Menorca
Oddi ar Wicipedia
Un o'r Ynysoedd Balearig yw Menorca. Dyma'r mwyaf gogleddol a dwyreiniol o Ynysoedd y Balearig (Islas Baleares), grŵp o ynysoedd yn y Môr Canoldir sy'n perthyn i Sbaen. Siaredir Catalaneg a Sbaeneg ar yr ynys, sy'n boblogaidd gan ymwelwyr oherwydd ei thraethau da. Ei phrifddinas yw Maó. Poblogaeth: 90,235 (2007).