Ibiza

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ardal hynafol Tref Ibiza.

Ynys ym Môr y Canoldir, 79 km o ddinas arfordirol Valencia ar Benrhyn Iberia, Sbaen ydy Ibiza (Catalaneg: Eivissa neu Illa d'Eivissa). Dyma'r ynys drydydd fwyaf o'r Ynysoedd Balearig, ac mae'n un o gymunedau hunanlywodraethol Sbaen. Dinasoedd mwyaf yr ynys ydy Tref Ibiza, Santa Eulària des Riu a Sant Antoni de Portmany.

Mae'r ynys yn adnabyddus am y partïon a gynhelir yn y clybiau nos mawrion sy'n denu nifer o dwristiaid. Fodd bynnag, mae Swyddfa Dwristiaeth Sbaen wedi bod yn ceisio denu mwy o deuluoedd yno.[1] Mae'r clybiau nos nodedig yn cynnwys 'Space', 'Pacha', 'Privilege', 'Amnesia', 'DC10', Eden, El Divino, 'Es Paradis', a'r 'Café del Mar'.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Flag of Spain.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Sbaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato