Garry Kasparov

Oddi ar Wicipedia
Garry Kasparov
LlaisGarri Kasparov voice.oga Edit this on Wikidata
GanwydГарри Кимович Вайнштейн Edit this on Wikidata
13 Ebrill 1963 Edit this on Wikidata
Baku Edit this on Wikidata
Man preswylDinas Efrog Newydd, Moscfa, Makarska Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYr Undeb Sofietaidd, Rwsia, Croatia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Azerbaijan University of Languages Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr gwyddbwyll, gwleidydd, ysgrifennwr, newyddiadurwr, critig Edit this on Wikidata
Adnabyddus amWinter Is Coming Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolUnited Civil Front, Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd, Committee 2008, Democratic Party of Russia, Cyngor Cydlynu Gwrthwynebiad Rwsia, Solidarnost Edit this on Wikidata
PerthnasauMoisei Vainshtein Edit this on Wikidata
Gwobr/aupencampwr gwyddbwyll y byd, Chess Oscar, Urdd Baner Coch y Llafur, Urdd Cyfeillgarwch y Bobl, Meistr Anrhydeddus Chwaraeon, CCCP Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://kasparov.com Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonYr Undeb Sofietaidd, Rwsia, Croatia Edit this on Wikidata
llofnod

Mae Garry Kimovich Kasparov (ganwyd 13 Ebrill 1963) yn uwchfeistr gwyddbwyll o Rwsia, yn gyn Bencampwr Gwyddbwyll y Byd (1985 - 2000), yn gyn wleidydd ac yn awdur. Roedd ei radd gwyddbwyll uchaf FIDE ym 1991 yn 2851,[1] Hwn oedd yr uchaf a gofnodwyd nes i Magnus Carlsen ei basio yn 2013. O 1984 nes iddo ymddeol o wyddbwyll cystadleuol rheolaidd yn 2005, Kasparov oedd rhif Un y byd am 255 mis, yr hiraf erioed. Mae Kasparov hefyd yn dal y record am y buddugoliaethau twrnamaint proffesiynol mwyaf yn olynol (15) ac Oscar Gwyddbwyll (11).

Daeth Kasparov yn Bencampwr y Byd yn ddwy-ar-hugain oed ym 1985 pan drechodd Anatoly Karpov. Amddiffynnodd y teitl yn erbyn Karpov deirgwaith, ym 1986, 1987 a 1990. 'Roedd Kasparov yn bencampwr swyddogol FIDE tan 1993, ond yn dilyn ei anghydfod gyda FIDE dechreuodd sefydliad newydd, Cymdeithas y Chwaraewyr Gwyddbwyll Proffesiynol (CCGP). Ym 1997, ef oedd y pencampwr y byd cyntaf i golli gêm i gyfrifiadur o dan reolaeth amser clasurol pan drechwyd ef gan uwchgyfrifiadur IBM Deep Blue mewn gornest a gafodd gyhoeddusrwydd byd-eang. Daliodd teitl pencampwr y byd y CCGP tan y flwyddyn 2000 pan gollodd i Vladimir Kramnik. Er hyn, parhaodd i ennill twrnameintiau ac ef oedd y chwaraewr â'r sgôr Elo uchaf yn y byd ar adeg ei ymddeoliad. Hyfforddodd Kasparov Carlsen yn 2009-10, ac yn ystod y cyfnod hwnnw cododd Carlsen i rif Un yn y byd. Ymdrechodd Kasparov yn aflwyddiannus am arlywyddiaeth FIDE yn 2013-2014.

Ar ol ymddeol o wyddbwyll proffesiynol, mae Kasparov wedi troi at awdura a gwleidyddiaeth. Ysgrifennodd ei gyfres o lyfrau My Great Predecessors, a gyhoeddwyd gyntaf yn 2003, yn manylu ar hanes a gemau'r chwaraewyr a'i rhagflaenodd fel Pencampwyr y Byd. Yn wleidyddol ffurfiodd fudiad y Ffrynt Sifil Unedig a bu'n aelod o 'Y Rwsia Arall', clymblaid gwrthwynebus i Vladimir Putin. Yn 2008, cyhoeddodd ei fwriad i ymgeisio am arlywyddiaeth Rwsia, ond yn y diwedd tynnodd yn ôl gan feio " rhwystri swyddogol" gan y weinyddiaeth. Yn sgil y protestiadau torfol a ddechreuodd yn Rwsia yn 2011, cyhoeddodd ym mis Mehefin 2013 ei fod wedi gadael Rwsia rhag ofn erledigaeth. Ar ôl ffoi'r wlad, bu'n byw yn Ninas Efrog Newydd gyda'i deulu. Yn 2014, cafodd ddinasyddiaeth gan Croatia ac mae'n cynnal preswylfa ger Split.

Mae Kasparov yn gadeirydd y 'Sefydliad Hawliau Dynol' ac yn cadeirio ei Gyngor Rhyngwladol. Yn 2017, sefydlodd y "Menter Adnewyddu Democratiaeth", sefydliad gwleidyddol Americanaidd i hyrwyddo ac amddiffyn democratiaeth rhyddfrydol yn yr Unol Daleithiau a thramor, ac mae'n gwasanaethu fel cadeirydd y grŵp. Mae hefyd yn llysgennad diogelwch ar gyfer y cwmni meddalwedd Avast.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Kasparov yn Garik Kimovich Weinstein (Rwsieg: Гарик Кимович Вайнштейн, Garik Kimovich Vainshtein) yn Baku, GSS Azerbaijan (Azerbaijan bellach), yr Undeb Sofietaidd. Iddew oedd ei dad, Kim Moiseyevich Weinstein, ac Armeneg oedd ei fam, Klara Shagenovna Kasparova, ac roedd ei rhieni hi yn Armeniaid o Nagorno-Karabakh. Galwodd Kasparov ei hun yn "Gristion hunan-apwyntiedig", er yn "ddifater iawn" ac yn uniaethu fel Rwsieg : " Er fy mod yn hanner-Armenaidd, ac yn hanner Iddewig, rwy'n ystyried fy hun yn Rwsieg oherwydd mai Rwsieg yw fy iaith frodorol, a thyfais i fyny gyda diwylliant Rwsieg." Bu'n rhaid i Kasparov a'i deulu " ffoi Baku rhag pogromau gwrth-Armenaidd ym mis Ionawr 1990 a gydlynwyd gan arweinwyr lleol gyda chydsyniad y Sofietiaid ".

Cyflwyniad i wyddbwyll[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Kasparov astudio gwyddbwyll go iawn ar ôl cynnig ateb i broblem gwyddbwyll yr oedd ei rieni wedi'i adael ar y bwrdd. Pan oedd yn saith mlwydd oed bu farw ei dad o lewcemia . Yn ddeuddeg oed, mabwysiadodd Kasparov, ar gais ei fam Klara a chyda chaniatâd y teulu, y cyfenw Kasparov, er mwyn osgoi'r teimladau gwrth-Semitaidd posibl a oedd yn gyffredin yn yr Undeb Sofietaidd ar y pryd.

Yn saith oed, dechreuodd Kasparov fynychu Plas yr Arloeswyr Ifanc yn Baku a pan yn ddeg, dechreuodd hyfforddi yn ysgol gwyddbwyll Mikhail Botvinnik o dan yr hyfforddwr Vladimir Makogonov. Helpodd Makogonov ddatblygu sgiliau lleoli Kasparov a'i ddysgu i chwarae'r Amddiffyniad Caro-Kann a System Tartakower yng Ngambit y Frenhines. Enillodd Kasparov Bencampwriaeth Iau Sofietaidd yn Tbilisi ym 1976, gan sgorio 7/9, pan yn dair-ar-ddeg oed. Ail-adroddodd y gamp y flwyddyn ganlynol, gan ennill gyda sgôr o 8.5/9 tra'n cael ei hyfforddi gan Alexander Shakarov.

Ym 1978, chwaraeodd Kasparov yn nhwrnamaint Coffa Sokolsky ym Minsk . Roedd wedi derbyn gwahoddiad arbennig i gymryd rhan yn y twrnamaint a gorffennodd yn gyntaf a chael ei urddo'n Feistr Gwyddbwyll. Pwysleisiodd Kasparov bod y digwyddiad hwn yn drobwynt yn ei fywyd a'i fod wedi ei argyhoeddi i ddewis gwyddbwyll fel gyrfa: Ysgrifennodd "Fe gofiaf Cofeb Sokolsky cyhyd ag y byddaf byw". Dywedodd ei fod yn meddwl fod ganddo gyfle da iawn am bencampwriaeth y byd ar ôl y fuddugoliaeth hon.[2]

Gyrfa gwyddbwyll[golygu | golygu cod]

Gwella'n Gyflym[golygu | golygu cod]

Cymhwysodd ar gyfer Pencampwriaeth Gwyddbwyll yr Undeb Sofietaidd am y tro cyntaf ym 1978, yn bymtheg oed, y chwaraewr ieuengaf erioed i wneud hyn. Enillodd dwrnamaint system y Swistir 64-chwaraewr yn Daugavpils ac mewn gêm ail-gyfle yn erbyn Igor V. Ivanov llwyddodd i gipio'r unig safle rhagbrofol. [3]

Cododd Kasparov yn gyflym i fyny system graddio FIDE. Oherwydd amryfusedd gan Ffederasiwn Gwyddbwyll Rwsia, a oedd yn credu bod twrnamaint mawreddog ym Manja Luka, (Iwgoslafia, ar y pryd) ar gyfer plant iau, chwaraeodd yno ym 1979 tra'n dal heb ei raddio. Cymerodd le Viktor Korchnoi a wahoddwyd yn wreiddiol ond a dynnodd yn ôl oherwydd bygythiad boicot gan y Sofietiaid . Enillodd Kasparov y twrnamaint safon uchel hwn, gyda sgôr Elo rhagbrofol o 2595, sgôr digon uchel i'w roi yn rhif 15 yn y byd ar y pryd. Y flwyddyn nesaf, 1980, enillodd Bencampwriaeth Gwyddbwyll Iau y Byd yn Nortmund, Gorllewin yr Almaen . Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf fel ail eilydd i'r Undeb Sofietaidd yn yr Olympiad Gwyddbwyll yn Valletta, Malta, a daeth yn Uwchfeistr.

Yn ei arddegau, daeth Kasparov yn gydradd gyntaf ym Mhencampwriaeth Gwyddbwyll yr Undeb Sofietaidd (efo 12.5/17) gyda Lev Psakhis, er i Psakhis ennill eu gêm unigol. Cafodd ei fuddugoliaeth gyntaf mewn twrnamaint rhyngwladol lefel uwch-ddosbarth yn Bugojno, yn Iwgoslafia ym 1982. Enillodd le yn nhwrnamaint Rhwngzonal Moscow 1982, ac ennill, i gymhwyso ar gyfer Twrnamaint yr Ymgeiswyr.[4] Yn bedair-ar bymtheg oed, ef oedd yr Ymgeisydd ieuengaf ers Bobby Fischer, a oedd yn bymtheg oed pan gymhwysodd ef ym 1958. Erbyn hyn, roedd yn ail ar restr graddio FIDE, tu ôl i Bencampwr y Byd Karpov ar restr Ionawr 1983. [5]

refer to caption
Pencampwr Iau y Byd. Dortmund 1980

Roedd ei gêm Ymgeiswyr cyntaf (go gyn-derfynol) yn erbyn Alexander Beliavsky, ac fe enillodd 6–3 (+4, -1, =4). [6] Roedd gwleidyddiaeth yn bygwth gêm gyn-derfynol Kasparov yn erbyn Korchnoi, a oedd i fod i gael ei chwarae ym Mhasadena, California . Roedd Korchnoi wedi gadael yr Undeb Sofietaidd ym 1976 ac ef bryd hynny oedd y chwaraewr cryfaf nad oedd yn Sofietaidd. Nid oedd yr awdurdodau Sofietaidd am ganiatáu i Kasparov deithio i'r Unol Daleithiau, ac felly gallai Korchnoi ennill heb chwarae. [7] Nid oedd y byd gwyddbwyll yn hapus â hyn, a chytunodd Korchnoi i chwarae'r ornest yn Llundain, ar y cyd â'r gêm gyn-derfynol arall a drefnwyd eisoes rhwng Vasily Smyslov a Zoltan Ribli. Trefnwyd gornest Kasparov-Korchnoi ar fyr rybudd gan Raymond Keene. Collodd Kasparov y gêm gyntaf ond bu'n fuddugol yn y diwedd 7-4 (+4, -1, =6). [8]

Ym mis Ionawr, 1984 cododd Kasparov i rif Un yn y byd ar restr graddio FIDE, gyda gradd o 2710. Ef oedd y rhif Un ieuengaf erioed, record a barhaodd am 12 mlynedd nes i Kramnik ei dorri yn Ionawr 1996.[9] Yr un flwyddyn, enillodd rownd derfynol yr Ymgeiswyr 8½–4½ (+4, =9) yn erbyn cyn-bencampwr y byd Smyslov yn Vilnius, gan gymhwyso i chwarae Karpov ar gyfer Pencampwriaeth y Byd. [10]

Pencampwriaeth y byd 1984[golygu | golygu cod]

'Roedd yr ornest am Bencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd 1984 rhwng Kasparov a Karpov yn llawn cyffro ond gorffennodd yn ddadleuol tu hwnt. Dechreuodd Karpov yn dda iawn, ac ar ôl naw gêm roedd Kasparov yn colli 4-0 mewn gornest 'cyntaf i chwech buddugoliaeth'. Roedd ei gyd chwaraewyr yn rhagweld cyflafan 6-0 mewn 18 gêm.

Yn annisgwyl iawn, cafwyd cyfres o 17 gêm gyfartal yn olynol, rhai yn gymharol fyr, eraill wedi'u cytuno'n gyfartal mewn sefyllfaoedd ansefydlog. Collodd Kasparov gêm 27, gan fynd 5-0 i lawr, yna brwydrodd yn ôl gyda chyfres o gemau cyfartal tan gêm 32, pan enillodd ei fuddugoliaeth gyntaf erioed yn erbyn Pencampwr y Byd a dod â'r sgôr i 5-1. Daeth 14 gêm gyfartal arall, tan cyrraedd gêm 46; y record flaenorol ar gyfer gornest teitl byd oedd 34 gêm ( José Raúl Capablanca vs. Alexander Alekhine ym 1927).

Enillodd Kasparov gemau 47 a 48 i ddod â'r sgôr i 5-3 o blaid Karpov. Yna daethpwyd â'r ornest i ben heb ganlyniad gan Lywydd FIDE Florencio Campomanes, a threfnwyd gornest newydd i ddechrau ychydig fisoedd yn ddiweddarach. Roedd y terfyniad hwn yn ddadleuol iawn, a datganodd y ddau chwaraewr ei bod yn well ganddynt i'r gemau barhau. [11] [12] Wrth gyhoeddi ei benderfyniad, cyfeiriodd Campomanes at iechyd y chwaraewyr, a oedd dan straen oherwydd hyd yr ornest. [13] Yn ôl yr Uwchfeistri Boris Gulko a Korchnoi, a'r haneswyr Vladimir Popow ac Yuri Felshtinsky yn eu llyfr The KGB Plays Chess, roedd Campomanes wedi bod yn asiant i'r KGB ac fe'i orchmynnwyd i atal gorchfygiad Karpov. Daeth y gêm i ben tra bod Karpov yn dal ar y blaen i osgoi'r argraff hwn, [14] ond mae hyn yn ddadleuol.

Dyma'r tro cyntaf, a hyd yn hyn yn unig dro i bencampwriaeth y byd gael ei stopio fel hyn. Daeth straen ar berthynas Kasparov â Campomanes a FIDE, [14] [15] o'r herwydd a daeth pethau i ben ym 1993 pan dorrodd Kasparov i ffwrdd o FIDE. [16]

Pencampwr y byd[golygu | golygu cod]

refer to caption
Pencampwr y Byd 1985

Trefnwyd yr ail ornest Karpov-Kasparov ym 1985, ym Moscow. Byddai'r chwaraewr cyntaf i sgorio 12½ pwynt mewn 24 gêm yn hawlio'r teitl. Ni fyddai'r sgoriau o'r ornest a derfynwyd yn cario drosodd; ond, pe bai'n gorffen yn 12-12, byddai Karpov yn cadw'r teitl. Ar 9 Tachwedd,1985 sicrhaodd Kasparov y bencampwriaeth gyda sgôr o 13–11. Roedd angen i Karpov, gyda Gwyn, ennill y 24ain gêm i gadw ei deitl ond Kasparov aeth a hi gyda'r Amddiffyniad Sisilaidd.[17] Roedd yn 22 oed ar y pryd, ac felly'n dod yn Bencampwr y Byd ieuengaf erioed, [18] record a ddaliwyd tan hynny gan Mikhail Tal ers dros 20 mlynedd. [19] Mae buddugoliaeth Kasparov gyda Du yn yr 16eg gêm yn cael ei chydnabod fel un o gampweithiau gwyddbwyll, ac fe'i dewiswyd (drwy bleidlais) fel y gêm orau a chwaraewyd yn ystod 64 rhifyn cyntaf y cylchgrawn Chess Informant. [20] [21]

Fel rhan o'r trefniadau yn dilyn erthyliad y gêm gyntaf, cafodd Karpov yr hawl i ail-chwarae, pe collai. Felly cynhaliwyd gornest arall ym 1986, a drefnwyd ar y cyd rhwng Llundain a Leningrad, [22] [23] gyda 12 gêm yr un yn y ddwy dinas . Ar un adeg, aeth Kasparov ar y blaen o dri phwynt ac edrychai fod cyflafan i ddod. Ond brwydrodd Karpov yn ôl trwy ennill tair gêm yn olynol i unioni'r sgôr yn hwyr yn y gêm. Yna, diswyddodd Kasparov un o'i eilyddion, yr Uwchfeistr Evgeny Vladimirov, gan ei gyhuddo o werthu ei baratoadau agoriadol i dîm Karpov (fel y disgrifir yn hunangofiant Kasparov Unlimited Challenge, pennod Stab in the Back). Sgoriodd Kasparov un fuddugoliaeth arall gan gadw ei deitl gyda'r sgôr agos iawn 12½–11½. [23]

Cymhwysodd Karpov trwy Gemau'r Ymgeiswyr i fod yr heriwr swyddogol unwaith eto, a cynhaliwyd y bedwaredd ornest rhyngddynt am Bencampwriaeth y Byd ym 1987 yn Seville. [24] Roedd y gêm hon yn agos iawn hefyd, gyda'r naill chwaraewr na'r llall fwy nag un pwynt ar y blaen ar unrhyw adeg. Gydag un gêm ar ôl, roedd Kasparov ar ei hôl hi o un pwynt ac angen buddugoliaeth i ennill y gêm i gadw ei deitl (gyda sgôr cyfartal). Ar ôl gêm llawn tyndra gwnaeth Karpov gamgymeriad a colli gwerinwr ychydig cyn y rheoliad amser cyntaf. Enillodd Kasparov ddiweddglo hir i gadw'r teitl gyda sgôr o 12-12. [25]

Cyfarfu Kasparov a Karpov am y pumed tro, y tro hwn yn Ninas Efrog Newydd a Lyon ym 1990, eto gyda 12 gêm yn y ddwy ddinas. Bu canlyniad agos unwaith eto, gyda Kasparov yn fuddugol o 12½–11½. Yn eu pum gornest am Bencampwriaeth y Byd, cafodd Kasparov 21 buddugoliaeth, 19 colled a 104 gêm gyfartal dros 144 gêm. [26]

Torri gyda FIDE a'i ddiarddel[golygu | golygu cod]

refer to caption
Kasparov ac Anand ar ben Canolfan Masnach y BydEfrog Newydd 1995

Ym mis Tachwedd, 1986 sefydlodd Kasparov ' Cymdeithas yr Uwchfeistri ' i gynrychioli chwaraewyr proffesiynol a rhoi mwy o lais iddynt yng ngweithgareddau FIDE. [27] Gyda Kasparov yn arwain, prif gamp CYU oedd trefnu cyfres o chwe thwrnamaint Cwpan y Byd ar gyfer y chwaraewyr cryfaf.[28] Datblygodd berthynas anesmwyth rhwng Kasparov a FIDE oherwydd hyn. [29] Y mis blaenorol roedd Kasparov wedi gwneud ei deimladau’n glir i’w gyd-Uwchfeistr Keene: “Rhaid i Campomanes fynd. Mae'n rhyfel i'r diwedd ag ef cyn belled ag yr wyf i yn y cwestiwn. Fe wnaf popeth o fewn fy ngallu i gael gwared ag ef”. [30]

Parhaodd pethau'n ddrwg tan 1993, ac erbyn hynny roedd heriwr newydd wedi cymhwyso trwy'r cylch Ymgeiswyr: Uwchfeistr Nigel Short o Loegr oedd wedi trechu Karpov mewn gêm ragbrofol, a Jan Timman yn y rownd derfynol a gynhaliwyd yn gynnar ym 1993. [31] Ar ôl i broses ddryslyd a chywasgedig o chwilio am nawdd gynhyrchu amcangyfrifon ariannol is na'r disgwyl, [32] gwrthododd pencampwr y byd a'i heriwr gais FIDE am ornest ym mis Awst ym Manceinion a penderfynasant chwarae y tu allan i awdurdodaeth FIDE. [33] [34] Cynhaliwyd eu gêm o dan nawdd y Gymdeithas Gwyddbwyll Proffesiynol (CGP), sefydliad â grewyd gan Kasparov a Short. [27] [35] Felly daeth toriad yn llinach Pencampwriaeth y Byd FIDE. Mewn cyfweliad yn 2007, dywedodd Kasparov mai'r toriad gyda FIDE ym 1993 oedd camgymeriad gwaethaf ei yrfa, ac wedi gwneud drwg i wyddbwyll yn y pen draw.

Diarddelwyd Kasparov a Short gan FIDE a chwaraewyd eu gornest yn Llundain ym Medi 1993, dan nawdd y CGP. [36] Enillodd Kasparov yn hawdd gyda sgôr o 12½–7½. Cododd hyn broffil gwyddbwyll yn sylweddol yn y DU, gyda gryn dipyn o sylw ar Channel 4 . [37] [38] Yn y cyfamser, trefnodd FIDE ornest am bencampwriaeth y byd rhwng Timman (y cystadleuydd a gollodd yn rownd derfynol yr Ymgeiswyr) a chyn-bencampwr y byd Karpov (y cystadleuydd a gollodd yn rownd gynderfynol yr Ymgeiswyr), ac enillodd Karpov. [39] [40]

Tynnwyd Kasparov a Short oddi ar restr graddio FIDE. Yn dilyn hynny, creodd y CGP ei restr graddio ei hun, yn cynnwys holl chwaraewyr gorau'r byd. Bellach roedd dau bencampwr byd: pencampwr CGP Kasparov a phencampwr FIDE Karpov. [41] Bu'r teitl yn rhanedig am 13 mlynedd.

Amddiffynnodd Kasparov ei deitl CGP ym 1995 yn erbyn Viswanathan Anand yng Nghanolfan Masnach y Byd yn Ninas Efrog Newydd. Enillodd Kasparov yr ornest 10.5/7.5 (+4, -1, =13). [42]

Ceisiodd Kasparov drefnu gornest arall am bencampwriaeth y byd o dan sefydliad gwahanol eto, Cymdeithas Gwyddbwyll y Byd (CGB), gyda threfnydd Twrnamaint Linares, Luis Rentero. Chwaraeodd Alexei Shirov a Kramnik gemau rhagbrofol i benderfynu ar yr heriwr, ac enillodd Shirov, yn groes i'r disgwyl. Ond pan gyfaddefodd Rentero nad oedd yr arian oedd ei angen ac a addawyd wedi dod i'r fei, cwympodd y CGB. Daeth corff arall i'r adwy, BrainGames.com, dan arweiniad Raymond Keene. Pan na allai BrainGames.com ddod i gytundeb gyda Shirov, ac yna chwalodd eu trafodaethau gydag Anand, trefnwyd gornest gyda Kramnik yn lle hynny. [43]

Tua'r adeg yma, cysylltodd Ysgol Oakham yn Lloegr â Kasparov, yr unig ysgol yn y wlad ar y pryd â hyfforddwr gwyddbwyll llawn amser, [44] a datblygodd Kasparov ddiddordeb yn y defnydd o wyddbwyll mewn addysg. Ym 1997, cefnogodd Kasparov raglen ysgoloriaeth yn yr ysgol. [45] Hefyd yn ystod y flwyddyn enillodd Dlws Marca Levenda. [46]

Colli'r teitl[golygu | golygu cod]

refer to caption
Kasparov yn chwarae Kramnik Cofeb Botvinnik Moscow, 2001

Cynhaliwyd gornest Kasparov-Kramnik yn Llundain yn ystod ail hanner 2000. Bu Kramnik yn fyfyriwr i Kasparov yn ysgol wyddbwyll enwog Botvinnik/Kasparov yn Rwsia a gwasanaethodd ar dîm Kasparov ar gyfer ei ornest gydag Anand ym 1995. [47]

Gyda paratoad gwell enillodd Kramnik gêm 2 yn erbyn Amddiffyniad Grunfeld Kasparov a cafodd sefyllfaoedd buddugol yng ngemau 4 a 6, ond cafodd Kasparov gemau cyfartal yn y ddwy yn y diwedd. Cafwyd camgymeriad gwael gan Kasparov yn y 10fed gêm gyda'r Amddiffyniad Nimzo-Indiaidd, ac enillodd Kramnik mewn 25 symudiad. Fel Gwyn, ni allai Kasparov wneud dim yn erbyn amddiffyniad cadarn y Berlin yn y Ruy Lopez a llwyddodd Kramnik i gael gemau cyfartal gyda Du. Felly enillodd Kramnik 8.5-6.5. [48]

Enillodd Kasparov gyfres o dwrnameintiau mawr a pharhaodd y chwaraewr â'r sgôr rhif Un yn y byd ar restr graddio y CGP, ar y blaen i Kramnik a phencampwr y byd FIDE. Yn 2001 gwrthododd wahoddiad i Dwrnamaint yr Ymgeiswyr yn Dortmund 2002 ar gyfer y teitl Clasurol, gan honni bod ei ganlyniadau gwych yn rhoi'r hawl iddo ail-chwarae â Kramnik. [49]

Chwaraeodd Kasparov a Karpov ornest bedair gêm gyda rheoli-amser cyflym ym mis Rhagfyr 2002 yn Ninas Efrog Newydd. Synnwyd rhai pan gollodd Kasparov (1.5 - 2.5).

Oherwydd canlyniadau cryf Kasparov a'i statws Rhif Un ar restr graddio FIDE, cafodd ei gynnwys yn yr hyn a elwir yn "Cytundeb Prague", a greuwyd gan Yasser Seirawan er mwyn uno y ddwy bencampwriaeth y byd. Roedd Kasparov i chwarae gornest yn erbyn Pencampwr y Byd FIDE (Ponomariov erbyn hyn) ym mis Medi 2003. [50] Ond cafodd yr ornest hon ei gohirio ar ôl i Ponomariov wrthod arwyddo ei gytundeb. Wedi hyn, trefnwyd gornest yn erbyn Rustam Kasimdzhanov, enillydd Pencampwriaeth y Byd FIDE, 2004, i'w gynnal ym mis Ionawr 2005 yn yr Emiriaethau Arabaidd Unedig, ond ni ddigwyddodd hyn oherwydd diffyg nawdd. Wedyn cafwyd cynlluniau i gynnal y gêm yn Nhwrci ond aeth hyn i'r wal hefyd. Cyhoeddodd Kasparov ym mis Ionawr 2005 ei fod wedi blino aros i FIDE drefnu gornest a'i fod wedi penderfynu rhoi'r gorau i bob ymdrech i uno'r teitl a dod yn bencampwr y byd unwaith eto. [51]

Ymddeol o wyddbwyll cystadleuol rheolaidd[golygu | golygu cod]

Ar ôl iddo ennill Twrnamaint Linares am y nawfed tro, cyhoeddodd Kasparov ar 10 Mawrth, 2005 y byddai'n ymddeol o wyddbwyll cystadleuol rheolaidd. Nododd fel y rheswm nad oedd ganddo uchelgais personol ar ôl yn y byd gwyddbwyll. Wrth ennill Pencampwriaeth Rwsia yn 2004, dywedodd mai hwn oedd y teitl mawr olaf iddo nad oedd erioed wedi ennill (heblaw am ddod yn gyfartal gyntaf) a mynegodd rwystredigaeth ynghylch â'r methiant i aduno pencampwriaeth y byd. [52] [51]

Dywedodd Kasparov ei fod yn bwriadu chwarae mewn rhai digwyddiadau gwyddbwyll cyflym am hwyl, ac am dreulio mwy o amser yn ysgrifennu, gan gynnwys y gyfres My Great Predecessors, a gweithio ar y cysylltiadau rhwng gwneud penderfyniadau mewn gwyddbwyll a meysydd eraill o fywyd. Dywedodd hefyd y byddai'n parhau i ymwneud â gwleidyddiaeth Rwsia, a oedd yn ei farn ef yn "mynd i lawr llwybr cyfeiliornus" [53] [54]

Gwyddbwyll ar ôl ymddeol[golygu | golygu cod]

Ar 22 Awst, 2006 yn ei gemau gwyddbwyll cyhoeddus cyntaf ers ei ymddeoliad, chwaraeodd Kasparov yn Nhwrnamaint Pencampwyr Gwyddbwyll Lichthof, gornest blitz a chwaraewyd ar reolaeth amser o bum munud bob ochr a chynyddiadau tair eiliad fesul bob symudiad. Gorffennodd Kasparov yn gydradd gyntaf gyda Karpov, gan sgorio 4½/6. [55]

Chwaraewyd gornest 12 gêm rhwng Kasparov a Karpov rhwng 21 a 24 Medi, 2009 yn Valencia, Sbaen. Gyda pedair gêm gyflym (neu lled gyflym), lle enillodd Kasparov 3-1, ac wyth gêm blitz, lle enillodd Kasparov 6-2, bu Kasparov yn fuddugol gyda chanlyniad terfynol o 9-3. Daeth hyn union 25 mlynedd ar ôl y cyfarfod anorffenedig y ddau chwaraewr ym Mhencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd 1984. [56]

Gan ddechrau ym mis Chwefror, 2009 bu Kasparov yn hyfforddi Magnus Carlsen ac arhosodd y cydweithio yn gyfrinachol tan fis Medi, 2009. [57] O dan hyfforddiant Kasparov, ym mis Hydref, 2009 daeth Carlsen yr ieuengaf erioed i gael gradd FIDE dros 2800, a chododd o rif pedwar y byd i rif Un y Byd. Er bod y ddau wedi bwriadu gweithio gyda'i gilydd ar y dechrau trwy gydol 2010, ym mis Mawrth cyhoeddwyd bod Carlsen wedi gwahanu oddi wrth Kasparov ac na fyddai'n hyfforddi efo mwyach. [58] Yn ôl cyfweliad gyda'r cylchgrawn Almaeneg Der Spiegel, dywedodd Carlsen y byddai'n parhau mewn cysylltiad ac y byddai'n parhau i fynychu sesiynau hyfforddi gyda Kasparov; fodd bynnag, ni chynhaliwyd unrhyw sesiynau hyfforddi pellach, a daeth y cydweithio i ben yn ystod y gwanwyn. [59] Yn 2011, dywedodd Carlsen: “Diolch i [Kasparov] dechreuais ddeall dosbarth cyfan o sefyllfaoedd yn well. . . . Rhoddodd Kasparov lawer iawn o help ymarferol i mi.” [60] Yn 2012, pan ofynnwyd iddo beth a ddysgodd o weithio gyda Kasparov, atebodd Carlsen: “Sefyllfaoedd cymhleth. Dyna oedd y peth pwysicaf.” [61]

Ym mis Mai, 2010 chwaraeodd ac enillodd Kasparov 30 gêm ar-y-pryd ym Mhrifysgol Tel Aviv yn Israel. [62] Yn yr un mis, datgelwyd ei fod wedi bod yn cynorthwyo Anand yn ei baratoadau ar gyfer Pencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd 2010 yn erbyn yr heriwr Veselin Topolov. Enillodd Anand 6½–5½ a cadw ei teitl. [63]

refer to caption
Kasparov yn Arizona Hydref 2017

Dechreuodd Kasparov hyfforddi'r uwchfeistr o'r Unol Daleithiau Hikaru Nakamura ym mis Ionawr, 2011. Cynhaliwyd y cyntaf o nifer o sesiynau hyfforddi yn Efrog Newydd ychydig cyn i Nakamura gymryd rhan yn nhwrnamaint Gwyddbwyll Tata Steel yn Wijk aan Zee, yr Iseldiroedd. [64] Ym mis Rhagfyr, 2011 daeth eu cydweithrediad i ben. [65]

Chwaraeodd Kasparov mewn dwy ornest arddangos blitz yn yr hydref 2011. Roedd y cyntaf ym mis Medi yn erbyn yr Uwchfeistr Ffrengig Maxime Vachier-Lagrave, yng Nghlichy (Ffrainc), ac enillodd Kasparov 1½–½. [66] Roedd yr ail yn ornest hirach ac yn cynnwys wyth gêm blitz a chwaraewyd ar 9 Hydref, yn erbyn yr Uwchfeistr o Loegr, Nigel Short. Enillodd Kasparov 4½–3½. [67] [68] Ychydig wedi hynny, ym mis Hydref, 2011 chwaraeodd Kasparov a curo pedwar ar ddeg o wrthwynebwyr mewn arddangosfa ar-y-pryd a gynhaliwyd ym Mratislava . [69]

Ar 25 a 26 Ebrill, 2015 chwaraeodd Kasparov ornest fach yn erbyn Nigel Short. Roedd yr ornest yn cynnwys dwy gêm gyflym ac wyth gêm blitz a ymladdwyd dros ddau ddiwrnod. Dywedodd y sylwebwyr yr Uwchfeistri Maurice Ashley ac Alejandro Ramirez fod Kasparov yn 'fochyn mentro' trwy gydol y gêm, ac yn gwrthod â chaniatáu i Short ennill unrhyw gyfle yn y gemau. Enillodd Kasparov yr ornest yn hawdd (8½–1½), [70] ac ennill y pum gêm ar yr ail ddiwrnod.

Ymgeisio am arlywyddiaeth FIDE[golygu | golygu cod]

Ar 7 Hydref, 2013 mewn cyfarfod yn Nhallinn, Estonia lle cynhaliwyd y 84ain Cyngres FIDE cyhoeddodd Kasparov ei fod am ymgeisio am arlywyddiaeth Ffederasiwn Gwyddbwyll y Byd. [71] Fe'i cefnogwyd gan Bencampwr a rhif Un y Byd FIDE, Magnus Carlsen. [72] Ond yng Nghynulliad Cyffredinol FIDE ym mis Awst 2014, collodd Kasparov yr etholiad arlywyddol i’r daliwr Kirsan Ilyumzhinov, o 110–61. [73]

Ychydig ddyddiau cyn yr etholiad, cyhoeddodd y New York Times Magazine adroddiad ar yr ymgyrch a ymladdwyd mor ffyrnig. Yn gynwysedig yn yr adroddiad roedd gwybodaeth am gontract gudd rhwng Kasparov a chyn-Ysgrifennydd Cyffredinol FIDE Ignatius Leong o Singapôr, lle dywedir bod ymgyrch Kasparov “wedi cynnig talu UDA$500,000 i Leong a thalu $250,000 y flwyddyn am bedair blynedd i Academi Gwyddbwyll ASEAN, sefydliad helpodd Leong ei greu i ddysgu a hyrwyddo'r gêm yn Asia, gyda'r gytundeb y byddai Leong yn gyfrifol am gyflwyno 11 pleidlais o'i ranbarth [. . . ]". [74] Ym mis Medi, 2015 dywedodd Comisiwn Moeseg FIDE fod Kasparov a Leong yn euog o dorri eu Cod Moeseg [75] ac yn ddiweddarach fe'i hataliwyd am ddwy flynedd o holl swyddogaethau a chyfarfodydd FIDE. [76]

Dychwelyd o ymddeoliad gwyddbwyll[golygu | golygu cod]

Daeth Kasparov allan o ymddeoliad i gystadlu yn nhwrnamaint Cyflym a Blitz cyntaf St. Louis 14 i 19 Awst 2017, gan sgorio 3.5/9 yn y gemau cyflym a 9/18 yn y blitz. Gorffennodd yn wythfed allan o ddeg, yn cynnwys Nakamura, Caruana, cyn-bencampwr y byd Anand a'r enillydd, Levon Aronian. [77] [78] Addawodd Kasparov y byddai unrhyw arian twrnamaint a enillodd yn mynd tuag at elusennau i hyrwyddo gwyddbwyll yn Affrica. [79]

Yn 2020, cymerodd ran yn 9LX, twrnamaint 'Gwyddbwyll 960', a gorffennodd yn wythfed allan o ddeg. [80] Cafodd gêm gyfartal yn erbyn Carlsen, a orffennodd yn gydradd gyntaf. [81]

Yn 2021, lansiodd Kasparovchess, cymuned gwyddbwyll ar-lein sy'n seiliedig ar danysgrifiadau, lle ceir rhaglenni dogfen, gwersi, posau, podlediadau, erthyglau, cyfweliadau a pharthau chwarae. [82]

Chwaraeodd Kasparov yn adran blitz y 'Grand Chess Tour 2021' yn Zagreb, Croatia. Perfformiodd yn wael, fodd bynnag, gan sgorio 0.5/9 y diwrnod cyntaf a 2/9 ar yr ail ddiwrnod, gydag un buddugoliaeth yn unig yn erbyn Jorden Van Foreest. [83] [84] Cymerodd ran hefyd yn 9LX 2, gan orffen yn bumed allan o ddeg, gyda sgôr o 5/9. [85]

Cystadleuthau tîm ac Olympiad[golygu | golygu cod]

refer to caption
Kasparov yn Valletta 1980

Chwaraeodd Kasparov mewn cyfanswm o wyth Olympiad Gwyddbwyll gan gynrychioli yr Undeb Sofietaidd bedair gwaith, a Rwsia bedair gwaith yn dilyn chwalfa'r Undeb Sofietaidd ym 1991. Ar ei ymddangosiad cyntaf ym 1980, ef, yn ddau-ar-bumtheg oed, oedd y chwaraewr ieuengaf i gynrychioli'r Undeb Sofietaidd neu Rwsia ar y lefel honno, record a dorrwyd gan Kramnik ym 1992. Mewn 82 o gemau, sgoriodd (+50, −3, =29), sef 78.7%, ac enillodd gyfanswm o bedwar ar bymtheg o fedalau, gan gynnwys medalau aur y tîm yr wyth gwaith y cystadlodd. [86]

Ar gyfer Olympiad Moscow 1994, cafodd rôl trefnu sylweddol wrth iddo helpu cynllunio'r digwyddiad ar fyr rybudd, ar ôl i Thessaloniki dynnu'n ôl eu cynnig i'w gynnal ychydig wythnosau cyn y dyddiadau a drefnwyd. Mae canlyniadau Kasparov mewn Olympiad fel a ganlyn: [87]

  • Valletta 1980 Ail eilydd Undeb Sofietaidd, 9½/12 (+8, −1, =3), medal aur tîm, efydd bwrdd;
  • Lucerne 1982, Ail fwrdd yr Undeb Sofietaidd, 8½/11 (+6. −0, =5), medal aur tîm, efydd bwrdd;
  • Dubai 1986, bwrdd Un yr Undeb Sofietaidd, 8½/11 (+7, −1, =3), medal aur tîm, aur bwrdd, aur perfformiad;
  • Thessaloniki 1988, bwrdd Un yr Undeb Sofietaidd, 8½/10 (+7, −0, =3), medal aur tîm, aur bwrdd, aur perfformiad;
  • Manila 1992, bwrdd Un Rwsia, 8½/10 (+7, −0, =3), medal aur tîm, aur bwrdd, arian perfformiad;
  • Moscow 1994, bwrdd Un Rwsia, 6½/10 (+4, −1, =5), medal aur tîm;
  • Yerevan 1996, bwrdd Un Rwsia, 7/9 (+5, −0, =4), medal aur tîm, arian bwrdd, aur perfformiad;
  • Bled 2002, bwrdd Un Rwsia, 7½/9 (+6, −0, =3), medal aur tîm, aur perfformiad.

Gwnaeth Kasparov ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf i'r Undeb Sofietaidd yn un-ar-bymtheg ym Mhencampwriaeth Tîm Ewropeaidd 1980 a chwaraeodd i Rwsia yn rhifyn 1992 o'r bencampwriaeth honno. Enillodd gyfanswm o bum medal, fel a ganlyn: [88]

  • Skara 1980, Ail eilydd yr Undeb Sofietaidd, 5½/6 (+5, −0, =1), medal aur tîm, aur bwrdd;
  • Debrecen 1992, bwrdd Un Rwsia, 6/8 (+4, −0, =4), medal aur tîm, aur bwrdd, arian perfformiad.

Cynrychiolodd Kasparov yr Undeb Sofietaidd unwaith yn yr Olympiad Ieuenctid, yn Awstria (1981). Sgoriodd 9/10 (+8, -0, =2, ) ar bwrdd Un ac enillodd y tîm y teitl. [89]

Asesiad ac etifeddiaeth[golygu | golygu cod]

Cafodd Kasparov un-ar-ddeg Oscar Gwyddbwyll fel chwaraewr gorau'r flwyddyn, ym 1982-1983, 1985-1988, 1995-1996, 1999, a 2001-2002. [90] Rhwng 1981 a 1991, enillodd neu bu'n gydradd gyntaf ym mhob twrnamaint lle bu'n cystadlu. [91] Ym 1999, cafodd Kasparov radd Elo o 2851, record a safodd am dros dair blynedd ar ddeg: ar 10 Rhagfyr, 2012 cafodd Carlsen radd answyddogol o 2861, a daeth ar frig y rhestr a ryddhawyd nesaf ym mis Ionawr, 2013. [92] [93] Ac eithrio'r cyfnod y CUP, a bod yn gyfartal gyntaf gyda Kramnik ym 1997, roedd Kasparov ar frig y rhestr graddio o 1985 i 2006. Ar 1 Ionawr, 2006 Kasparov oedd ar y brig gyda gradd o 2812. Fodd bynnag, fe'i eithriwyd o restr graddio FIDE 1 Ebrill, 2006 am nad oedd wedi cystadlu mewn twrnameintiau yn ystod y deuddeg mis blaenorol. [94]

Roedd yr ymryson rhwng Kasparov a Karpov (y "ddau K" fel y'i gelwid) [95] yn un o'r mwyaf yn hanes gwyddbwyll. Mewn chwe blynedd chwaraesont bum gornest gyda 144 o gemau. [96] [97] Am amser hir bu gelyniaeth bersonol rhyngddynt. Roedd arwyddocâd gwleidyddol i'r gwrthdaro rhwng y ddau hefyd. Ystyriwyd Karpov yn gynrychiolydd o'r Sofietiaid, tra bod Kasparov yn ifanc ac yn boblogaidd, yn gosod ei hun fel "plentyn newid", yn barod i roi cyfweliadau gonest ac (yn enwedig yn y Gorllewin) roedd ganddo naws rebel, er na fu erioed yn 'dissident'. [97] Roedd buddugoliaeth Kasparov ym 1985 yn cyd-fynd â dechrau Perestroika yn yr Undeb Sofietaidd.

Dywed Carlsen am Kasparov: "Dwi erioed wedi gweld neb sydd â'r fath ymdeimlad o ddeinameg mewn sefyllfaoedd cymhleth." [98] Mae Kramnik wedi dweud bod “gallu astudio heb ei ail” gan Kasparov, gan ychwanegu “ Does dim byd mewn gwyddbwyll nad yw wedi medru delio ag ef.” [99]

Yn 2007, cyhoeddodd y cwmni ymgynghori rhyngwladol Synectics radd i 100 o athrylithion byw mewn gwyddoniaeth, gwleidyddiaeth, celf ac entrepreneuriaeth, ac roedd Kasparov yn y 25fed safle. [100]

Arddull chwarae[golygu | golygu cod]

Dywed Kramnik fod Kasparov yn chwaraewr gwyddbwyll heb fawr ddim gwendidau. [101] Nodweddir ei gemau gan arddull chwarae deinamig gyda'r ffocws ar dactegau, dyfnder strategaeth, cyfrifo cynnil a syniadau agoriadol gwreiddiol. [102] Roedd Kasparov yn nodweddiadol am ei baratoi agoriadol helaeth a'i chwarae ymosodol ynddynt. [103] [104] Ystyriodd Sergey Shipov rinweddau moesol a gwirfoddol Kasparov (byrbwylltra ac ansefydlogrwydd seicolegol) a'i dibyniaeth ormodol ar opsiynau gwahanol, a all arwain at orweithio a chamgymeriadau, ymhlith ei ychydig ddiffygion. [105]

Mae arddull ymosodol Kasparov o chwarae wedi cael ei gymharu gan lawer i Alekhine, [106] [107] a fu'n eilun ganddo ers ei blentyndod. Disgrifiodd Kasparov ei arddull fel un sydd wedi’i ddylanwadu’n bennaf gan Alekhine, Tal a Fischer. [108] Dylanwadau eraill ar Kasparov oedd ei hyfforddwyr cynnar. Pan yn ifanc, cyfarfu a'r athrawon profiadol Alexander Nitikin ac Alexander Shakarov. Casglodd a threfnusodd Shakarov ei ddefnyddiau, ac yna daeth yn geidwad 'banc gwybodaeth' Kasparov. Cam chwyldroadol y pryd hynny oedd defnyddio rhaglenni cyfrifiadurol wrth ddadansoddi gemau, a Kasparov a'i dîm gymerodd y camau cyntaf yn hyn o beth. [109] [110] Ym 1973, aeth Kasparov i ysgol Botvinnik a denodd sylw yn syth. Dywedodd Botvinnik am y bachgen ysgol ifanc: “Mae cyflymder a gallu cof Garry yn anhygoel. Gall weld amrywiadau'n ddwfn a dod o hyd i symudiadau annisgwyl. Mae'i allu gweledigaeth gyfunol yn ei wneud yn debyg i Alekhine." [111]

Cyfraniad at ddamcaniaeth agoriadol[golygu | golygu cod]

Cydnabyddir cyfraniad Kasparov i ddamcaniaeth agoriadol. Yn y 1990au, datblygodd yn systematig amrywiadau newydd gyda rhaglenni cyfrifiadurol. Hoff systemau agoriadol Kasparov oedd Agoriad Indiaidd y Frenhines efo Gwyn ac amrywiadau o'r Amddiffyniad Sisilaidd gyda Du. [111] [112] Fe wnaeth hefyd "ail-wneud" y gêm Scotaidd mewn cystadlaethau lefel uchaf. Defnyddiodd Kasparov yr agoriad hwn, a ystyriwyd yn hen ffasiwn, yn llwyddiannus, mewn gêm ym 1990 yn erbyn Karpov ac mewn gemau gyda Short ac Anand. [113] Gelwir un cangen o'r Amrywiad Szen yn yr Amddiffyniad Sisilaidd yn Gambit Kasparov. [114] Defnyddiodd Kasparov yr amrywiad hwn yn y 12fed a'r 16eg gêm yn yr ornest gyda Karpov ym 1985; ac yn yr ail o'r gemau hyn, fe enillodd. [114]

Enghraifft enwog arall o ennill gêm bwysig gyda symudiad newydd agoriadol yw 10fed gêm Kasparov yn ei ornest ym 1995 yn erbyn Anand. Ar y 14fed symudiad, mewn sefyllfa adnabyddus yn amrywiad Agored yn y Rui Lopez, chwaraeodd Kasparov symudiad newydd ac aberthu castell, a cael ymosodiad llwyddiannus. [115]

Mae Kasparov wedi cyd-ysgrifennu nifer o lyfrau ar theori agoriadol. [116]

Gradd gwyddbwyll[golygu | golygu cod]

Deil Kasparov y record am yr amser hiraf fel y chwaraewr yn safle Rhif Un y Byd - o 1984 i 2005 (rhannodd Kramnik safle rhif Un gydag ef unwaith, ar restr graddio Ionawr, 1996 FIDE). [117] Roedd ar frig rhestr graddio y CGP ar ôl cael ei ddiarddel gan FIDE. Ar adeg ei ymddeoliad, roedd yn dal i fod yn Rhif Un yn y byd, gyda sgôr o 2812. Mae ei radd yn cael ei nodi fel 'segur' ers rhestr graddio Ionawr 2006. [118]

Ym mis Ionawr, 1990 cafodd Kasparov y gradd FIDE uchaf erioed (ar y pryd), gan basio 2800 a thorri record Fischer o 2785. Erbyn rhestr graddio FIDE yng Ngorffennaf, 1999 ac Ionawr, 2000, roedd Kasparov wedi cyrraedd Gradd Elo o 2851, yr uchaf erioed ar y pryd. Daliodd y record honno nes i Carlsen gyrraedd 2861 ym mis Ionawr, 2013. [119]

Campau eraill[golygu | golygu cod]

Mae Kasparov yn dal y record am y nifer fwyaf o fuddugoliaethau twrnamaint proffesiynol yn olynol, gan ddod yn gyntaf, neu'n gyfartal gyntaf mewn pymtheg twrnamaint unigol rhwng 1981 a 1990. [120] Gorffennodd y rhediad yn Linares 1991, pan orffennodd Kasparov yn ail, hanner pwynt y tu ôl i Ivanchuk ar ôl colli eu gêm unigol. Dyma fanylion y rhediad: [4]

  • Frunze1981, Pencampwriaeth yr Undeb Sofietaidd, 12½/17, =1af;
  • Bugojno1982, 9½/13, 1af;
  • Moscow 1982, Rhwngzonal, 10/13, 1af;
  • Niksic 1983, 11/14, 1af;
  • OHRA Brwsel 1986, 7½/10, 1af;
  • Brwsel SWIFT 1987, 8½/11, =1af;
  • Amsterdam Optiebeurs 1988, 9/12, 1af;
  • Belfort (Cwpan y Byd) 1988, 11½/15, 1af;
  • Moscow 1988, Pencampwriaeth yr Undeb Sofietaidd, 11½/17, =1af;
  • Reykjavík (Cwpan y Byd) 1988, 11/17, 1af;
  • Barcelona (Cwpan y Byd) 1989, 11/16, =1af;
  • Skellefteå (Cwpan y Byd) 1989, 9½/15, =1af;
  • Tilburg 1989, 12/14, 1af;
  • Belgrâd (Banc Buddsoddi) 1989, 9½/11, 1af;
  • Linares1990, 8/11, 1af.

Aeth Kasparov am naw mlynedd gan ennill pob uwch-dwrnamaint a chwaraeodd, yn ogystal â ymladd ei bum gornest gyda Karpov. Ei unig fethiant yn y cyfnod hwn mewn twrnamaint neu gemau oedd yr ornest am Bencampwriaeth y Byd ym 1984 yn erbyn Karpov.

Ar ddiwedd y 1990au, aeth Kasparov ar rediad hir arall o ddeg buddugoliaeth uwch-dwrnamaint yn olynol. [121]

  • Wijk aan Zee Hoogovens 1999, 10/13, 1af;
  • Linares 1999, 10½/14, 1af;
  • Sarajevo 1999, 7/9, 1af;
  • Wijk aan Zee Corus 2000, 9½/13, 1af; Linares 2000, 6/10, =1af;
  • Sarajevo 2000, 8½/11, 1af;
  • Wijk aan Zee Corus 2001, 9/13, 1af;
  • Linares 2001, 7.5/10, 1af;
  • Astana 2001, 7/10, 1af;
  • Linares 2002, 8/12, 1af.

Yn y buddugoliaethau twrnamaint hyn, cafodd Kasparov 53 buddugoliaeth, 61 gêm gyfartal ac 1 colled mewn 115 gêm, ei unig golled yn erbyn Ivan Sokolov yn Wijk aan Zee 1999.

Gwyddbwyll a chyfrifiaduron[golygu | golygu cod]

Gweithredodd Acorn Computers fel un o'r noddwyr i ornest gyn-derfynol Ymgeiswyr Kasparov yn erbyn Korchnoi ym 1983, a dyma gyflwyniad cyntaf Kasparov i gyfrifiaduron. Dyfarnwyd BBC Micro iddo, ac aeth ag o yn ôl gydag ef i Baku, gan ei wneud efallai yn un o'r microgyfrifiaduron Gorllewinol cyntaf i gyrraedd yr Undeb Sofietaidd bryd hynny. [122]

Chwaraeodd Kasparov yn erbyn deep Blue, uwchgyfrifiadur IBM, mewn dwy ornest o chwech gêm.

refer to caption
Gwisgodd Kasparov sbectol 3D yn ei gêm yn erbyn y rhaglen X3D Fritz.

Ym mis Ionawr 2003, cymerodd ran mewn gornest chwe gêm gyda rheoli amser clasurol, efo cronfa gwobr $1miliwn, yn erbyn 'Deep Junior'. Galwyd hon yn 'Bencampwriaeth y Byd - Dyn vs Peiriant'. [123] Gallai'r peiriant werthuso tair miliwn o safleoedd yr eiliad. [124] Ar ôl buddugoliaeth yr un a thair gêm gyfartal, doedd dim ond un gêm i fynd. Ar ôl cyrraedd safle teilwng, cynigiodd Kasparov gêm gyfartal, a dderbyniwyd gan dîm Deep Junior. Pan ofynnwyd iddo pam ei fod wedi cynnig gêm gyfartal, dywedodd Kasparov ei fod ofn gwneud camgymeriad. [125] Deep Junior oedd y peiriant cyntaf i guro Kasparov gyda Du gyda rheolaeth amser safonol. [126]

Gwleidyddiaeth a safbwyntiau gwleidyddol[golygu | golygu cod]

Rwsia[golygu | golygu cod]

Gweithgareddau gwleidyddol cynnar[golygu | golygu cod]

Roedd taid Kasparov yn gomiwnydd rhonc, ond dechreuodd Garry gael amheuon am system wleidyddol yr Undeb Sofietaidd yn dair-ar ddeg oed pan deithiodd dramor am y tro cyntaf ym 1976 i Baris ar gyfer twrnamaint gwyddbwyll. [127] Ym 1981, yn ddeunaw oed, darllenodd 'The Gulag Archipelago' gan Aleksandr Solzhenitsyn, ar ôl prynu copi ohono tra dramor. [128] Serch hynny, ymunodd Kasparov â Phlaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd ym 1984, ac fe'i hetholwyd i Bwyllgor Canolog y Komsomol (Comiwnyddion Ifanc) ym 1987. Gadawodd y blaid ym 1990. [129]

Ym mis Mai, 1990 bu Kasparov yn helpu creu 'Plaid Ddemocrataidd Rwsia', [130] ond gadawodd y blaid ar 28 Ebrill, 1991 ar ôl ei chynhadledd. [131] Bu Kasparov hefyd yn ymwneud â chreu bloc partïon "Dewis Rwsia" ym mis Mehefin, 1993. Cymerodd ran yn ymgyrch etholiadol Boris Yeltsin yn 1996. Yn 2001 mynegodd ei gefnogaeth i'r sianel deledu Rwsiaidd NTV.

Wedi iddo ymddeol o wyddbwyll yn 2005, trodd Kasparov at wleidyddiaeth a chreu'r Ffrynt Sifil Unedig, mudiad cymdeithasol gyda'r prif nod o "weithio i warchod democratiaeth etholiadol yn Rwsia". [132] Mae wedi addo "adfer democratiaeth" yn Rwsia trwy adfer 'rheolaeth y gyfraith'. [133] [134] [135] Flwyddyn yn ddiweddarach i hyn daeth y Ffrynt Sifil Unedig yn rhan o glymblaid 'Y Rwsia Arall'. Bu Kasparov yn allweddol wrth sefydlu'r glymblaid, sy'n gwrthwynebu llywodraeth Putin. Cafodd y Rwsia Arall ei boicotio gan arweinwyr gwrthbleidiau eraill Rwsia, Yaboko ac Undeb y Lluoedd Cywir, oherwydd ei bod yn cynnwys grwpiau cenedlaetholgar a radicalaidd. Mae Kasparov wedi beirniadu'r ddwy blaid hon fel rhai sydd mewn gwirionedd o dan adain y Kremlin. [136]

Ym mis Ebrill, 2005 cafodd Kasparov ei daro yn ei ben gyda bwrdd gwyddbwyll yr oedd newydd ei arwyddo. Dywedwyd i'r ymosodwr ddatgan: "Roeddwn i'n eich edmygu fel chwaraewr gwyddbwyll, ond fe wnaethoch chi roi'r gorau i hynny dros wleidyddiaeth" yn union cyn yr ymosodiad. [137] Bu sawl digwyddiad arall ers hynny, gan gynnwys creulondeb yr heddlu ac aflonyddu honedig gan wasanaeth cudd Rwsia. [138] [139]

refer to caption
Kasparov yn nhrydedd Orymdaith yr Anghydffurfwyr yn St Petersburg ar 9 Mehefin 2007

Helpodd Kasparov i drefnu 'Gorymdaith yr Anghydffurfwyr' yn St. Petersburg 3 Mawrth, 2007 a 'Gorymdaith yr Anghydffurfwyr' 24 Mawrth, 2007 y ddau yn cynnwys miloedd o bobl yn gorymdeithio yn erbyn Putin a Llywodraethwraig St Petersburg Valentina Matviyenko. [140] [141]

Arweiniodd Kasparov wrthdystiad o blaid democratiaeth ym Moscow ym mis Ebrill, 2007. Ar ôl iddo ddechrau fodd bynnag, daeth dros 9,000 o heddlu a chipio bron pawb. Rhybuddiwyd Kasparov gan swyddfa’r erlyniad ddiwrnod cyn yr orymdaith bod unrhyw un sy’n cymryd rhan mewn perygl o gael ei arestio. Daliwyd ef am ryw ddeg awr ac yna dirwywyd ef a'i ryddhau. [142] Yn ddiweddarach cafodd ei alw i ateb cyhuddiad gan yr FSB am dorri cyfreithiau gwrth-eithafiaeth Rwsia. [143]

Wrth siarad am Kasparov yn 2007, dywedodd y cyn-asiant KGB Oleg Kalugin: "Nid wyf yn siarad yn fanwl - mae pobl oedd yn eu hadnabod i gyd wedi marw nawr oherwydd eu bod wedi lleisio, roedden nhw'n agored. Rwy'n dawel. Dim ond un dyn sy'n lleisiol ac efallai ei fod mewn trafferth: pencampwr gwyddbwyll y byd Kasparov. Mae wedi bod yn ddi-flewyn-ar-dafod yn ei ymosodiadau ar Putin a chredaf ei bod yn debyg mai ef sydd nesaf ar y rhestr."

Ymgeisydd arlywyddol (2008)[golygu | golygu cod]

Ar 30 Medi, 2007 ymunodd Kasparov â ras arlywyddol Rwsia, gan dderbyn 379 o 498 o bleidleisiau mewn cyngres y glymblaid 'Y Rwsia Arall' a gynhaliwyd ym Moscow. [144] Ym mis Hydref 2007, cyhoeddodd Kasparov ei fwriad i sefyll am arlywyddiaeth Rwsia fel ymgeisydd 'Y Rwsia Arall' ac addawodd ymladd dros Rwsia "ddemocrataidd a chyfiawn". Yn ddiweddarach y mis hwnnw teithiodd i'r Unol Daleithiau, ac ymddangosodd ar nifer o raglenni teledu poblogaidd. [145]

Ym mis Tachwedd, 2007 cafodd Kasparov a phrotestwyr eraill eu cadw gan yr heddlu mewn rali Rwsia Arall ym Moscow, a ddenodd 3,000 o wrthdystwyr i brotestio yn erbyn twyll etholiadol. Yn dilyn ymgais gan tua 100 o brotestwyr i orymdeithio trwy linellau'r heddlu i’r comisiwn etholiadol, a oedd wedi gwahardd ymgeiswyr Rwsia Arall rhag etholiadau seneddol, gwnaethpwyd arestiadau. Dywedodd yr awdurdodau yn Rwsia fod rali wedi'i chymeradwyo ond nid unrhyw orymdaith, gan arwain at gadw nifer o wrthdystwyr. [146] Wedi hynny cafodd Kasparov ei gyhuddo o geisio gwrthsefyll ei arestio a threfnu protest anawdurdodedig, a chafodd ddedfryd o garchar am bum niwrnod. Apeliodd Kasparov y cyhuddiadau, gan ddweud ei fod wedi bod yn dilyn gorchmynion a roddwyd gan yr heddlu. Cafodd ei ryddhau o'r carchar ar 29 Tachwedd. [147] Gwawdiodd Putin Kasparov am ei ddefnydd o Saesneg yn hytrach na Rwsieg wrth siarad yn y rali. [148]

Ym mis Rhagfyr, 2007 cyhoeddodd Kasparov ei fod rhaid iddo dynnu ei ymgeisyddiaeth arlywyddol yn ôl oherwydd ei anallu i rentu neuadd gyfarfod lle gallai o leiaf 500 o'i gefnogwyr ymgynnull. Gyda'r dyddiad cau yn dod i ben ar y dyddiad hwnnw, eglurodd ei bod yn amhosibl iddo redeg. Roedd cyfreithiau etholiad Rwsia yn gofyn am ddigon o le mewn neuadd gyfarfod ar gyfer cefnogwyr. Cyhuddodd llefarydd Kasparov y llywodraeth o ddefnyddio'u dylanwad i atal unrhyw un rhag rhentu neuadd addas iddynt a dywedodd fod y comisiwn etholiadol wedi gwrthod cynnig a fyddai wedi caniatáu niferoedd llai yn hytrach nag un cynulliad mawr mewn neuadd gyfarfod.

Gwrthwynebiad i weinyddiaeth Putin (2010-2013)[golygu | golygu cod]

Roedd Kasparov yn drefnydd allweddol ac ymhlith y llofnodwyr cyntaf o'r ymgyrch ar-lein "Rhaid i Putin fynd", “ a ddechreuwyd ar 10 Mawrth, 2010. Ynddo ceir galwad ar i asiantaethau gorfodi'r gyfraith yn Rwsia i anwybyddu gorchmynion Putin. Erbyn Mehefin 2011, roedd 90,000 wedi llofnodi. Er bod awdur y ddeiseb yn parhau i fod yn ddienw, bu cryn ddyfalu mai Kasparov ydoedd mewn gwirionedd. [149] [150] Ar 31 Ionawr, 2012 cynhaliodd Kasparov gyfarfod o arweinwyr y gwrthbleidiau oedd yn cynllunio gorymdaith dorfol ar 4 Chwefror, 2012. Ymhlith arweinwyr gwrthbleidiau eraill a fynychodd roedd Alexey Navalny ac Yevgeniya Chirikova. [151]

Cafodd Kasparov ei arestio a’i guro y tu allan i lys ym Moscow ar 17 Awst, 2012 tra’n mynychu’r ddedfryd yn ymwneud â’r band pync Pussy Riot. [152] Ar 24 Awst, cafodd y cyhuddiadau yn ei erbyn ei fod wedi cymryd rhan mewn protest anawdurdodedig eu rhoi o'r neilltu. Dywedodd y Barnwr Yekaterina Veklich nad oedd "unrhyw sail i gredu tystiolaeth yr heddlu". [153] Yn ddiweddarach diolchodd Kasparov i'r holl blogwyr a gohebwyr a ddarparodd dystiolaeth fideo a oedd wedi gwrth-ddweud tystiolaeth yr heddlu. [154] Ysgrifennodd Kasparov ym mis Chwefror, 2013 fod “ffasgaeth wedi dod i Rwsia. . . . Nid yw Prosiect Putin, yn union fel yr hen Brosiect Hitler, ddim byd ond cynllwyn gan y bobl fawr sy'n rheoli. Nid oedd rheolaeth ffasgaidd erioed yn ganlyniad o ewyllys rydd y bobl. Roedd yn ffrwyth cynllwyn gan y bobl fawr oedd yn rheoli!” [155]

Ym mis Ebrill, 2013 gwadodd Kasparov sibrydion ei fod yn bwriadu gadael Rwsia am byth. “Rwyf yn gweld y sibrydion hyn yn drist iawn ac, yn fwy na hynny, yn syndod,” ysgrifennodd. “Doeddwn i ddim yn gallu ymateb ar unwaith oherwydd roeddwn i mewn cymaint o sioc fel bod datganiad mor anhygoel o anghywir.. [156]

Tri mis yn ddiweddarach, fodd bynnag, ffodd Kasparov Rwsia. Ar 6 Mehefin, 2013 cyhoeddodd ei fod wedi gadael ei famwlad oherwydd ofn erledigaeth am ei safbwyntiau gwleidyddol. [157] Yng nghynhadledd Menywod yn y Byd 2013, dywedodd Kasparov wrth Michael Moynihan o'r 'The Daily Beast' nad oedd democratiaeth bellach yn bodoli yn yr hyn a alwodd yn “unbennaeth” Rwsia. [158]

refer to caption
Kasparov yn Fforwm Rhyddid Oslo 2018

Dywedodd Kasparov mewn cynhadledd i'r wasg ym mis Mehefin, 2013 ei fod yn amau pe bai'n dychwelyd i Rwsia, na fyddai'n cael gadael, yn arbennig o ystyried gwrthdaro parhaus Putin a'r anghydffurfwyr. “Felly am y tro,” meddai, “rwy'n ymatal rhag dychwelyd i Rwsia.” Esboniodd yn fuan wedi hynny mewn erthygl yn The Daily Beast na fwriadodd hyn fel “datganiad o adael fy ngwlad enedigol, yn barhaol neu fel arall”, ond fel mynegiant o “realiti tywyll y sefyllfa yn Rwsia heddiw, lle mae bron i hanner aelodau Cyngor Cydlynu'r wrthblaid yn destun ymchwiliad troseddol ar gyhuddiadau di-sail". Nododd fod swyddfa'r erlynydd ym Moscow yn "agor ymchwiliad a fyddai'n cyfyngu ar fy ngallu i deithio", a fyddai'n gwneud yn amhosibl iddo gyflawni "ymrwymiadau siarad proffesiynol" ac yn rhwystro ei "waith ar gyfer Sefydliad Gwyddbwyll Kasparov di-elw, sydd â chanolfannau yn Ninas Efrog Newydd, Brwsel a Johannesburg, er hyrwyddo gwyddbwyll mewn addysg". [158] Ysgrifennodd Kasparov ymhellach yn ei erthygl yn y Daily Beast ym mis Mehefin, 2013 fod y protestiadau torfol ym Moscow deunaw mis ynghynt yn erbyn yr etholiadau twyllodrus yn Rwsia wedi bod yn “eiliad falch i mi”. Roedd yn cofio, ar ôl ymuno â mudiad yr wrthblaid ym mis Mawrth, 2005 ei fod wedi cael ei feirniadu am geisio uno "pob elfen gwrth-Pwtin yn y wlad i orymdeithio gyda'i gilydd waeth beth fo'u ideoleg". Felly, roedd gweld "cannoedd o faneri yn cynrychioli pob grŵp o ryddfrydwyr i genedlaetholwyr i gyd yn gorymdeithio gyda'i gilydd ar gyfer 'Rwsia Heb Putin' yn gwireddu breuddwyd." Ac eto roedd y mwyafrif o Rwsiaid, meddai, yn parhau i “gysgu” hyd yn oed wrth i Putin “dynnu mwgwd simsan democratiaeth i ffwrdd a datgelu ei hun fel y darpar unben KGB y buodd erioed”. [159]

Ymatebodd Kasparov gan bostio ar Trydar am erthygl ym mis Medi 2013 o'r The New York Times gan Putin. “Rwy’n gobeithio bod Putin wedi cymryd gofal digonol,” trydarodd. “Mae'n newyddiadurwr Rwsiaidd ac fe all ei fywyd fod mewn perygl difrifol!” Hefyd: “Fedra ni ddisgwyl erthyglau yn y New York Times gan Mugabe ar etholiadau teg, Castro ar ryddid llefaru, a Kim Jong-un ar ddiwygio carchardai? Echel Rhagrith." [160]

Ysgrifennodd Kasparov ym mis Gorffennaf 2013 am y prawf yn Kirov o un o arweinyddion yr wrthblaid, Navalny, a oedd wedi'i ddyfarnu'n euog "ar gyhuddiadau di-sail o ladrad", yn gweld yr erlynydd, er syndod mawr, yn gofyn am ei ryddhau drannoeth tra'n aros apêl. “Mae’r broses farnwrol a’r broses ddemocrataidd yn Rwsia,” ysgrifennodd Kasparov, “yn watwariaeth gywrain a grëwyd i dynnu sylw’r dinesydd cartref, ac i helpu arweinwyr y Gorllewin osgoi wynebu’r ffaith lletchwith bod Rwsia unwaith eto yn unbennaeth”. Eto i gyd, teimlai Kasparov, beth bynnag oedd yn gyfrifol am hyn, “mae fy optimistiaeth yn dweud wrthyf ei fod yn arwydd cadarnhaol. Ar ôl mwy na 13 mlynedd o ormes o dan Putin, mae unrhyw beth gwahanol yn dda." [161]

Siaradodd Kasparov yn erbyn uno anghyfreithlon Crimea a Rwsia yn 2014 ac mae wedi datgan y dylid dychwelyd rheolaeth o Crimea i’r Wcráin heb unrhyw amodau, ar ôl dymchwel Putin. Rhwystrwyd gwefan Kasparov gan asiantaeth sensoriaeth Rwsia, Roskomnadzor, ar gais yr erlynydd cyhoeddus, oherwydd mae'n debyg barn Kasparov ar yr argyfwng yn Crimea. Rhwystrwyd nifer o wefannau eraill yn Rwsia yr un pryd dan gyhuddiad o ysgogi dicter cyhoeddus. Yn ôl y sôn, derbyniodd nifer o'r safleoedd sydd wedi'u rhwystro affidafid yn nodi eu troseddau. Fodd bynnag, dywedodd Kasparov nad oedd ei wefan ef wedi derbyn unrhyw rybudd o'r fath. [162] Yn 2015, tynnwyd nodyn cyfan ar Kasparov o wyddoniadur Rwsieg am y chwaraewyr gwyddbwyll Sofietaidd gorau ar ôl ymyrraeth gan "uchel swyddogion". [163]


Siaradodd Kasparov yn erbyn goresgyniad yr Wcrain gan Rwsia ar Trydar: “Yr unig ffordd y daw hyn i ben mewn gwirionedd yw trwy gwymp cyfundrefn Putin yn dilyn cwymp economi Rwsia ar ôl cael eu trechu yn yr Wcrain.” [164] Credai hefyd fod yn rhaid "cario ymlaen gyda'r pwyso" o ran Sancsiynau a chondemniadau yn erbyn gweithredoedd Rwsia [165] ac ymunodd â Rwsiaid alltud amlwg eraill i ffurfio Pwyllgor Gwrth-Ryfel Rwsia. [166] Dywedodd y dylai Rwsia gael ei “taflu’n ôl i Oes y Cerrig i wneud yn siŵr na all y diwydiant olew a nwy ac unrhyw ddiwydiannau sensitif eraill sy’n hanfodol ar gyfer goroesiad y gyfundrefn weithredu heb gefnogaeth dechnolegol y Gorllewin.” [167]

Ar 20 Mai, 2022 dynodwyd Kasparov yn “asiant tramor” gan Weinyddiaeth Gyfiawnder Ffederasiwn Rwsia. [168]

Ym mis Mai 2023 bu Kasparov ynghyd â grŵp mawr o'i gyd-alltudion yn helpu Mikhail Khodorkovsky ddrafftio "Datganiad o Luoedd Democrataidd Rwsia." [169]

Yr Unol Daleithiau[golygu | golygu cod]

refer to caption
Kasparov a'r gweriniaethwr Americanaidd Grover Norquist yn 2017

Yn ystod etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau yn 2016, disgrifiodd Kasparov y Gweriniaethwr Donald Trump fel “arwerthwr seleb gyda gogwyddiadau hiliol a thueddiadau awdurdodaidd” [170] a’i feirniadu am alw am gysylltiadau agosach â Putin. [171] Ar ôl i ddarpar is-arlywydd Trump, Mike Pence, alw Putin yn arweinydd cryf, dywedodd Kasparov fod Putin yn arweinydd cryf “yn yr un modd ag mae arsenig yn ddiod gref”. [172] [173] Bu hefyd yn dilorni polisïau economaidd ymgeisydd y Democratiaid Bernie Sanders, ond galwodd ef yn "siaradwr carismatig a oedd yn credu'n angerddol yn ei achos". [174] Dywedodd Kasparov fod Henry Kissinger “yn ceisio gwerthu’r syniad i Trump o ddrych o 1972 [ymweliad Richard Nixon â Tsieina], heblaw, yn hytrach na chynghrair Sino-UDA yn erbyn yr Undeb Sofietaidd, cynghrair Rwsiaidd-Americanaidd yn erbyn Tsieina oedd y syniad." [175]

Armenia[golygu | golygu cod]

Mewn cyfweliad yn trafod gwrthdaro Nagorno-Karabakh, dywedodd Kasparov fod gan Weriniaeth Artsakh hawl i annibyniaeth ac nad oes gan Azerbaijan hawl sofran drosto. Ystyria'r safiad hwn yn wrthrychol a heb ragfarn, gan fod cyfraith Sofietaidd yn caniatáu i weriniaethau ymreolaethol (fel Oblast Ymreolaethol Nagorno-Karabakh) yr hawl i bleidleisio dros annibyniaeth, rhywbeth y teimlai ei fod yn aml yn cael ei anwybyddu. [176] Cafodd Kasparov ei feirniadu gan Armeniaid am beidio â chymryd safiad cryf pan ddechreuodd y gwrthdaro yn Karabakh ym 1988, ac eglurodd ei fod yn byw yn Baku gyda 200,000 o Armeniaid eraill ar y pryd ac nad oedd am gynyddu tensiynau. Yn ddiweddarach ffodd Kasparov a'i deulu Baku ym mis Ionawr 1990 i ddianc rhag pogromau gwrth-Armeniaid. [177]

Croesawodd Kasparov y 'Chwyldro Melfed' yn Armenia yn 2018, [178] ac mae'n cefnogi cydnabyddiaeth hil-laddiad Armenia. [179] [180] [181] [182]

Materion rhyngwladol eraill[golygu | golygu cod]

Yn ystod Rhyfeloedd Iwgoslafia, galwodd Kasparov ar i'r byd Gorllewinol ddinistrio Byddin Iwgoslafia a cyhuddodd Slobodan Milošević o greu "meddylfryd gwarchae" i gadw rheolaeth dros Serbia . [183] Ym 1997, dyfarnwyd dinasyddiaeth anrhydeddus iddo gan Bosnia a Herzegovina am ei gefnogaeth i Bosnia yn ystod Rhyfel Bosnia . [184] Enwyd Kasparov yn Gadeirydd y Sefydliad Hawliau Dynol yn 2011. [185] Yn ogystal, cyflwynwyd Gwobr Hawliau Dynol Morris B. Abram, gwobr hawliau dynol flynyddol Gwyliadwriaeth y Cenhedloedd Unedig, i Kasparov yn 2013. Canmolodd y sefydliad ef fel "nid yn unig un o ddynion craffaf y byd" ond "hefyd ymhlith y dewraf". [186]

Bu Kasparov yn feirniadol o’r trais a gafwyd gan heddlu Sbaen yn erbyn refferendwm annibyniaeth 2017 yng Nghatalwnia a cyhuddodd Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy, o “fradychu” addewid heddwch Ewrop. [187] Ar ôl etholiad rhanbarthol Catalwnia a gynhaliwyd yn ddiweddarach yr un flwyddyn, ysgrifennodd Kasparov: “Er gwaethaf pwysau digynsail o Madrid, enillodd y cenedlaetholwyr yng Nghatalwnia fwyafrif. Rhaid i Ewrop helpu dod o hyd i lwybr heddychlon er osgoi mwy o drais." [188] [189] Argymhellodd Kasparov y dylai Sbaen edrych ar be ddigwyddodd ym Mhrydain efo refferendwm annibyniaeth yr Alban yn 2014, gan ychwanegu: “edrychwch yn unig ar sut mae Twrci ac Irac wedi trin y Cwrdiaid. Ni all hyn fod y ffordd i Sbaen a Chatalwnia.” [190]

Ar achlysur canmlwyddiant hil-laddiad Armenia yn 2015, dywedodd Kasparov ei fod wedi galw yn 2002 am dderbyn Twrci yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd pe bai Twrci yn cydnabod yr hil-laddiad. [191] Condemniodd lofruddiaeth y newyddiadurwr Saudi Jamal Khashoggi. [192] Ym mis Hydref, 2018 ysgrifennodd Kasparov fod cyfundrefn yr Arlywydd Erdoğan yn Nhwrci “wedi carcharu mwy o newyddiadurwyr nag unrhyw wlad arall yn y byd a bod ugeiniau ohonynt yn parhau yn y carchar. Ers 2016, mae asiantaeth cudd Twrci wedi cipio o leiaf 80 o bobl mewn deunaw o wledydd.” [192]

Dinasyddiaeth Croatia[golygu | golygu cod]

Mae gan Kasparov dy haf yn ninas Makarska, Croatia. Ym mis Chwefror, 2014 gwnaeth gais am ddinasyddiaeth yng Nghroatia, gan ddweud ei fod yn ei chael hi'n fwyfwy anodd byw yn Rwsia. Yn ôl erthygl yn The Guardian, roedd “cytundeb eang” fod Kasparov wedi bod yn gefnogwr i annibyniaeth Croatia yn ystod y 1990au cynnar. [193] Yn ddiweddarach ym mis Chwefror cymeradwywyd ei gais am frodoriaeth a chafodd gyfarfod â phrif weinidog Croatia Zoran Milanović ar 27 Chwefror. [194] Nododd y wasg yn Croatia ei fod wedi "cefnogi Croatia ym 1991 "fel sail ar gyfer y brodoriaeth cyflym. [194] Mewn cyfweliad mewn papur newydd Croat a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, 2022 dywedodd Kasparov ei fod yn “ddiolchgar iawn” i Milanović am yr help a roddwyd ganddo (fel prif weinidog) i gael dinasyddiaeth Croateg.

Mae'r gaeaf yn dod[golygu | golygu cod]

Ym mis Hydref, 2015 cyhoeddodd Kasparov lyfr o'r enw Winter Is Coming: Why Vladimir Putin and the Enemies of the Free World must Be Stopped . Mae'r teitl yn gyfeiriad at y gyfres deledu HBO Game of Thrones. Yn y llyfr, mae Kasparov yn ysgrifennu am yr angen am sefydliad sy'n cynnwys gwledydd democrataidd yn unig i ddisodli'r Cenhedloedd Unedig. Mewn cyfweliad, galwodd y Cenhedloedd Unedig yn 'catwalk' i unbeniaid. [195]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae Kasparov wedi byw yn Ninas Efrog Newydd ers 2013. [196] [175]

Mae wedi bod yn briod deirgwaith: gyda Masha, cawsant ferch, Polina, cyn ysgaru; [197] gyda Yulia, cawsant fab, Vadim, cyn ysgaru yn 2005; [197] a Daria (Dasha), mae ganddynt ddau o blant, merch, Aida a aned yn 2006, a mab, Nickolas a aned yn 2015. [175][198] Mae ei wraig yn rheoli ei weithgareddau busnes ledled y byd trwy 'Kasparov International Management Inc'. [199]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Who is the Strongest Chess Player?". Bill Wall. Chess.com. 27 October 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 March 2020. Cyrchwyd 2 March 2009.
  2. "ICC Help: interview". Internet Chess Club. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 September 2007. Cyrchwyd 11 August 2007.
  3. "The chess games of Garry Kasparov". Chessgames.com. Cyrchwyd 2022-06-11.
  4. 4.0 4.1 "Chessmetrics Player Profile: Garry Kasparov". Chessmetrics.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 March 2012. Cyrchwyd 11 June 2022.
  5. "Kasparov – Karpov World Championship Match 1984". Chessentials. 6 June 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 June 2018. Cyrchwyd 18 June 2018.
  6. "World Chess Championship 1982–84 Candidates Matches". Mark Weeks' Chess Pages. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 September 2007. Cyrchwyd 11 August 2007.
  7. Barden, Leonard (6 June 2016). "Viktor Korchnoi obituary". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 September 2021. Cyrchwyd 24 June 2021.
  8. Byrne, Robert (17 December 1983). "KASPAROV BEATS KORCHNOI TO WIN CHESS SEMIFINAL". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 June 2021. Cyrchwyd 24 June 2021.
  9. "No1". The New York Times. 14 January 1990. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 June 2021. Cyrchwyd 24 June 2021.
  10. Byrne, Robert (9 April 1984). "KASPAROV DEFEATS SMYSLOV IN CHESS". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 May 2015. Cyrchwyd 24 May 2015.
  11. Mydans, Seth (16 February 1985). "END OF THE GAME: AN UNEXPECTED FINISH TO 5 MONTHS OF CHESS". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 November 2017. Cyrchwyd 24 June 2021.
  12. Eaton, William J. (16 February 1985). "World Chess Championship Is Canceled : Both Contestants in Marathon Five-Month Match Protest Move". Los Angeles Times. Cyrchwyd 24 June 2021.
  13. Mclellan, Joseph (8 October 1990). "Rematch of the Chess Kings". The Washington Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 March 2022. Cyrchwyd 11 November 2021.
  14. 14.0 14.1 "25 years ago: termination of the first K-K match". ChessBase. 15 February 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 July 2015. Cyrchwyd 12 July 2015.
  15. Lundstrom, Harold (27 August 1993). "ABORTED K-K MATCH STILL HAUNTS FEDERATION". Deseret News. Cyrchwyd 12 July 2015.
  16. McLellan, Joseph; Kavalek, Lubomir (2 November 1993). "CHESS". The Washington Post. Cyrchwyd 11 June 2022.
  17. "1985 World Chess Championship". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 June 2021. Cyrchwyd 16 May 2021.
  18. Dylan Loeb McClain (24 December 2010). "Record Set for World's Youngest Chess Champion". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 January 2022.
  19. "Mikhail Tal". World Chess Hall of Fame. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 February 2012. Cyrchwyd 22 June 2012.
  20. "Kasparov Wins Game 16". The Washington Post.
  21. "World Chess Championship 1985: Game 16 (Karpov vs. Kasparov)". Chess.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 April 2022.
  22. London-Leningrad Championship Games by Garry Kasparov ISBN 978-1-870207-05-8
  23. 23.0 23.1 "Kasparov – Karpov World Championship Rematch (1986)". chessgames.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 July 2017. Cyrchwyd 23 May 2021.
  24. "Kasparov – Karpov World Championship Match (1987)". chessgames.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 July 2017. Cyrchwyd 23 May 2021.
  25. "Kasparov – Karpov World Championship Match (1987)". Chessgames.com. Cyrchwyd 2022-06-11.
  26. "Kasparov – Karpov World Championship Match (1990)". chessgames.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 April 2019. Cyrchwyd 25 June 2021.
  27. 27.0 27.1 "Garry Kasparov: A History of Profesional Chess". ChessBase. 8 April 2002. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 July 2022. Cyrchwyd 11 June 2022.
  28. "Grandmasters Form Association to Get More Say in Chess". Associated Press. 15 February 1987. Cyrchwyd 11 June 2022.
  29. McLellan, Joseph (10 August 1989). "CHESS MATCH GETS RECORD BID". The Washington Post. Cyrchwyd 11 June 2022.
  30. Raymond Keene & David Goodman (1986). The Centenary Match. Kasparov v Karpov III (Batsford, London), p. 124, 8 October 1986
  31. 'Candidates final 1993'. 365Chess.com, undated, retrieved 10 March 2023
  32. Cathy Forbes, Nigel Short: Quest for the Crown (Everyman, 1993)
  33. McLellan, Joseph (24 March 1993). "KASPAROV STRIPPED OF TITLE". The Washington Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 January 2019. Cyrchwyd 27 January 2019.
  34. Hartston, William (24 November 1995). "Endgame in bitter chess battle". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 July 2022. Cyrchwyd 9 July 2022.
  35. 'Professional Chess Association'. Britannica, undated, retrieved 10 March 2023
  36. "Chess Wars: Let the Fighting Begin". The New York Times. 7 September 1993. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 August 2014. Cyrchwyd 12 August 2014.
  37. Deans, Jason (10 November 2005). "BBC plots chess move". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 September 2014. Cyrchwyd 20 September 2014.
  38. "Hype for Kasparov-Short chess match may have outstropped public interest". United Press International. 6 September 1993. Cyrchwyd 20 September 2014.
  39. "Karpov wins three in a row over Timman in FIDE chess championship". United Press International. 22 October 1993. Cyrchwyd 11 June 2022.
  40. McLellan, Joseph; Kavalek, Lubomir (24 September 1993). "CHESS". The Washington Post. Cyrchwyd 11 June 2022.
  41. Evans, Larry (4 November 1995). "CONTROVERSY OVER TWO RIVAL RATING SYSTEMS". Sun-Sentinel. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 July 2021. Cyrchwyd 2 July 2021.
  42. "Throwback Thursday: Kasparov and Anand atop the World Trade Center". Chess News (yn Saesneg). 18 June 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 January 2022. Cyrchwyd 27 January 2022.
  43. "CHESS; How Kramnik Kept Kasparov Off His Game". The New York Times. 2000-11-05. Cyrchwyd 2022-06-11.
  44. "Tradition with an eye on the future". The Daily Telegraph. 6 November 2001. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 January 2022. Cyrchwyd 2 May 2015.
  45. "Local youngsters lead the way". News Shopper. 8 July 2002. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 December 2022. Cyrchwyd 9 April 2011.
  46. "Marca Leyenda". Marca. Spain. 3 April 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 July 2018. Cyrchwyd 22 July 2021.
  47. "1995 Kasparov – Anand : World Chess Championship". Mark-weeks.com. Cyrchwyd 2022-06-11.
  48. "The Week in Chess 313". Theweekinchess.com. Cyrchwyd 2022-06-11.
  49. "BGN/Dortmund Event" (Press release). This Week in Chess. 6 September 2001. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2007-12-19. https://web.archive.org/web/20071219020648/http://www.chesscenter.com/twic/owenbrain.html. Adalwyd 11 August 2001.
  50. "Peace in our time". ChessBase. 6 May 2002. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 November 2013. Cyrchwyd 11 November 2013.
  51. 51.0 51.1 ChessBase (18 January 2005). "Kasparov to FIDE: Enough is enough | ChessBase". En.chessbase.com. Cyrchwyd 11 June 2022.
  52. "The Week in Chess 525". Theweekinchess.com. Cyrchwyd 2022-06-11.
  53. Heintz, Jim (12 March 2005). "Chess Genius Kasparov Retires". The Washington Post (yn Saesneg). ISSN 0190-8286. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 March 2022. Cyrchwyd 21 November 2021.
  54. "The endgame | Russia". The Guardian. Cyrchwyd 2022-06-11.
  55. "The Credit Suisse Blitz – in pictures". Chessbase. 27 August 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 September 2007. Cyrchwyd 11 August 2007.
  56. "Kasparov and Karpov to play 12 games match in Valencia". Chessdom. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 July 2009. Cyrchwyd 8 July 2009.
  57. "Breaking news: Carlsen and Kasparov join forces". Chessbase. 7 September 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 July 2011. Cyrchwyd 8 September 2009.
  58. Barden, Leonard (13 March 2010). "World No 1 Magnus Carlsen parts company with mentor Garry Kasparov". The Guardian. UK. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 May 2020. Cyrchwyd 14 March 2010.
  59. "NIC's Cafe: Last Call", New in Chess Magazine, 2011/07, p. 6.
  60. "Magnus Carlsen – 'I don't quite fit into the usual schemes'". ChessBase News. 22 December 2011. Cyrchwyd 9 September 2013.
  61. Lubin, Gus (4 September 2012). "An Evening With Magnus Carlsen". Business Insider. Cyrchwyd 9 September 2013.
  62. "Kasparov beats 30 challengers in simultaneous play at TAU". The Jerusalem Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 October 2012. Cyrchwyd 2 May 2015.
  63. "Chess News – Anand in Playchess – the helpers in Sofia". Chessbase. 19 May 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 May 2010. Cyrchwyd 19 May 2010.
  64. Peterson, Macauley. "The Spirit of Saint Louis" New in Chess Magazine, 2001/07, p. 12.
  65. "Now it's official: Kasparov no longer training Nakamura". Chessbase Publishing. Chessbase. 16 December 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 January 2012. Cyrchwyd 16 December 2011.
  66. Doggers, Peter (18 September 2011). "Kasparov back at the chessboard, beats Vachier-Lagrave". Chess.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 December 2011. Cyrchwyd 8 December 2011.
  67. Crowther, Mark (9 October 2011). "Kasparov narrowly beats Short in blitz match with classy final game win". The Week in Chess. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 June 2013. Cyrchwyd 2 June 2013.
  68. Emmett, Ryan (9 October 2011). "Kasparov Beats Short In Blitz Match". Chess.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 May 2021. Cyrchwyd 8 May 2021.
  69. "Kasparov Defeated All Fourteen Opponents". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 July 2016. Cyrchwyd 21 July 2016.
  70. "Battle of the Legends (2/2)". Chess News. 27 April 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 May 2015. Cyrchwyd 2 May 2015.
  71. "Kasparov Announces Candidacy for FIDE President". Chess.com. 7 October 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 October 2013. Cyrchwyd 8 October 2013.
  72. (yn Rwseg). Championat.com. 4 June 2014 https://web.archive.org/web/20140714143806/http://www.championat.com/other/news-1849106-karlsen-podderzhivaju-kasparova-na-vyborakh-prezidenta-fide.html. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 July 2014. Cyrchwyd 8 June 2014. Missing or empty |title= (help)
  73. "Ilyumzhinov Beats Kasparov 110–61 at FIDE Presidential Elections". Chess.com (yn Saesneg). 11 August 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 September 2016. Cyrchwyd 13 August 2016.
  74. Myers, Steven Lee (6 August 2014). "Vladimir Putin's Chess-Master Nemesis". The New York Times Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 December 2014. Cyrchwyd 8 February 2017.
  75. "Kasparov, Leong Found Guilty of Breaching FIDE Code of Ethics". Chess.com. 9 September 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 March 2016. Cyrchwyd 14 August 2016.
  76. "Ethics Commission Judgement". Fide.com. 21 October 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 August 2016. Cyrchwyd 14 August 2016.
  77. Salter, Jim (15 July 2017). "Chess Legend Kasparov Picks St. Louis Competition for Return". U.S. News & World Report. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 August 2017. Cyrchwyd 16 August 2017.
  78. Payne, Marissa (15 August 2017). "Chess legend Garry Kasparov proving he's still got it in first competitive tournament in 12 years". The Washington Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 August 2017. Cyrchwyd 16 August 2017.
  79. Payne, Marissa (15 August 2017). "Chess legend Garry Kasparov proving he's still got it in first competitive tournament in 12 years". The Washington Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 March 2020. Cyrchwyd 10 August 2021.
  80. "2020 Champions Showdown: Chess 9LX | www.uschesschamps.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 November 2021. Cyrchwyd 16 November 2021.
  81. Doggers, Peter (12 September 2020). "Kasparov Escapes Vs Carlsen In 1st Clash In 16 Years". Chess.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 September 2020. Cyrchwyd 26 September 2020.
  82. Mascarenhas, Natasha (15 April 2021). "Garry Kasparov launches a community-first chess platform". TechCrunch. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 April 2021. Cyrchwyd 22 April 2021.
  83. "Pairings & Results – Blitz A | Grand Chess Tour". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 July 2021. Cyrchwyd 12 July 2021.
  84. "Pairings & Results – Blitz B | Grand Chess Tour". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 July 2021. Cyrchwyd 12 July 2021.
  85. "Chess 9LX 2: Kasparov is back! Dominguez leads". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 November 2021. Cyrchwyd 16 November 2021.
  86. "The chess games of Garry Kasparov". www.chessgames.com. Cyrchwyd 2022-06-26.
  87. "Kasparov, Garry: Men's Chess Olympiads". OlympBase. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 November 2011. Cyrchwyd 30 April 2021.
  88. "Kasparov, Garry: European Men's Team Chess Championship". OlympBase.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 August 2012. Cyrchwyd 30 April 2021.
  89. 'The chess games of Garry Kasparov'. Chessgames, undated, retrieved 25 February 2023
  90. "Meet the Legends". www.uschesschamps.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 November 2021. Cyrchwyd 21 November 2021.
  91. "New York Sports Commission Endorses Man vs Machine". FIDE. 20 January 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 March 2012. Cyrchwyd 30 March 2011.
  92. Kavalek, Lubomir (13 December 2012). "Magnus Carlsen Breaks Kasparov's Record at the London Chess Classic". HuffPost. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 April 2021. Cyrchwyd 4 January 2013.
  93. McClain, Dylan Loeb (15 December 2012). "Highest-Ever Ranking Is Milestone for Carlsen". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 December 2012. Cyrchwyd 4 January 2013.
  94. "В списке не значится Гарри Каспаров исключен из рейтинг-листа Международной федерации шахмат". Lenta.ru (yn Russian). 4 April 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 September 2014. Cyrchwyd 11 September 2014. Unknown parameter |TransTitle= ignored (|trans-title= suggested) (help)CS1 maint: unrecognized language (link)
  95. Grigoryan, Mark (25 September 2009). "Два "К" "обречены играть друг с другом всю жизнь"". BBC News (yn Russian). Cyrchwyd 16 March 2011. Unknown parameter |TransTitle= ignored (|trans-title= suggested) (help)CS1 maint: unrecognized language (link)
  96. Hoffman, Paul (21 December 2002). "Karpov Defeats an Old Rival in a Four-Game Rapid-Chess Match". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 May 2015. Cyrchwyd 17 March 2011.
  97. 97.0 97.1 Weaver, Matthew (21 September 2009). "Chess legends Anatoly Karpov and Garry Kasparov renew epic battle". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 September 2013. Cyrchwyd 17 March 2011.
  98. "Magnus Carlsen – 'I don't quite fit into the usual schemes'". ChessBase News. 22 December 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 November 2012. Cyrchwyd 13 August 2013.
  99. "The most important interviews by GM Vladimir Kramnik, World Chess Champion 2000–2007". Kramnik.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 May 2008. Cyrchwyd 20 October 2013.
  100. "Top 100 living geniuses". The Daily Telegraph. 30 October 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 February 2011. Cyrchwyd 16 March 2011.
  101. "В.Крамник. "ОТ СТЕЙНИЦА ДО КАСПАРОВА"" [V. Kramnyk. "FROM STEYNITSA TO KASPAROV"]. e3e5.com (yn Russian). 1 July 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 July 2011. Cyrchwyd 12 December 2010.CS1 maint: unrecognized language (link)
  102. Rocher, Finlo (12 March 2005). "Каспаров: король уходит со сцены". BBC News (yn Russian). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 December 2013. Cyrchwyd 4 December 2013. Unknown parameter |TransTitle= ignored (|trans-title= suggested) (help)CS1 maint: unrecognized language (link)
  103. Byrne, Robert (5 November 2000). "Chess: How Kramnik Kept Kasparov Off His Game". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 February 2017. Cyrchwyd 8 February 2017.
  104. "Game 4: Ibm, Kasparov Draw – Sun Sentinel". Sun-Sentinel. 8 May 1997. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 April 2015. Cyrchwyd 20 October 2013.
  105. "Garry Kasparov". ChessPro (yn Russian). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 August 2011. Cyrchwyd 3 December 2010.CS1 maint: unrecognized language (link)
  106. "Poll Picks Bobby Fischer As Favorite Player". Sun-Sentinel. 6 February 2000. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 April 2015. Cyrchwyd 20 October 2013.
  107. "Chess '25 Jul 1986' The Spectator Archive". The Spectator. 25 July 1986. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 October 2013. Cyrchwyd 20 October 2013.
  108. Kasparov, Garry (2003). My Great Predecessors, part I. Everyman Chess. ISBN 1-85744-330-6. p. 9 OCLC 223602528.
  109. "GARRY - GAME PRODUCER AND GENIUS (continued)" [ГАРРИ - ВУНДЕРКИНД И ГЕНИЙ ИГРЫ]. Nauka i Zhizn. 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 July 2011. Cyrchwyd 21 February 2011.
  110. "FRANKFURT CHESS CLASSIC 1999 PORTRAITS". ChessBase. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 June 2011. Cyrchwyd 16 March 2011.
  111. 111.0 111.1 "GARRY - GAME PRODUCER AND GENIUS" [ГАРРИ - ВУНДЕРКИНД И ГЕНИЙ ИГРЫ]. Nauka i Zhizn. 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 December 2008. Cyrchwyd 21 February 2011.
  112. 'Garry Kasparov'. 365Chess, undated, retrieved 24 February 2023
  113. Linder, Isaak (2009). Garry Kasparov. Life and the Game. AST Publishing. t. 398. ISBN 978-5-17-057379-0. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-11-13. Cyrchwyd 2023-06-25.
  114. 114.0 114.1 "Chess Openings, Sicilian, Szen variation, Dely-Kasparov gambit (B44)". GameKnot. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 November 2011. Cyrchwyd 12 December 2010.
  115. Linder 2009.
  116. Kasparov, Garry (2007). Modern Chess, Part One: Revolution in the 70s. Everyman Chess. ISBN 978-1-85744-422-3.
  117. "All Time rankings". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 November 2009.
  118. "FIDE Archive: Top 100 Players July 2005". World Chess Federation. 18 April 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 June 2007. Cyrchwyd 11 August 2007.
  119. "Carlsen beats Kasparov's rating record in London". Chessvibes. 8 December 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 January 2013. Cyrchwyd 3 January 2013.
  120. Roudik, Peter (2009). Culture and Customs of the Caucasus. Westport, Connecticut: Greenwood Press. t. 186. ISBN 978-0-313-34885-3.
  121. "Kramnik-Leko, Anand-Kasparov Drawn. Leko Takes Title". 9 March 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 September 2014. Cyrchwyd 3 September 2003.
  122. "How it all started". 24 December 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 October 2019. Cyrchwyd 14 October 2019.
  123. "Kasparov vs Deep Junior in January 2003". ChessBase. 15 November 2002. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 September 2007. Cyrchwyd 11 August 2007.
  124. "Kasparov: "Intuition versus the brute force of calculation"". CNN. 10 February 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 September 2007. Cyrchwyd 11 August 2007.
  125. Shabazz, Damian. "Kasparov & Deep Junior fight 3–3 to draw!". The Chess Drum. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 September 2011. Cyrchwyd 11 August 2007.
  126. "Kasparov knows more about Deep Junior than we do". ChessBase. 15 February 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 August 2013. Cyrchwyd 27 August 2013.
  127. 'Garry Kasparov on Resisting Authoritarianism'. Persuasion, 27 November 2021, retrieved 5 April 2023
  128. "Garry Kasparov Transcript". Conversations with Bill Kristol. The Foundation for Constitutional Government. 25 April 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 July 2018. Cyrchwyd 6 June 2017.
  129. "Kasparov" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 5 December 2021. Cyrchwyd 24 June 2021.
  130. Nick Gillespie, 'Garry Kasparov's Gambit|Reason|November 19, 2021'. Garry Kasparov official website, 19 November 2021, retrieved 5 April 2023
  131. Tolz, Vera (29 April 2018). "Split in Democratic Party of Russia". friends-partners.org. Radio Free Europe/Radio Liberty. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 September 2018. Cyrchwyd 17 September 2018.
  132. "Russian Chess Legend Kasparov to Establish United Civil Front". MOSNeWS.com. 18 May 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 May 2007.
  133. "Kasparov leads demonstration against Putin's rule". The Independent on Sunday. 10 June 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 March 2009. Cyrchwyd 17 November 2010.
  134. "Chess champ Kasparov's new gambit: politics". Chicago Sun-Times. 12 March 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 August 2013. Cyrchwyd 11 August 2007.
  135. Applebaum, Anne (21 April 2007). "Why Putin will stop at nothing to smash the new Russian revolution". The Spectator. UK. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 June 2008. Cyrchwyd 11 August 2007.
  136. "Non-partying system". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 August 2007. Cyrchwyd 19 August 2007.
  137. "Pictures of the Moscow assault". The Federal Post. Chessbase. 22 April 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 August 2007. Cyrchwyd 11 August 2007.
  138. "Kasparov manhandled by police at Moscow protest". Moscow Times. Chessbase. 16 May 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 August 2007. Cyrchwyd 11 August 2007.
  139. "Breaking news: Kasparov assaulted again". Mosnewsm.com. Chessbase. 30 June 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 August 2007. Cyrchwyd 11 August 2007.
  140. "Anti-Kremlin protesters beaten by police". CNN. 3 March 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 March 2007. Cyrchwyd 11 August 2007.
  141. "Russian opposition demo quashed". BBC News. London. 25 March 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 March 2007. Cyrchwyd 11 August 2007.
  142. "Kasparov arrested at Moscow rally". BBC News. London. 17 April 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 August 2007. Cyrchwyd 11 August 2007.
  143. Buckley, neil (18 April 2007). "Russian intelligence to quiz Kasparov over "inciting extremism"". Financial Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 September 2007. Cyrchwyd 11 August 2007.
  144. "Kasparov runs for Russian presidency". Associated Press. 1 October 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 March 2016. Cyrchwyd 26 March 2017.
  145. "Kasparov vs Wolf Blitzer on CNN's Late Edition". Chess News (yn Saesneg). 2007-10-24. Cyrchwyd 2022-06-27.
  146. "Kasparov seized by Russian Police". BBC News. London. 24 November 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 March 2022. Cyrchwyd 24 November 2007.
  147. Japaridze, Misha (28 November 2007). "Kasparov released from Moscow jail". Associated Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 May 2008. Cyrchwyd 28 November 2007.
  148. A Bible, But No E-mail Time magazine
  149. "Гарри Каспаров. Возьмемся за руки, друзья... "ЕЖ", 6 April 2010". Ej.ru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 March 2012. Cyrchwyd 17 January 2012.
  150. "Игорь Эйдман. Открытое письмо организаторам кампании по сбору подписей". Igeid.livejournal.com. 25 March 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 March 2012. Cyrchwyd 17 January 2012.
  151. "Protest Organizers Meet to Settle on Demands". Moscow Times. 1 February 2012. tt. 12–27. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 February 2012. Cyrchwyd 3 February 2012.
  152. "Breaking news: Kasparov arrested and beaten at Pussy Riot trial". Chessbase. 17 August 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 August 2012. Cyrchwyd 20 October 2013.
  153. "Moscow court acquits Garry Kasparov". Tert.am. 25 August 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 February 2023. Cyrchwyd 6 December 2021.
  154. "Kasparov Declared Innocent in Unprecedented Case (incl. statement)". Kasparov. 21 January 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 February 2020. Cyrchwyd 12 February 2020.
  155. Kasparov, Garry (6 February 2013). "Fascism in Our Own Backyard". Garry Kasparov. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 November 2013. Cyrchwyd 2 November 2013.
  156. Kasparov, Garry (24 April 2013). "The Doubling of VVP". Garry Kasparov. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 October 2013. Cyrchwyd 7 November 2013.
  157. Kirit Radia, 'Chess Grand Master Is Latest Russian To Flee'. Abc News, 6 June 2013, retrieved 1 March 2023
  158. 158.0 158.1 Kasparov, Garry (20 June 2013). "I Will Not Return to the Dark Reality of Putin's Russia". The Daily Beast. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 November 2013. Cyrchwyd 14 November 2013.
  159. Kasparov, Garry (20 June 2013). "I Will Not Return to the Dark Reality of Putin's Russia". The Daily Beast. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 November 2013. Cyrchwyd 18 November 2013.
  160. "Checkmate: Garry Kasparov rips apart 'pathetic' NYT for providing Putin a platform for 'condescending propaganda'". Twitchy. 11 September 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 December 2013. Cyrchwyd 5 December 2013.
  161. Kasparov, Garry (26 July 2013). "Kasparov: Why cracks are starting to appear in Putin's Russia". CNN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 October 2013. Cyrchwyd 27 November 2013.
  162. "В России заблокировали несколько интернет-СМИ и блог Алексея Навального – Газета.Ru". Gazeta.ru. 17 June 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 March 2014. Cyrchwyd 17 March 2014.
  163. "Имя Гарри Каспарова вычеркнули из книги, посвященной победам советского спорта". znak.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 November 2019. Cyrchwyd 25 November 2019.
  164. Garry Kasparov [@] (28 February 2022). "The time for long maneuvering games are over. The only way this really ends is the fall of Putin's regime by collapse of Russian economy and defeat in Ukraine. Everything else is waiting for the next crisis" (Trydariad). Cyrchwyd 3 March 2022 – drwy Twitter.
  165. Garry Kasparov [@] (28 February 2022). "As Harry Truman said in 1951, "Good leaders.. do not stop to measure sacrifices with a teaspoon while the fight is on. We cannot lead the forces of freedom from behind." I hope the WH catches up soon, but the pressure must be kept up until that happens" (Trydariad) – drwy Twitter.
  166. RFE/RL's Russian Service (28 February 2022). "Group Of Exiled Russian Public Figures Creates Anti-War Committee". Radio Free Europe/Radio Liberty. Cyrchwyd 18 March 2022.
  167. Michalska, Aleksandra; Harte, Julia (4 March 2022). "Kasparov calls on world powers to throw Russia 'back into the Stone Age'". Reuters (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 March 2022. Cyrchwyd 17 March 2022.
  168. "Russia Adds Chess Champion Kasparov, Former Tycoon Khodorkovsky To 'Foreign Agents' Registry". Rferl.org. 2022-05-21. Cyrchwyd 2022-06-11.
  169. "Russian political opposition sign declaration in Europe against Putin's regime and war in Ukraine". Yahoo. Ukrayinska Pravda. 1 May 2023.
  170. Kasparov, Garry (6 March 2016). "Parties, Pledges and Principles". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 March 2016. Cyrchwyd 13 March 2016.
  171. Kasparov, Garry (11 December 2015). "Trump, Putin, and Real Fascism". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 March 2016. Cyrchwyd 13 March 2016.
  172. "Garry Kasparov's response to Mike Pence on Twitter". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 October 2016. Cyrchwyd 10 October 2016.
  173. "From Tucker with Love". 10 December 2021.
  174. Kasparov, Garry (10 March 2016). "Garry Kasparov: Hey, Bernie, Don't Lecture Me About Socialism. I Lived Through It". The Daily Beast. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 March 2016. Cyrchwyd 13 March 2016.
  175. 175.0 175.1 175.2 Gessen, Masha (4 December 2018). "Garry Kasparov Says We Are Living in Chaos, But Remains an Incorrigible Optimist". The New Yorker. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 December 2018. Cyrchwyd 22 April 2021.
  176. "Kasparov: Start of Karabakh Tragedy Was Sumgait Pogrom". The Armenian Mirror-Spectator. 15 October 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 October 2020. Cyrchwyd 16 October 2020.
  177. "Kasparov Chess Foundation - Bio". kasparovchessfoundation.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 December 2007. Cyrchwyd 15 May 2022.
  178. "Kasparov: Armenia Unrest Is Political Bellwether" (yn Saesneg). Voice of America. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 February 2020. Cyrchwyd 18 February 2020.
  179. Kasparov, Garry (24 April 2018). "A day of mourning and of hope. My solidarity and admiration for the heroic people of Armenia on the anniversary of the Genocide, who once again face the tide of history with courage and determination". @Kasparov63 (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 July 2020. Cyrchwyd 18 February 2020.
  180. "Garry Kasparov: We must be brave enough to call evil by its name". news.am (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 February 2020. Cyrchwyd 18 February 2020.
  181. Kasparov, Garry (24 April 2017). "My note on Armenian Genocide Mem Day. 'Denial of atrocity is denial of humanity–of the victims and of ourselves.'". @Kasparov63 (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 July 2020. Cyrchwyd 18 February 2020.
  182. "Garry Kasparov calls on the world to recognise Armenian Genocide".
  183. Raphael, Therese (26 March 1999). "How to Checkmate Milosevic". The Wall Street Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 May 2021. Cyrchwyd 18 May 2021.
  184. "Garry Kasparov: World Chess Legend, Russian Pro-Democracy Leader and Chairman of Human Rights Foundation". Sandra Day O'Connor Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 August 2021. Cyrchwyd 4 August 2020.
  185. "HRF Elects Garry Kasparov as New Chairman". Human Rights Foundation. 4 May 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 May 2015. Cyrchwyd 31 October 2013.
  186. "Russian Dissident & Chess Champion Wins Human Rights Award". UN Watch. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 December 2013. Cyrchwyd 7 November 2013.
  187. "Kasparov acusa a Rajoy de "traicionar" la promesa europea del fin de la fuerza". El Nacional (yn Sbaeneg). 2 October 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 February 2018. Cyrchwyd 12 February 2018.
  188. "El mensaje de Kasparov a la Unión Europea tras las elecciones en Cataluña". HuffPost (yn Sbaeneg). 22 December 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 October 2018. Cyrchwyd 3 October 2018.
  189. Kasparov, Garry. "Despite unprecedented pressure from Madrid, Catalonian separatists won a majority. Europe must speak and help find a peaceful path toward resolution and avoid more violence". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-03-22. Cyrchwyd 12 February 2018.
  190. "Kasparov recommends Spain look towards the UK instead of Turkey". El Nacional. 2 December 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 March 2022. Cyrchwyd 3 January 2021.
  191. "Garry Kasparov calls on the world to recognize Armenian Genocide". Armenpress. 24 April 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 March 2022. Cyrchwyd 3 January 2021.
  192. 192.0 192.1 "Jamal Khashoggi died for an important cause: We must not forget it". Salon. 24 October 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 January 2021. Cyrchwyd 3 January 2021.
  193. "Chess champion Garry Kasparov granted Croatian citizenship". The Guardian. London. 28 February 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 June 2015. Cyrchwyd 18 April 2014.
  194. 194.0 194.1 "Gari Kasparov dobio hrvatsko državljanstvo". Dnevnik (yn Croateg). 27 February 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 November 2021. Cyrchwyd 23 November 2021.
  195. "Garry Kasparov V Transcript". Conversations with Bill Kristol. The Foundation for Constitutional Government. 25 April 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 July 2018. Cyrchwyd 6 June 2017.
  196. Edwards, Jim (23 January 2018). "Garry Kasparov told us what it's like to live in fear of being assassinated by Putin". Business Insider. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 April 2021. Cyrchwyd 22 April 2021.
  197. 197.0 197.1 Cowing, Emma (14 July 2006). "Kasparov makes his first political move on Putin". The Scotsman. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 August 2006.
  198. Garry Kasparov (2017). Deep Thinking. Where machine intelligence ends and human creativity begins (John Murray, London), dedication page
  199. "Team". Kasparov. 6 October 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 December 2021. Cyrchwyd 26 December 2021.