Gwesbyr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gwespyr)
Jump to navigation Jump to search
Gwesbyr
Gwespyr cottages - geograph.org.uk - 182105.jpg
Math Pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir y Fflint Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.335571°N 3.336687°W Edit this on Wikidata
Cod OS SJ1083 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Hannah Blythyn (Llafur)
AS/au David Hanson (Llafur)

Mae Gwesbyr ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (amrywiad: Gwespyr) yn bentref ym mhen gogleddol Sir y Fflint ger arfordir gogledd-ddwyrain Cymru. Fe'i lleolir rhwng Prestatyn 4 km i'r gorllewin a Ffynnongroyw i'r dwyrain ar y lôn A548. Fymryn i'r gogledd mae Talacre a'r Parlwr Du ac i'r de mae pentref Llanasa. Mae'n rhan o gymuned Llanasa.

I'r gorllewin o'r pentref mae Bryniau Clwyd yn codi.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Hannah Blythyn (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw David Hanson (Llafur).[1][2]

Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl Syr Ifor Williams, mae'r enw yn ei naill ffordd, yn amrywiad Cymraeg o'r enw lle Saesneg Westbury.[3] Fel nifer o enwau lleoedd eraill yr ardal, megis Prestatyn, Bagillt, a Bistre, mae'r enw o darddiad Saesneg wedi'i Gymreigio pan newidiodd iaith yr ardal o'r Saesneg i'r Gymraeg yn y cyfnod Eingl-Sacsonaidd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Ifor Williams, Enwau Lleoedd (Lerpwl, 1945), t. 10.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]