Neidio i'r cynnwys

Pentre'r Eglwys

Oddi ar Wicipedia
Pentre'r Eglwys
Hen Lyfrgell Carnegie, Pentre'r Eglwys.
Mathpentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,021 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5699°N 3.3216°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y DUAlex Davies-Jones (Llafur)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Llanilltud Faerdref ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, ydy Pentre'r Eglwys[1] (Saesneg: Church Village). Saif ger Pontypridd.

Yn 2011, roedd 2,501 (17.1% ) o boblogaeth (3 oed a throsodd) y Gymuned yn gallu siarad Cymraeg.[2]

Aiff hanes y gymuned yn ôl i ganol y 19g pan nad oedd ond cartref saer coed a dau adeilad neu dŷ gwag yno, yn ôl cyfrifiad 1841. Tyfodd y pentref yn ystod y deng mlynedd canlynol ond eto, gan mai bach iawn oedd, dan enw pentref cyfagos Cross Inn y'i cofnodwyd yng nghyfrifiad 1851, pan oedd 91 o bobl yn byw yno mewn 14 cartref.[3]

Cynhaliwyd ysgol mewn stablau ger fferm Tir Bach cyn symyd i ystafell hir y tu ôl i Tafarn y Groes yng nghanol y pentref. Roedd yr ystafell hefyd yn gartref i'r Bedyddwyr Cymreig. Adeiladwyd Capel yn ddiweddarach ym 1854 tua milltir i ffwrdd yng Ngwaun y Celyn. Erbyn cyfrifiad 1861, roedd tuag 11 o bobl yn byw mewn 22 cartref.[3] Erbyn heddiw mae Ysgol Gynradd Gymraeg Gartholwg yn y pentref. Agorwyd Llyfrgell yno ar 1 Ebrill 1965; symudwyd hi ynghyd ag Ysgol Gyfun Rhydfelen i adeilad newydd ar hen safle'r ysgol gynradd[4] ym Mhentre'r Eglwys ac agorwyd hi ar 4 Medi 2006. Mae cynlluniau i adeiladu miloedd o dai newydd yn y pentref. Mae cynlluniau hefyd ar gyfer ffordd-osgoi Penter'r Eglwys, mae hyn wedi bod ar y gweill ers 2006 ond nid oes gwaith wedi dechrau esioes (2007).[5][6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 10 Medi 2025
  2. Tabl KS207WA Cyfrifiad 2011
  3. 1 2 "Pentre'r Eglwys, gwefan Rhondda Cynon Taf". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-14. Cyrchwyd 2007-10-16.
  4. (Saesneg) Church Village Library, gwefan Rhondda Cynon Taf Archifwyd 2007-10-19 yn y Peiriant Wayback
  5. (Saesneg) Development Control Committee Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback 5 Gorffennaf 2006
  6. (Saesneg) No more excuses Pontypridd Observer 1 Chwefror 2007
Eginyn erthygl sydd uchod am Rondda Cynon Taf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.