Llaneuddogwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llandogo dros Afon Gwy.

Pentref yn Sir Fynwy yw Llaneuddogwy (hefyd: Llandogo[1]). Fe'i lleolir yn nwyrain y sir yn agos i'r ffin rhwng Sir Fynwy a Swydd Gaerloyw (Lloegr), ar lan orllewinol Afon Gwy. Rhed y briffordd A466 trwy'r pentref.

Mae Llandogo yn rhan o gymuned a phlwyf eglwysig Tryleg. Yn ôl rhai ffynonellau, sefydlwyd yr eglwys gan Euddogwy (Lladin: Oudoceus), un o'r tri sant y cysegrwyd Eglwys Gadeiriol Llandaf iddynt, ond credir mai person gwahanol a roddodd ei enw i eglwys Llaneuddogwy. Diweddar yw adeilad presennol yr eglwys: cafodd ei adeiladu rhwng 1859 ac 1861 gan John Pollard Seddon a Coates Carter.[2]

Ysgythriad (neu lithograff) gan William Henry Bartlett, tua 1845

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Canolfan Bedwyr (rhodder 'Llandogo' yn y blwch chwilio).
  2. Dyffryn Gwy Isaf: Llaneuddogwy

Dolenni allanol[golygu]


CymruFynwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato