Harare
![]() | |
![]() | |
Math | prifddinas, dinas, dinas fawr, dinas â miliynau o drigolion ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 2,150,000 ![]() |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Harare ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 960,600,000 m² ![]() |
Uwch y môr | 1,492 metr, 1,494 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 17.8292°S 31.0522°E, 17.82772°S 31.05337°E ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Harare ![]() |
![]() | |
Prifddinas Simbabwe yw Harare. Mae'r boblogaeth tua 1,600,000, gyda 2,800,000 yn yr ardal ddinesig.
Hi yw dinas fwyaf Simbabwe a'i chanolfan fasnachol fwyaf. Saif 1483 medr (4865 troedfedd) uwch lefel y môr.
Sefydlwyd y ddinas, fel "Salisbury", gan garfan o ymsefydlwyr gwynion a drefnwyd gan Cecil Rhodes yn 1890. Roedd yn brifddinas Ffederasiwn Rhodesia a Nyasaland o 1953 hyd 1963, yna'n brifddinas De Rhodesia. Newidiwyd yr enw i "Harare" yn 1980, gan gymeryd ei henw o enw un o benaethiaid y Shona, Neharawa.
Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod]
- Eglwys gadeiriol
- Hotel Meikles
- Mbare Musika (marchnad)
- Stadiwm Rufaro
- Ysbyty Parirenyatwa
Enwogion[golygu | golygu cod]
- Syr Roy Welensky (1907-1991), gwleidydd
- Byron Black (g. 1969), chwaraewr tenis
- Grant Flower (g. 1970), chwaraewr criced