Rhyfeloedd Pwnig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hannibal yn croesi'r Alpau yn ystod yr Ail Ryfel Pwnig. Ffresco o tua 1510, Amgueddfa'r Capitol, Rhufain.

Y Rhyfeloedd Pwnig yw'r term a ddefnyddir am gyfres o ryfeloedd rhwng Gweriniaeth Rhufain a Carthago, a ymladdwyd rhwng 264 CC a 146 CC. Daw'r enw o'r term Lladin am y Carthaginiaid, Punici, yn gynharach Poenici, oherwydd eu bod o dras y Ffeniciaid.

Y Rhyfel Pwnig Cyntaf[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Rhyfel Pwnig Cyntaf

Ymladdwyd y rhyfel rhwng 264 CC a 241 CC, gyda llawer o'r brwydro ar ynys Sicilia, a hefyd ymladd ar y môr rhwng y ddwy lynges. Wedi brwydro hir, bu raid i Carthago ofyn am delerau heddwch, a chollodd lawer o diriogaethau.

Yr Ail Ryfel Pwnig[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Ail Ryfel Pwnig

Yn y blynyddoedd yn dilyn y Rhyfel Pwnig Cyntaf, enillodd Carthago drefedigaethau newydd yn Sbaen, a daeth yn bwerus unwaith eto. Dechreuodd yr Ail Ryfel Pwnig yn Sbaen yn 218 CC. Penderfynodd y cadfridog Carthaginiaidd Hannibal ymosod ar yr Eidal, ac enillodd nifer o fuddugoliaethau syfrdanol dros y Rhufeiniaid, a ddioddefodd golledion enbyd. Fodd bynnag Rhufain fu'n fuddugol unwaith eto, ac yn 202 CC bu raid i Carthago dderbyn telerau Rhufain ac ildio, gan golli ei threfedigaethau a gorfod talu swm fawr o arian i Rufain dros gyfnod o flynyddoedd.

Y Trydydd Rhyfel Pwnig[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Trydydd Rhyfel Pwnig

Gorchfygwyd Carthago gan y Rhufeiniaid eto yn y Trydydd Rhyfel Pwnig (149 CC hyd 146 CC), a dinistriwyd y ddinas yn llwyr.