Economi Simbabwe
Gwedd
Un o economïau gwanaf y byd yw economi Simbabwe; mae'n methu dan bwysau camreolaeth economaidd, gyda lefel diweithdra o 85% a gorchwyddiant argyfyngus. Er yr oedd yn arfer bod ymhlith economïau cryfaf Affrica, dioddefodd yr economi drawsnewidiad gwael dan arweinyddiaeth yr Arlywydd Robert Mugabe. Mae gan Simbabwe lefel chwyddiant uchaf y byd, sef dros 10,000,000% (mae'n amhosib i gyfrifo gwerth manwl gywir); yr ail uchaf yw Myanmar gyda 34.4%.[1] Mae'r sefyllfa economaidd yn effeithio'n ddifrifol ar safonau byw pobl Simbabwe, ac mae pryderon gan y Cenhedloedd Unedig y gall prinder bwyd mewn siopau oherwydd gorchwyddiant a llesgedd y llywodraeth wrth ddiwygio tir achosi newyn.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) The World Factbook – Myanmar. CIA. Adalwyd ar 3 Awst, 2008.
- ↑ (Saesneg) McGreal, Chris (21 Gorffennaf, 2008). Threat of mass starvation looms in Simbabwe after latest harvest fails. The Guardian. Adalwyd ar 3 Awst, 2008.