Robert Mugabe
| Robert Mugabe | |
|---|---|
| Ganwyd | Robert Gabriel Mugabe 21 Chwefror 1924 Kutama |
| Bu farw | 6 Medi 2019 Gleneagles Hospital |
| Dinasyddiaeth | Simbabwe |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | gwleidydd |
| Swydd | Arlywydd Simbabwe, Prif Weinidog Simbabwe, Chairperson of the African Union, cadeirydd y Sefydliad Undod Affricanaidd, Q67170226, Secretary General of the Non-Aligned Movement, Defence Minister of Zimbabwe |
| Taldra | 170 centimetr |
| Plaid Wleidyddol | Zimbabwe African National Union – Patriotic Front, Zimbabwe African People's Union, ZANU |
| Tad | Gabriel Mugabe Matibiri |
| Mam | Amai Bona Mugabe |
| Priod | Grace Mugabe, Sally Mugabe |
| Plant | Bona Mugabe, Chatunga Bellarmine Mugabe, Michael Nhamodzenyika Mugabe, Robert Peter Mugabe Jr. |
| Perthnasau | Perence Shiri |
| Gwobr/au | Gwobr Jawaharlal Nehru am Ddeallusrwydd Rhyngwladol, Urdd José Martí, Order of Augusto César Sandino, U Thant Peace Award, Grand Cross of the Order of Good Hope, Order of Agostinho Neto, Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Order of Jamaica, Urdd Gwladwriaeth Serbia, Order of Good Hope, Confucius Peace Prize, Urdd y Gorchfygwr Mwyaf, Urdd y Baddon, Urdd dros ryddid, Urdd y Seren Iwgoslaf, Ordre du Mérite Congolais, Urdd Aur yr Olympiad |
| llofnod | |
Cyn-arlywydd Simbabwe oedd Robert Gabriel Mugabe (21 Chwefror 1924 – 6 Medi 2019). Ganed ym mhentref Matibiri, ardal Zvimba, i'r gogledd-orllewin o Salisbury (Harare heddiw).[1]
Bu'n gweithio fel athro am gyfnod, gan gynnwys rhai blynyddoedd yn Ghana, lle dylanwadwyd arno gan Kwame Nkrumah. Yn 1960, dychwelodd i Dde Rhodesia ac ymunodd a'r Blaid Ddemocrataidd Genedlaethol, a ddaeth yn ddiweddarch yn fudiad y Simbabwe African Peoples Union (ZAPU) dan Joshua Nkomo. Yn 1963 cynorthwyodd y Parchedig Ndabaningi Sithole i ffurfio'r Simbabwe African National Union (ZANU), yn gwrthwynebu llywodraeth Ian Smith yn yr hyn oedd yr adeg honno yn Rhodesia. Yn 1964 fe'i carcharwyd am siarad yn erbyn y llywodraeth, a bu yng ngharchar am ddeng mlynedd. Enillodd dair gradd academig tra yn y carchar.
Wedi ei ryddhau, symudodd i Mosambic a daeth yn arweinydd ZANU. Erbyn 1978 yr oedd llywodraeth Ian Smith wedi gorfod cydnabod na allai rheolaeth y lleiafrif gwyn barhau, ac arwyddwyd cytundeb gyda Abel Muzorewa, Ndabaningi Sithole ac eraill i rannu grym a chynnal etholiadau. Dychwelodd Mugabe i Simbabwe yn Rhagfyr 1979. Daeth yn Brif Weinidog Simbabwe yn 1980 ac yn Arlywydd cyntaf y wlad yn 1987.
Mae cryn nifer o lywodraethau wedi beirniadu llywodraeth Mugabe yn hallt am lygredd, camdrin gwrthwynebwyr gwleidyddol a chymeryd tir oddi wrth ffermwyr gwynion. Yn y blynyddoedd diwethaf mae economi Simbabwe wedi dirywio yn fawr, gyda lefel uchel o chwyddiant a diwethdra.
Yn Nhachwedd 2017, cafodd y llywodraeth Mugabe ei ddymchwel mewn coup d'état. Ymddiswyddodd fel arlywydd ar 21 Tachwedd 2017.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Stephen Chan (6 Medi 2019). "Robert Mugabe obituary". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Mehefin 2025.
- ↑ Robert Mugabe wedi ymddiswyddo , Golwg360, 21 Tachwedd 2017.