Kwame Nkrumah

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Kwame Nkrumah
The National Archives UK - CO 1069-50-1.jpg
Ganwyd 21 Medi 1909 Edit this on Wikidata
Nkroful Edit this on Wikidata
Bu farw 27 Ebrill 1972 Edit this on Wikidata (62 oed)
Achos: canser y croen, Canser y brostad Edit this on Wikidata
Bwcarést Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Gold Coast, Ghana Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth Gwleidydd, Ysgrifennwr, diplomydd, Darlithydd Edit this on Wikidata
Swydd President of Ghana, chairperson of the Organisation of African Unity, Prime Minister of Ghana, Minister for Foreign Affairs, Aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Member of the Parliament of Ghana Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Convention People's Party, United Gold Coast Convention Edit this on Wikidata
Plant Gamal Nkrumah, Samia Nkrumah, Sekou Nkrumah Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr Heddwch Lennin Edit this on Wikidata
Nkrumah ar stamp Sofietaidd (1989).

Kwame Nkrumah (21 Medi 190927 Ebrill 1972) oedd Arlywydd cyntaf Ghana. Ystyrir ef yn un o'r ffigyrau pwysicaf yn natblygiad Cenedlaetholdeb Affricanaidd.

Ganed ef, fel Francis Nwia Kofi Ngonloma, yn Nkroful, yn yr hyn oedd bryd hynny yn drefedigaeth Brydeinig y Gold Coast. Graddiodd o Ysgol Achimota yn Accra yn 1930, a bu'n dysgu mewn ysgol Gatholig yn Axim. Yn 1935 teithiodd i'r Unol Daleithiau i astudio, gan raddio ym Mhrifysgol Lincoln, Pennsylvania. Bu'n bregethwr cynorthwyol mewn eglwysi duon yno, a chyfarfu a'r Marcsydd o Trinidad, C.L.R. James, a gafodd gryn ddylanwad arno. Bu wedyn yn Llundain am gyfnod.

Yn 1947 gwahoddwyd ef i wasanaethu fel ysgrifennydd i gomisiwn dan Joseph B. Danquah oedd yn edrych i mewn i'r posibilrwydd o annibynniaeth y Gold Coast. Dychwelodd i'r wlad yn Rhagfyr y flwyddyn honno. Yn 1948 carcharwyd ef gan yr awdurdodau Prydeinig. Wedi ei ryddhau, bu'n bodio ei ffordd o amgylch y wlad yn ymgyrchu dros hunanlywodraeth. Carcharwyd ef eto yn 1950, am dair blynedd y tro hwn. Dan bwysau rhyngwladol, cytunodd Prydain i gynnal etholiad yn Chwefror 1951, ac enillodd plaid Nkrumah, oedd yn dal yng ngharchar, fuddugoliaeth ysgubol. Rhyddhawyd ef, a gofynnwyd iddo ffurfio llywodraeth. Flwyddyn yn ddiweddarach, enwyd ef yn Brif Weinidog. Ar 6 Mawrth, 1957, cyhoeddodd Nkrumah fod Ghana yn wlad annibynnol. Yn 1960 daeth Ghana yn weriniaeth, a Nkrumah yn Arlywydd. Daeth Nkrumah yn amlwg fel hyrwyddwr Pan-Affricaniaeth a'r Mudiad Amhleidiol.

Y mis Chwefror 1966, pan oedd Nkrumah ar ymweliad a Fietnam, cipiwyd grym gan y fyddin, gyda chefnogaeth y CIA. Bu'n byw mewn alltudiaeth yn Conakry, Gini, lle gwnaeth yr arlywydd Ahmed Sékou Touré ef yn gyd-arlywydd er anrhydedd. Bu farw o gancr y croen yn Ebrill 1972. Dychwelwyd ei gorff i Ghana a'i gladdu yn Nkroful. Yn ddiweddarach, trosglwyddwyd ei weddillion i Accra.

Gweithiau Kwame Nkrumah[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Birmingham, David. Kwame Nkrumah: The Father of African Nationalism (Athens: Ohio University Press), 1998.