Bizerte

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Canol Bizerte.
Hen harbwr Bizerte

Dinas a phorthladd yng ngogledd Tiwnisia ar lan y Môr Canoldir yw Bizerte. Gorwedd 66 km i'r gogledd-orllewin o'r brifddinas, Tiwnis, tua dwy filltir i'r de o'r Cap Blanc, pwynt mwyaf gogleddol cyfandir Affrica. Mae ganddi boblogaeth o tua 111,000. Bizerte yw prifddinas a chanolfan weinyddol talaith Bizerte.

Sefydlwyd dinas yno gan y Ffeniciaid yn yr 8fed ganrif CC fel Hippo Zarytus, y mwyaf gogleddol o'u porthladdoedd, a chafodd ei datblygu eto dan reolaeth Carthago. Y Carthaginiaid oedd y cyntaf i gloddio camlas i gysylltu Llyn Bizerte, i'r de o'r ddinas, a'r môr. Agorwyd felly un o'r harbwrs gorau yn y Môr Canoldir sy'n dal i fod yn brysur heddiw. Cafodd Bizerte ei meddianu yn ei thro gan y Rhufeiniaid, y Bysantiaid, yr Arabiaid (a newidiasant yr enw i Bizerte), y Sbaenwyr, yr Otomaniaid a'r Ffrancod. Dan yr Otomaniaid roedd Bizerte yn ganolfan i'r corsairs Mwslemaidd ac adeiladwyd tref newydd (la ville nouvelle) a phorthladd milwrol yno gan Ffrainc yn y 19eg ganrif. Oherywdd ei phwysigrwydd milwrol bu'r Ffrancod yn gyndyn iawn i ollwng eu gafael ar y ddinas a fu'r olaf i gael ei rhyddhau yn 1963, saith mlynedd ar ôl Rhyfel Annibyniaeth Tiwnisia, ar gost o fwy na fil o fywydau i'r Tiwnisiaid.

Heddiw mae'n ganolfan weinyddol a masnachol. Er bod y porthladd yn bwysig o hyd mae twristiaeth yn dechrau datblygu hefyd, er nad ar raddfa fawr eto. Prif atyniadau'r ddinas yw'r hen harbwr, y kasbah a medina gerllaw, a thraethau'r gogledd.