Cap Bon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun lloeren o Gap Bon (NASA)

Mae'r Cap Bon (Arabeg كاب بون Ras Eddae) yn ffurfio pwynt gogledd-ddwyreiniol Tiwnisia a'r Maghreb, yng ngogledd Affrica. Mae'n gorwedd ar lan ddeheuol Môr y Canoldir lle mae'n ffurfio pwynt deheuol Culfor Sisili a phen dwyreiniol Gwlff Tiwnis.

Mae'r enw Cap Bon (Penrhyn Hardd) yn dyddio o gyfnod y Rhufeiniaid, ond yr enw brodorol yw Rass Eddar; gan fod Tiwnisia yn wlad ddwyieithog, defnyddir y ddau enw yn swyddogol. Yng nghyfnod goruchafiaeth gwareiddiad Carthage, dynodai bwynt deheuol y gallu Rhufeinig ar y môr.

Cyfeirir at Cap Bon fel gwlad ffrwythlon a breswylid gan bobl Berber mewn cofnodion Groeg a Lladin. Bu Cap Bon yn dyst i sawl brwydr am ei fod yn benrhyn o bwys strategol mawr yng nghanol Môr y Canoldir. Ymosododd Agathocle o Syracuse arno yn 310 CC; hanner can mlynedd yn ddiweddarach ceisiodd y Rhufeinwr Regulus ei gipio yn y rhyfel cyntaf rhwng Carthage a Rhufain; o'r diwedd yn 148 CC, cafodd ei oresgyn gan y Rhufeiniaid. Erbyn canol y ganrif 1af CC roedd sawl dinas Rufeinig yng Nghap Bon, e.e. Carpis, Clupea (Kelibia), Curubis (Korba) a Neapolis (Nabeul).

Chwareli-ogofâu Ffenicaidd El Haouaria

O ganol y 3edd ganrif OC hyd at dyfodiad yr Arabiaid, ceir tystiolaeth fod Cristnogaeth yn elfen beysig ym mywyd Cap Bon. Fel gweddill Tiwnisia, cafodd y Cap ei arabeiddio a'i islameiddio o'r 7fed ganrif ymlaen. Codwyd sawl ksar (caer) ar yr arfordir i'w amddiffyn, e.e. Ksar Korbous a Ksar Nouba yn y gorllewin, a Ksar Kelibia, Ksar Lebna, Ksar Korba, a Ksar Nabeul yn y dwyrain. O ddechrau'r 17eg ganrif, daeth nifer o ffoaduriaid Mwslem o Andalucia (y Morisgiaid) i fyw yno, yn arbennig yn Grombalia, Turqui, Belli, Nianou a Soliman, lle gwelir eu pensaerniaeth hyd heddiw. Yn yr Ail Ryfel Byd, ildiodd yr Afrikakorps Almaenig yno, yn Ebrill a Mai, 1943.

Mae'r enw Cap Bon yn cyfeirio yn ogystal at y penrhyn cyfan sy'n ymestyn cyn belled â Hammamet i'r de ac i Soliman yn y gorllewin. Mae'r penrhyn yn mesur 80 km o hyd a rhwng 20 a 50 km o led. Mae'n cynnwys talaith (gouvernorat) Nabeul a threfi Grombalia, Hammamet, Kelibia, El Haouaria, Menzel Bouzelfa, Menzel Temime, Nabeul, a Soliman, yn ogystal â safle archaeolegol Ffenicaidd Kerkouane, sydd ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO.

Mae daearyddiaeth Cap Bon yn ymrannu'n ddwy ardal naturiol, gyda gwastadedd a bryniau isel ar arfordir y dwyrain, a chadwyn o fynyddoedd isel yn y gorllewin sy'n cyrraedd eu man uchaf gyda Djebel Ben Ouli (637m). Nodweddir arfordir y gogledd gan nifer o faeau a chlogwynni. Oddi ar pen gogleddol Cap Bon ceir ynysoedd Zembra a Zembretta, sy'n gorwedd tua 15 km i'r gogledd-orllewin o El Haouaria.

Gyda 750 mm y flwyddyn o law a thir ffrwythlon, mae'r ardal yn enwog am ei amaethyddiaeth ers dyddiau Carthage a Rhufain.

Mae twristiaeth yn bwysig yn ne-ddwyrain yr ardal, yn arbennig o gwmpas Hammamet lle ceir nifer o westai mawr, ond erys y rhan fwyaf o'r penrhyn heb ei effeithio'n fawr gan y datblygiadau hynny.

Dolenni allanol[golygu]