Ynysoedd Balearig
Oddi ar Wicipedia
|
|||||
| Prifddinas | Palma de Mallorca | ||||
| Iaith / Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg, Catalaneg | ||||
| Arwynebedd – Cyfanswm – % o Sbaen |
Safle 17fed 4,992 km² 0.99 |
||||
| Poblogaeth – Cyfanswm (2009) – % o Sbaen – Dwysedd |
Safle 14fed 1,095,426 2.34 219.4/km² |
||||
| Statud Ymreolaeth | 2 Mawrth 2007 | ||||
| Cynrychiolaeth seneddol – Dirprwyon – Seneddwyr |
8 (o 350) 6 (o 264) |
||||
| Arlywydd | Francesc Antich i Oliver | ||||
| ISO 3166-2 | IB | ||||
| Govern de les Illes Balears | |||||
Mae Ynysoedd y Balearig (Catalaneg: Illes Balears; Sbaeneg: Islas Baleares) yn un o gymunedau ymreolaethol Sbaen. Fe'i lleolir yn y Môr Canoldir oddi ar arfordir gogledd-ddwyreiniol Sbaen. Rhennir yr ynysoedd yn ddau grŵp:
- Y Gimnesias: Menorca, Mallorca, Cabrera a rhai ynysoedd llai megis Dragonera.
- Y Pitiusas: Ibiza, Formentera ac ynysoedd bach o'u cwmpas.
Ymddengys fod y gair "Balearig" yn dod o'r iaith Bwneg yn wreiddiol, ac yn dynodi gwlad y "taflwyr cerrig". Roedd milwyr o'r ynysoedd hyn yn enwog am ei gallu gyda ffyn tafl, a gallent eu defnyddio i daflu cerrig bychain bron fel petaent yn fwledi. Gwnaeth cadfridogion fel Hannibal lawer o ddefnydd ohonynt yn eu rhyfeloedd yn erbyn y Rhufeiniaid pan oedd yr ynysoedd ym meddiant Carthago.
| Cymunedau ymreolaethol Sbaen | |
|---|---|
| Cymunedau Ymreolaethol | Andalucía • Aragón • Asturias • Ynysoedd Balearig • Cantabria • Castilla-La Mancha • Castilla y León • Catalonia • Comunidad Valenciana • Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg • Extremadura • Galicia • Comunidad de Madrid • Murcia • Navarra • La Rioja • Yr Ynysoedd Dedwydd • |
| Dinasoedd ymreolaethol | Ceuta • Melilla |