Mike Pence
| Mike Pence | |
|---|---|
| 48ain Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau | |
| Mewn swydd 20 Ionawr 2017 – 10 Ionawr 2021 | |
| Arlywydd | Donald Trump |
| Rhagflaenwyd gan | Joe Biden |
| Dilynwyd gan | Kamala Harris |
| 50fed Llywodraethwr Indiana | |
| Mewn swydd 14 Ionawr 2013 – 9 Ionawr 2017 | |
| Lieutenant | Sue Ellspermann Eric Holcomb |
| Rhagflaenwyd gan | Mitch Daniels |
| Dilynwyd gan | Eric Holcomb |
| Aelod o'r Tŷ Cynrychiolwyr o Indiana | |
| Mewn swydd 3 Ionawr 2001 – 3 Ionawr 2013 | |
| Rhagflaenwyd gan | David M. McIntosh |
| Dilynwyd gan | Luke Messer |
| Etholaeth | 2il ardal (2001–2003) 6ed ardal (2003–2013) |
| Cadeirydd y Gynhadledd Weriniaethol y Tŷ | |
| Mewn swydd 3 Ionawr 2009 – 3 Ionawr 2011 | |
| Dirprwy | Cathy McMorris Rodgers |
| Arweinydd | John Boehner |
| Rhagflaenwyd gan | Adam Putnam |
| Dilynwyd gan | Jeb Hensarling |
| Manylion personol | |
| Ganed | Michael Richard Pence 7 Mehefin 1959 Columbus, Indiana, U.D. |
| Plaid gwleidyddol | Gweriniaethol |
| Pleidiau eraill | Democrataid (cyn 1983)[1] |
| Priod | Karen Batten (pr. 1985) |
| Plant | 3 |
| Perthnasau | Greg Pence (brawd) |
| Addysg | Coleg Hanover (BA) Prifysgol Indiana, Indianapolis (JD) |
| Llofnod | |
| Gwefan | Gwefan Swyddogol |
Gwleidydd o'r Unol Daleithiau yw Michael Richard Pence (ganwyd 7 Mehefin 1959). Ef oedd 48ain Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau rhwng 2017 a 2021. Yn gyfreithiwr yn ôl galwedigaeth, gwasanaethodd fel Llywodraethwr Indiana rhwng 2013[2] a 2017 ac fel aelod o Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau rhwng 2001 a 2013. Yn Weriniaethwr, cadeiriodd Gynhadledd Weriniaethol y Tŷ rhwng 2009 a 2011. Mae Pence yn gefnogwr hirhoedlog i'r mudiad Te Parti.[3][4]
Ar 14 Grffennaf 2016 dywedodd ymgyrch Donald Trump mai Pence fyddai dewis Trump ar gyfer partner yn etholiad arlywyddol 2016.[5] Aeth ymgyrch Trump-Pence ymlaen i drechu ymgyrch Clinton-Kaine yn yr etholiad Arlywyddol ar Dachwedd 8, 2016. Cafodd Pence ei urddo’n Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau ar 20 Ionawr 2017.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Pence yn Ysbyty Rhanbarthol Columbus yn Columbus, Indiana [6] un o chwech o blant Nancy Jane (g. Cawley) ac Edward J. Pence, Jr [7] [8] ei deulu yn Ddemocratiaid Catholig Gwyddelig.[9]
Graddiodd Pence o Ysgol Uwchradd Gogledd Columbus ym 1977. Enillodd BA mewn Hanes o Goleg Hanover ym 1981 a JD o Ysgol y Gyfraith Robert H. McKinney o Brifysgol Indiana ym 1986.
Ar ôl graddio o ysgol gyfraith ym 1986, bu Pence yn gweithio fel atwrnai mewn practis preifat.[10] Parhaodd i ymarfer y cyfraith yn dilyn ei ail rediad aflwyddiannus i'r Gyngres.
Tŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau (2001–2013)
[golygu | golygu cod]Ym mis Tachwedd 2000, etholwyd Pence i Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau yn 2il Ranbarth Cynghresol Indiana ar ôl i beriglor chwe blynedd David M. McIntosh (1995-2001) ddewis rhedeg am lywodraethwr Indiana.

Ar 8 Tachwedd, 2006, cyhoeddodd Pence ei ymgeisyddiaeth ar gyfer arweinydd y Blaid Weriniaethol(arweinydd lleiafrifol) yn Nhŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau. Canolbwyntiodd datganiad Pence, yn cyhoeddi ei rediad am arweinydd lleiafrifol, ar "ddychwelyd i werthoedd" Chwyldro Gweriniaethol 1994. Ar Dachwedd 17, collodd Pence i’r Cynrychiolydd John Boehner o Ohio trwy bleidlais 168–27–1 (aeth yr un bleidlais i’r Cynrychiolydd Joe Barton o Texas).[11]
Gwasanaethodd Pence am gyfnod fel cadeirydd y Pwyllgor Astudio Gweriniaethol. Roedd aseiniadau ei Bwyllgor yn Nhŷ’r UD yn cynnwys: Materion Tramor, Is-bwyllgor ar y Dwyrain Canol a De Asia (Is-gadeirydd); Barnwriaeth, Is-bwyllgor ar y Cyfansoddiad (Is-gadeirydd), ac Is-bwyllgor Eiddo Deallusol, Cystadleuaeth, a'r Rhyngrwyd .
Tra yn y Gyngres, roedd Pence yn perthyn i Cawcws y Tea Party.[12] Roedd Pence hefyd yn perthyn i'r Cawcws cynghresol a'r Rhyngrwyd, Cawcws Cadwraeth Ryngwladol, a Cawcws Chwaraewyr.
Ar ôl etholiad mis Tachwedd 2010, cyhoeddodd Pence na fyddai’n rhedeg i’w ailethol yn Gadeirydd Cynhadledd y Gweriniaethwyr.[13] Ar 5 Mai 2011, cyhoeddodd Pence y byddai'n ceisio'r enwebiad Gweriniaethol ar gyfer Llywodraethwr Indiana yn 2012.[14] [15]
Llywodraethwr Indiana (2013–2017)
[golygu | golygu cod]Ar 6 Tachwedd 2012, enillodd Pence yr etholiad llywodraethol,[16] gan drechu'r enwebai Democrataidd John R. Gregg a'r enwebai Libertaraidd Rupert Boneham.

Daeth Pence yn 50fed Llywodraethwr Indiana ar 14 Ionawr 2013.
Gwnaeth Pence diwygio treth yn yr ardal, sef toriad cyfradd treth incwm o 10%, yn flaenoriaeth ar gyfer 2013.[17]
Ar 26 Mawrth 2015, llofnododd Pence Mesur Senedd Indiana 101, a elwir hefyd yn fil "gwrthwynebiadau crefyddol" Indiana (RFRA), yn gyfraith.[18] Cafodd llofnodi'r gyfraith ei feirniadu'n helaeth gan bobl a grwpiau a oedd yn teimlo bod y gyfraith wedi'i geirio'n ofalus mewn ffordd a fyddai'n caniatáu gwahaniaethu yn erbyn pobl LGBT. [19][20]
Ym mis Mawrth 2016, gwnaeth Pence ceisio'n aflwyddiannus i atal ffoaduriaid o Syria rhag cael eu hailsefydlu yn Indiana.[21]
Enwebiad is-arlywyddol 2016
[golygu | golygu cod]Ym mis Gorffennaf 2016, dywedodd Trump fod tri o bobl ar ei restr fer: Chris Christie, Newt Gingrich a Pence ei hun. Ar 14 Gorffennaf 2016, adroddwyd bod Trump wedi dewis Pence fel ei phartner.[22] Ar 15 Gorffennaf 2016, cyhoeddodd Trump ar ei Twitter mai Pence fyddai ei phartner. Gwnaeth gyhoeddiad ffurfiol yn Ninas Efrog Newydd ar 16 Gorffennaf 2016.
Byddai Trump yn mynd ymlaen i drechu Clinton yn yr etholiad cyffredinol gan wneud Pence yn Is-Arywydd-ethol yr Unol Daleithiau.
Is-Alywydd yr Unol Daleithiau (2017-2021)
[golygu | golygu cod]Cafodd Pence ei urddo fel 48ain Is-Arywydd yr Unol Daleithiau ar ôl cael ei dyngu gan Clarence Thomas, 20 Iobnawr 2017.
Ar 27 Ionawr 2017, siaradodd Pence yn y March for Life yn Washington DC, gan ddod yn is-Arlywydd cyntaf a swyddog yr Unol Daleithiau ar y safle uchaf i siarad erioed yn y digwyddiad blynyddol. [23] [24]
Ym mis Chwefror 2020, penodwyd Pence yn gadeirydd Tasglu Coronafirws y Tŷ Gwyn, a sefydlwyd mewn ymateb i bandemig COVID-19 yn yr Unol Daleithiau.[25]
Ymbellhawyd oddi wrth Trump ar ddiwedd ei dymor. Yn gyntaf wnaeth mynd i'r gyngres 6 Ionawr 2021 i ardystio canlyniadau etholiad 2020 o blaid y bleidlais ddemocrataidd i Joe Biden (enillydd), yn erbyn addewid yr Arlywydd Trump. Dywedodd ei fod yn rhaid iddo ddilyn y cyfansoddiad a dim gwrthdroi'r bleidlais. Daeth o dan fygythiad wrth ddweud hyn wrth i derfysgwyr oedd yn cefnogi Trump dorri i mewn i'r capitol wrth i'r ardystio digwydd, yn beth a elwir Y cyrch ar Gapitol yr Unol Daleithiau. Cafodd ei gludo i stafell ddiogel cyn i'r terfysgwyr achosi niwed. Ar ôl i'r heddlu a swyddogion diogelwch cael gafael yn y sefyllfa a gwneud y Capitol yn ddiogel parhawyd gan ardystio Biden fel arlywydd nesaf America.[26]
Fe wnaeth hefyd mynd i urddo Biden ar 20 Ionawr 2021 pan wnaeth Arlywydd Trump ddim hyd yn oed ystyried mynd i'r seremoni yn groes i draddodiad 150 mlynedd. Yn ogystal nid oedd Pence wedi mynd i seremoni diwedd Trump yn Joint Base Andrews.[27][28]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae Pence a'i wraig Karen Pence wedi bod yn briod ers 1985. Mae ganddynt dri o blant: Michael, Charlotte, ac Audrey. Mae Pence yn Gristion. Ma ei frawd, Greg, yn aelod o Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Eason, Rrian (9 Tachwedd 2016). "Next VP: 10 things to know about Indiana Gov. Mike Pence". IndyStar. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2016.
- ↑ "Pence in as governor of Indiana; Hassan wins N.H." nbcpolitics.nbcnews.com. 6 Tachwedd 2012. Cyrchwyd 17 Rhagfyr 2012.
- ↑ Amber Phillips, 10 things you should know about Mike Pence, Donald Trump’s likely running mate, Washington Post, 14 Gorffennaf 2016
- ↑ Michael Muskal, Mike Pence to run for Indiana governor: Republicans had expected Rep. Mike Pence, a 'tea party' favorite, to join the state race to succeed Gov. Mitch Daniels, who may make a run for the GOP presidential nomination, Los Angeles Times, 5 Mai 2011
- ↑ "Donald Trump's Campaign Signals He Will Pick Mike Pence as Running Mate". The New York Times. 14 Gorffennaf 2016.
- ↑ Reports, Staff. "The Mike Pence timeline: Path from Columbus to the White House". The Republic (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-19.
- ↑ "Wedding Bells Ring Out For 3 S. Side Couples". Chicago Daily Tribune. 5 Ebrill 1956.[dolen farw]
- ↑ http://www.indystar.com/relart/20121006/NEWS05/210060343
- ↑ Burton, Danielle (15 Tachwedd 2006).What You Didn't Know About Rep. Mike Pence of Indiana, U.S. News & World Report, adalwyd 31 Mawrth 2015
- ↑ "Your Local Officials: Indiana Governor Mike Pence". National Retail Federation.
- ↑ "Boehner elected as Republican leader: Succeeds Hastert in top GOP role in Democratic-controlled House" Archifwyd 2012-10-20 yn y Peiriant Wayback, Associated Press, 17 Tachwedd 2006
- ↑ Janie Lorber, Tea Party Caucus Tackles Racism Charge (July 21, 2010).
- ↑ "Letter of Resignation from House Republican Caucus" (PDF). Cyrchwyd 3 Tachwedd 2010.
- ↑ Camia, Catalina (27 Ionawr 2011). "Rep. Pence to skip GOP race for president". USA Today. Cyrchwyd 18 Awst 2011.
- ↑ Muskal, Michael (5 Mai 2011). "Mike Pence to run for Indiana governor". Los Angeles Times. Cyrchwyd 5 Mai 2011.
- ↑ "Pence in as governor of Indiana; Hassan wins N.H." nbcpolitics.nbcnews.com. November 6, 2012. Cyrchwyd 17 Rhagfyr 2012.
- ↑ Rucker, Philip (12 Rhagfyr 2014) – "Mike Pence Lays Out Vision for a Presidential Campaign. But Will He Be a Candidate?". The Washington Post. Adalwyd 1 Ionawr 2015.
- ↑ "Indiana Gov. Pence defends religious objections law: 'This bill is not about discrimination'". The Chicago Tribune. 26 Mawrth 2015.
- ↑ "Thousands march in Indiana to protest law seen targeting gays". Reuters. 29 Mawrth 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-29. Cyrchwyd 2020-07-31.
- ↑ "These Religious Groups Want Nothing To Do With Indiana's New Law". The Huffington Post. 4 Ebrill 2015.
- ↑ "Exodus, continued: Indiana's governor is losing his fight to keep Syrian refugees away: Most other governors seem to have quietly dropped the matter". The Economist. 14 Mawrth 2016. Cyrchwyd 15 Mawrth 2016.
- ↑ James Briggs and Tony Cook (14 Gorffennaf 2016). "Pence is Trump's VP pick". The Indianapolis Star.
- ↑ Gaudiano, Nicole (27 Ionawr 2017). "At Anti-Abortion Rally, Mike Pence is a Beacon of Hope". USA Today. Cyrchwyd January 27, 2017.
- ↑ Fredericks, Bob (27 Ionawr 2017). "Mike Pence Makes History by Rallying with Pro-Life Marchers". New York Post. Cyrchwyd 27 Ionawr 2017.
- ↑ "For Pence, Coronavirus Task Force Is A High-Profile Assignment With Political Risk". NPR.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-07-31.
- ↑ "Swyddog yr heddlu gafodd ei anafu yn ystod terfysgoedd Washington wedi marw". Golwg360. 8 Ionawr 2021. Cyrchwyd 20 Ionawr 2021.
- ↑ Semones, Evan. "Vice President Harris bids farewell to Pence". POLITICO (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-01-20.
- ↑ Caralle, Katelyn (2021-01-20). "Mike Pence arrives for Biden's inauguration in final split from Trump". Mail Online. Cyrchwyd 2021-01-20.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Mike Pence am Lywodraethwr Archifwyd 2012-10-26 yn y Peiriant Wayback
- Ymddangosiadau ar C-SPAN
- Proffil a Ballotpedia