Kroumirie

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cefn gwlad Kroumirie (Tiwnisia)

Mae'r Kroumirie, neu'r Khroumirie, yn rhanbarth fynyddig yn y Maghreb. Fe'i enwir ar ôl y bobl Kroumiriaid lleol.

Mae mynyddoedd y Korumirie yn ymestyn yn gadwynoedd o fryniau coediog canolig eu huchder yng ngogledd-orllewin Tiwnisia a rhan gyfagos o ogledd-ddwyrain Algeria. I'r gogledd ceir gwastadedd ar lan y Môr Canoldir, i'r dwyrain mae gwastadeddau ardal Bizerte, i'r de ceir dyffryn afon Medjerda ac i'r gorllewin ymdoddant i fryniau Algeria dros y ffin, a nodir gan copa Djebel Abiod, yn Tunisie, pwynt uchaf y Kroumirie.

Mae'n un o'r ardaloedd gwlypaf yng Ngogledd Affrica, sy'n derbyn rhwng 1000 a 1500 mm o law y flwyddyn.

Ceir dau safle archaeoloegol pwysig ar lethrau deheuol y Kroumirie, ger Jendouba, sef dinasoedd Rhufeinig Bulla Regia a Chemtou.

Ethnoleg[golygu]

Mae'r Kroumiriaid yn gynghrair llac o grwpiau ethnig cyfagos. Mae'r Kroumiriaid go iawn yn byw yn nyffryn afon El Kebir ("Afon Fawr" yn Arabeg); fe'i gelwir yn Kroumiriaid "tabarquins" wedi eu hymrannu yn y grwpiau a ganlyn:

  • Houamdia (is-grwpiau: Rjaïbia a'r Ghraïbia)
  • Ouled Amor (is-grwpiau: Braïkia, Mellouli a Rouaissia) sy'n byw yn ardal Errmel hyd y ffin
  • Ouled Cedra
  • Ouled Said (is-grwp: Ouled Saad)

Mae Kroumiriaid yr ucheldiroedd (yn ardal Aïn Draham), yn perthyn i'r Sloul a'r Slelma (is-raniadau: Debabsa, Atatfa, Tebaïnia, Hamran, Gouaidia, a.y.b.). Dyma'r "cnewyllyn cadarn" ac mae'r llwythau eraill wedi fel petae eu clymu o'u cwmpas, yn arbennig fel canlyniad i'r goresgyniad o Diwnisia gan Ffrainc yng ngwanwyn 1881.

Gellid dosbarthu'r llwythau yn ôl ardal o fewn y Kroumirie yn ogystal:

  • Kroumirie gorllewinol: Ouled Sidra, Mazoulah (Algeria) a Ouled Ali (Algeria)
  • Kroumirie dwyreiniol: Meknas, Ouchtatas a Nefzas
  • Kroumirie deheuol: Amdouns a Chiahia

Canolfannau[golygu]

Mae'r Kroumirie yn ardal o bentrefi bychain yn hytrach na threfi mawr. Lleolir yr unig drefi sylweddol ar ei ymylon, yn arbennig Tabarka i'r gogledd (sydd â phoblogaeth ethnig sylweddol o Kroumiriaid) a Jendouba a Béja yn nyffryn afon Medjerda.

Yn y bryniau yr unig ganolfan o bwys yw Aïn Draham, sy'n ganolfan coedwigaeth a thwristiaeth. Mae'n cael ei disgrifio weithiau fel "brynfa Tiwnisia."