Zaghouan

Oddi ar Wicipedia
Zaghouan
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Poblogaeth20,387 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−01:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirZaghouan Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Uwch y môr201 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.4028°N 10.1433°E Edit this on Wikidata
Cod post1100 Edit this on Wikidata
Map
Golygfa dros y Temple des Eaux a llethrau Zaghouan

Mae Zaghouan yn ddinas fechan yng ngogledd-ddwyrain Tiwnisia, tua 60 km i'r de o'r brifddinas Tiwnis, ac yn ganolfan weinyddol gouvernorat Zaghouan. Mae ganddi boblogaeth o tua 10,000 (2001).

Mae Zaghouan yn gorwedd ar lethrau gwyrdd a choediog Jebel Zaghouan (1295m). Oddi yno clydid dŵr mewn pont dŵr (aqueduct) i hen ddinas Carthago, 70 km i ffwrdd; gellir gweld rhannau ohoni o hyd tua 20 km i'r de o Diwnis. Defnyddir y ffynhonau a fwydai'r pont dŵr o hyd gan y trigolion lleol.

Yng nghanol y dref ceir y Temple des Eaux (Teml y Dyfroedd: gweler y llun) sy'n dyddio o gyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig.

Ar gyrion y dref mae Zaouia Sidi Ali Azzouz. Codwyd y zaouia gan ffoaduriaid o Andalucía er anrhydedd Sidi Ali Azzouz, sant o Foroco a sefydlodd dref Zaghouan, yn ôl y traddodiad.