzouki
Mehdi Jomaa
Annibyniaeth
Ennill Annibyniaeth (oddi ar Ffrainc)
Datganiad y Weriniaeth

20 Mawrth, 1956
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
163,610 km² (92eg)
5.0
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2012
 - Cyfrifiad 1994
 - Dwysedd
 
10,732,900 (78fed)
8,785,711
66/km² (133fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$86.67 biliwn (32ain)
$8,255 (71fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2007) 0.766 (89eg) – canolig
Arian cyfred Dinar Tiwnisaidd (TD) (TND)
Cylchfa amser
 - Haf
CET (UTC+1)
CEST (UTC+2)
Côd ISO y wlad .tn
Côd ffôn +216
Map o Diwnisia

Gwlad Arabaidd yng Ngogledd Affrica, sy'n gorwedd rhwng Algeria yn y gorllewin a Libya yn y dwyrain, ac yn wynebu Sisili a de'r Eidal a Môr y Canoldir yn y gogledd yw Gweriniaeth Tiwnisia.[1] Ei phrifddinas yw Tiwnis.

Daearyddiaeth[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Daearyddiaeth Tiwnisia

Lleolir Tiwnisia ar ran fwyaf gogleddol cyfandir Affrica, ar ganol arfordir y gogledd. Ynys Sicilia yw'r tir Ewropeaidd agosaf, 80 km i'r gogledd-ddwyrain dros Gulfor Sicilia. Ar y tir Algeria a Libia yw ei chymdogion. Mae ganddi arfordir 1400 km hir ac amrywiol ar y Môr Canoldir.

Porthladd Bizerte

Gydag arwynebedd tir o ddim ond 164,000 km², Tiwnisia yw'r wlad leiaf yng Ngogledd Affrica. Mae'n mesur 750 km o'r anialwch yn y de i'r Cap Blanc, pwynt mwyaf gogleddol cyfandir Affrica, yn y gogledd, ond dim ond 150 km ar ei lletaf o'r dwyrain i'r gorllewin. Yn dopograffyddol mae'r wlad yn ymrannu'n ddwy ardal; y gogledd mynyddig a'r de lled-wastad.

Y prif gadwyn mynydd yw'r Dorsal, sy'n estyniad dwyreiniol i gadwyn hir Mynyddoedd yr Atlas sy'n cychwyn ym Moroco yn Atlas Uchel. Mae'n rhedeg ar gwrs gogledd-ddwyreiniol o Tébessa ar y ffin ag Algeria hyd Zaghouan i'r de o Diwnis. Mae'n cynnwys y pwynt uchaf yn y wlad, Jebel Chambi (1544m), i'r gorllewin o Kasserine. Mae'r Dorsal yn gorffen mewn cyfres o fryniau isel yng ngorynys Cap Bon.

Gorwedd y rhan fwyaf o dir amaethyddol da y wlad i'r gogledd o'r llinell hon. Yn hanesyddol hon oedd grawnfa y Rhufain hynafol. Mae'n cynnwys gwastadeddau uchel y Dorsal ei hun, sef y Tell, a dyffryn ffwrythlon afon Medjerda. Afon Medjerda yw'r unig afon barhaol yn y wlad. I'r gogledd o ddyfryn Medjerda ceir mynyddoedd coediog y Kroumirie, sy'n ymestyn ar hyd arfordir y gogledd o'r ffin ag Algeria, ger Tabarka, i gyfeiriad Bizerte, ger Tiwnis, lle mae'n rhedeg allan mewn gwastadedd arfordirol isel.

Olewydd ger Sfax

I'r de o'r Dorsal ceir ardal eang o wastadedd di-goed, rhwng 200m-400m uwch lefel y môr. Dyma'r Sahel, sy'n enwog am ei holewydd a'i dêts. Ymhellach i'r de mae'r tir yn troi'n fwyfwy sych a cheir sawl chott (llyn halen) yma ac acw. Serch hynny mae'r tir ar hyd yr arfordir yn ffrwythlon lle ceir dŵr ac yn cynnal rhai trefi mawr megis Sousse a Sfax.

I lawr yn y de ei hun mae'r rhan fwyaf o'r wlad yn orchuddiedig gan y rhan ddwyreiniol yr Erg Mawr Dwyreiniol, sy'n llenwi rhan fawr o dde-ddwyrain Algeria yn ogystal ac yn rhan o aniladiroedd y Sahara. Yr unig dir ffrwythlon yw'r gwerddonau a'r stribed o dir ar yr arfordir.

Gweler hefyd:Rhestr dinasoedd a threfi yn Nhiwnisia

Hinsawdd[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Hinsawdd Tiwnisia

Mae gan ogledd Tiwnisia hinsawdd sy'n nodweddiadol o'r Môr Canoldir, gyda hafau hir, sych a phoeth a gaeafau cymhedrol a gwlyb. Mae mynyddoedd y Dorsal a Kroumirie yn cael eira weithiau. Wrth fynd i'r de mae'r hinsawdd yn troi'n boethach a sychach gyda phrin modfedd o law yn disgyn mewn blwyddyn yn yr Erg Mawr.

Hanes[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Hanes Tiwnisia

Mae gan Tiwnisia hanes hir a chyfoethog. Berberiaid oedd y trigolion brodorol. Glaniodd y Ffeniciaid yn yr wythfed ganrif CC a sefydlu dinas Carthago (Carthage) a dyfodd i fod yn un o ddinasoedd grymusaf yr Henfyd gyda thir a dinasoedd yn ei meddiant ar hyd arfordir y Maghreb (Moroco ac Algeria heddiw), yn Sisili, Sardinia a'r Ynysoedd Balearig a dwyrain Sbaen. Yn Nhiwnisia ei hun roedd 'na ddinasoedd pwysig yn Utica, Kerkouane, Hadrametum (Sousse heddiw) a lleoedd eraill.

Yn yr olaf o'r tri Rhyfel Pwnig syrthiodd Carthago a'i chwaer-ddinasoedd yn Nhiwnisia i ddwylo'r Rhufeiniaid. Daeth y rhan fwyaf o Diwnisia yn dalaith Rufeinig a elwid Affrica am mai Ifriquiya oedd yr enw brodorol am ogledd Tiwnisia gan y Berberiaid. Blodeuodd Carthago eto fel dinas Rufeinig a chodwyd nifer o ddinasoedd a threfi eraill sy'n cynnwys rhai o'r safleoedd archaeolegol Rhufeinig gorau yn y byd heddiw, e.e. Dougga, Bulla Regia, El Djem a Sbeitla.

Iaith a Diwylliant[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Diwylliant Tiwnisia
Y Theatr Ddinesig, Tiwnis

Mae Tiwnisia yn wlad ddwyieithog gyda dwy iaith swyddogol, sef Arabeg a Ffrangeg. Arabeg yw mamiaith pawb bron ond mae Ffrangeg yn cael ei siarad yn dda gan bobl sydd wedi derbyn addysg. Defnyddir Ffrangeg i gyd ag Arabeg mewn sefydliadau addysg uwch. Ceir rhaglenni Ffrangeg ar y teledu ac mae radio yn yr iaith yn gwasanaethu'r wlad o Diwnis. Cyhoeddir sawl papur newydd a chylchgrawn Ffrangeg yn ogystal. Mae gan Tiwnisia lenyddiaeth fywiog yn yr iaith Ffrangeg hefyd. Mewn rhannau o'r de a'r dwyrain ceir ychydig o siaradwr iaith Berber.

Mae hanes llenyddiaeth Tiwnisia yn gyfoethog. Llenyddiaeth Ffrangeg yw'r diweddaraf i ymuno â'i ffrwd. Cyn hynny roedd gan y wlad lenorion yn yr iaith Ffeniceg a'r iaith Ladin. Cynhyrchodd y wlad llenorion enwog fel Terens, Apuleius a Sant Awstin yn ystod y cyfnod clasurol. Arabeg yw iaith bwysicaf hanes llenyddiaeth Tiwnisia, wrth gwrs, ac yn cynnwys yn ei datblygiad ffigurau fel yr hanesydd enwog Ibn Khaldun. Y llenor diweddar mwyaf dylanwadol oedd Chebbi.

O ran crefydd, mae 99% o'r boblogaeth yn Fwslemiaid ond ceir rhai Cristnogion hefyd, yn arbennig yn nhrefi'r gogledd. Ar un adeg bu gan y wlad boblogaeth bur sylweddol o Iddewon, yn arbennig yn y brifddinas ac yn Djerba, ond ymudodd y mwyafrif ohonynt yn sgîl sefydlu Israel.

Economi[golygu]

Mae Tiwnisia yn wlad gymharol ddatblygedig sy'n un o sefydlwyr Undeb y Maghreb Arabaidd.

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Geiriadur yr Academi, [Tiwnisia].

Dolenni Allanol[golygu]

Llywodraeth Tiwnisia a Newyddion am y wlad[golygu]

Arolygon[golygu]

Twristiaeth ac amryw[golygu]


Gwledydd y Môr Canoldir
Yr Aifft | Albania | Algeria | Bosnia a Hertsegofina | Croatia | Cyprus | Yr Eidal | Ffrainc | Gwlad Groeg | Israel | Libanus | Libya | Malta | Monaco | Montenegro | Moroco | Palesteina | Sbaen | Slofenia | Syria | Tunisia | Twrci