Vasily Smyslov

Oddi ar Wicipedia
Vasily Smyslov
Ganwyd24 Mawrth 1921 Edit this on Wikidata
Moscfa Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mawrth 2010 Edit this on Wikidata
Moscfa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRwsia, Yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr gwyddbwyll, canwr, awdur ffeithiol, arbenigwr gwyddbwyll, ysgrifennwr, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Math o laisbariton Edit this on Wikidata
Gwobr/aupencampwr gwyddbwyll y byd, Urdd Lenin, Urdd Teilyngdod "Am waith dros yr Henwlad", Dosbarth IV, Urdd Cyfeillgarwch y Bobl, Meistr Anrhydeddus Chwaraeon, CCCP Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonRwsia, Yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata

Roedd Vasily Vasilyevich Smyslov (Rwseg: Vasíliy Vasíl'yevich Smyslóv; 24 Mawrth 1921 – 27 Mawrth 2010)[1] yn uwchfeistr gwyddbwyll Sofietaidd a Rwsiaidd. Bu'n Bencampwr Gwyddbwyll y Byd o 1957 i 1958. Bu'n Ymgeisydd ar gyfer Pencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd ar wyth achlysur (1948, 1950, 1953, 1956, 1959, 1965, 1983, a 1985). Bu Smyslov yn gyfartal gyntaf ddwywaith ym Mhencampwriaethau Gwyddbwyll yr Undeb Sofietaidd (1949, 1955), ac mae y cyfanswm o 17 o fedalau Olympiad Gwyddbwyll a enillodd yn record. Mewn pum Pencampwriaeth Tîm Ewropeaidd, enillodd Smyslov ddeg medal aur.

Arhosodd Smyslov yn weithgar ac yn llwyddiannus mewn gwyddbwyll cystadleuol tan ei chwedegau. Er fod ei olwg yn dirywio, arhosodd yn weithgar gyda chyfansoddiadau achlysurol o broblemau ac astudiaethau gwyddbwyll tan ychydig cyn ei farwolaeth yn 2010. Ar wahân i gwyddbwyll, roedd yn ganwr bariton medrus.

Blynyddoedd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganed Smyslov i deulu Rwsiaidd, a dechreuodd ymddiddori mewn gwyddbwyll yn chwech oed. Roedd ei dad yn gweithio fel technegydd peirianneg ac wedi cynrychioli Sefydliad Technegol St Petersburg mewn cystadlaethau gwyddbwyll rhyng-golegol. Roedd tad Smyslov wedi astudio gwyddbwyll am gyfnod o dan arweiniad Nikhail Chigorin, a'r tad oedd athro cyntaf ei fab. Rhoddodd gopi iddo o lyfr Alexander Alekhine Fy Ngemau Gorau o Wyddbwyll, 1908-1923 a ddaeth yn gyfeirnod cyson iddo. Byddai hefyd yn ysgrifennu, "Yn ddiweddarach darllenais popeth oedd gan fy nhad yn ei lyfrgell: llawlyfr Dufresne, rhifau ar wahân o'r cylchgronau gwyddbwyll Sofietaidd Chess and Chess Sheet, gwerslyfrau Lasker a Capablanca, a chasgliadau gemau twrnameintiau Sofietaidd a rhyngwladol. Gwnaeth gemau meistr gwyddbwyll mawr Rwsia, Chigorin, argraff anhygoel arnaf; a gyda diddordeb mawr y darllenais y gwahanol ddatganiadau ar gwestiynau strategaeth gan Nimzovitch. Astudiais yn astud athrylith meistri Sofietaidd amlwg."[2]

Dechreuodd Smyslov chwarae gwyddbwyll mewn cystadlaethau yn 14 oed. Ym 1938, yn 17 oed, enillodd Smyslov Bencampwriaeth Iau yr Undeb Sofietaidd. Yr un flwyddyn, daeth yn gyfartal 1af-2il ym Mhencampwriaeth Dinas Moscfa. Fodd bynnag, roedd ymgais gyntaf Smyslov ar gystadleuaeth oedolion y tu allan i Foscfa yn drychinebus; gorffennodd yn 12fed–13eg yn nhwrnamaint Rhyngwladol Leningrad - Moscfa yn 1939 mewn cystadleuaeth eithriadol o gryf. Ym Mhencampwriaeth Moscfa 1939–40 gorffenodd Smyslov 2il-3ydd.

Blynyddoedd yr Ail Ryfel Byd[golygu | golygu cod]

Ym Mhencampwriaeth Gwyddbwyll yr Undeb Sofietaidd 1940 (Moscfa, URS-ch12), perfformiodd yn arbennig o dda gan orffen yn 3ydd, ac ar y blaen i'r pencampwr Mikhail Botvinnik. Y twrnamaint hwn oedd y rownd derfynol Sofietaidd cryfaf hyd at hynny, gan ei fod yn cynnwys nifer o chwaraewyr, fel Paul Keres a Vladas Mikenas, o wledydd a atodwyd gan yr Undeb Sofietaidd, fel rhan o Gytundeb Natsiaidd-Sofietaidd 1939.

Cynhaliodd y Ffederasiwn Sofietaidd dwrnamaint arall i'r chwech uchaf yng nghystadleuaeth 1940, a galwyd hyn yn Bencampwriaeth Absoliwt 1941 yr Undeb Sofietaidd, un o'r twrnameintiau cryfaf a drefnwyd erioed. Chwaraeodd pob chwaraewr yn erbyn ei wrthwynebwyr bedair gwaith. Y chwaraewyr oedd Botvinnik, Keres, Smyslov, Issac Boleslavsky, Igor Bondarev ac Andor Lilienthal. Sgoriodd Smyslov 10/20 gan orffen yn drydydd, y tu ôl i Botvinnik a Keres. Profodd hyn fod Smyslov o gryfder Uwchfeistr o safon fyd-eang yn 20 oed.

Ataliwyd y rhan fwyaf o wyddbwyll rhyngwladol gan yr Ail Ryfel Byd, ond roedd sawl twrnamaint yn cynnwys chwaraewyr Sofietaidd yn unig. Cafodd Smyslov ei eithrio o wasanaeth milwrol oherwydd ei olwg sâl iawn, ac enillodd Bencampwriaeth Moscfa 1942. Yn Kuibyshev 1942, daeth yn ail gyda 8/11. Mewn cystadleuaeth gref yn Sverdlovsk 1943, gorffennodd yn 3ydd-4ydd. Ym Mhencampwriaeth Moscfa 1943-44, gorffennodd yn 3ydd-4ydd. Gorffennodd yn ail ym Mhencampwriaeth Undeb Sofietaidd 1944 ym Moscfa (URS-ch13). Daeth yn bencampwr ym Mhencampwriaeth Moscfa 1944-45. Erbyn hyn, roedd Smyslov wedi datblygu i fod yn y grŵp o'r tri chwaraewr Sofietaidd gorau, ynghyd â Botvinnik a Keres, a oedd yn chwarae yn Ewrop a feddiannwyd gan y Natsïaid yn ystod y rhyfel.

Wrth i'r rhyfel ddod i ben, ail-ddechreuodd gwyddbwyll. Ond chwaraeodd Smyslov yn sâl iawn yn y cyfnod yn syth ar ôl y rhyfel. Ym Mhencampwriaeth yr Undeb Sofietaidd ym Moscfa 1945 (URS-ch14), gorffennodd tua'r canol; yr enillydd oedd Botvinnik, gyda Boleslavsky a'r seren newydd David Bronstein yn ail a thrydydd. Yn Tallinn 1945, cafodd Smyslov ei ganlyniad gwaethaf, gan sgorio dim ond 6½/15 mewn cystadleuaeth nad oedd yn arbennig o gryf. Nid oedd fawr gwell ym Mhencampwriaeth Moscfa 1945-46, a gorffenodd yn y 7fed-11eg safle. Ym Mhencampwriaeth Moscfa yn 1946, gorffennodd yn y 3ydd–6ed safle. Yn ystod y cyfnod hwn sgoriodd 31/62 yn unig yn y pedwar twrnamaint hynny, sef 50%.

Serch hynny, sicrhaodd canlyniadau cryf cynharach Smyslov iddo un o’r pum lle Sofietaidd yn y twrnamaint rhyngwladol cryf iawn cyntaf ar ôl y rhyfel, Cofeb Howard Staunton yn Groningen, Yr Iseldiroedd, yn Awst 1946. Enillwyd y digwyddiad hwn gan Botvinnik. Roedd Pencampwr y Byd Max Euwe yn ail, a Smyslov yn drydydd.

Yn y Bencampwriaeth Sofietaidd nesaf (URS-ch15, Leningrad 1947), gorffennodd yn 3ydd-4ydd, gyda Keres yn fuddugol. Yn Pärnu 1947, gorffennodd Smyslov yn 4ydd-6ed, wrth i Keres ennill eto. Yn Warsaw 1947, roedd Smyslov yn 2il-5ed; yr enillydd oedd Svetozar Gligoric. Yn nhwrnamaint Coffa Mikhail Chigorin, Moscfa 1947, gorffennodd Smyslov yn y 3ydd-4ydd safle, gyda Botvinnik yn fuddugol.

Dangosodd ei ganlyniadau batrwm cyson o orffen yn uchel yn erbyn cystadleuaeth gref, ond heb fawr ddim pencampwriaethau twrnamaint. Nid oedd Smyslov wedi ennill twrnamaint oedolion (heblaw am Bencampwriaeth Dinas Moscfa) cyn iddo chwarae yn Nhwrnamaint Pencampwriaeth y Byd 1948.

Herio pencampwriaeth y byd[golygu | golygu cod]

Roedd Smyslov yn un o'r pum chwaraewr a ddewiswyd i gystadlu yn nhwrnamaint Pencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd 1948 i benderfynu pwy ddylai olynu Alexander Alekhine a fu farw yn 1946. Gorffennodd Smyslov yn ail y tu ôl i Botvinnik.

Wedi iddo orffen yn ail ym Mhencampwriaeth y Byd 1948, derbyniwyd Smyslov yn uniongyrchol i dwrnamaint Ymgeiswyr Budapest 1950 heb fod angen iddo chwarae mewn gemau rhagbrofol. Sgoriodd 10/18 a gorffen yn drydydd, y tu ôl i Bronstein a Boleslavsky, a orffennodd yn gyfartal cyntaf. Roedd trydydd safle Smyslov yn ei gymhwyso'n awtomatig i dwrnamaint nesaf yr Ymgeiswyr. Derbyniodd y teitl Uwchfeistr Rhyngwladol ym 1950 ar restr agoriadol FIDE.

Ar ôl ennill Twrnamaint yr Ymgeiswyr yn Zürich 1953 ar y blaen i Keres, Bronstein, a Samuel Reshevsky, chwaraeodd Smyslov ornest ym Moscfa gyda Botvinnik am y teitl y flwyddyn ganlynol. Daeth yr ornest i ben yn gyfartal ar ôl 24 gêm (saith buddugoliaeth yr un a deg gêm gyfartal), ac felly cadwodd Botvinnik ei deitl.

Pencampwr y Byd[golygu | golygu cod]

Botvinnik vs. Smyslov (dde) ym Mhencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd 1957

Enillodd Smyslov Dwrnamaint yr Ymgeiswyr eto yn Amsterdam yn 1956, am ornest arall am bencampwriaeth y byd yn erbyn Botvinnik ym 1957. Gyda chymorth yr hyfforddwyr Vladimir Makogonov a Vladimir Simagin, enillodd Smyslov yr ornest. Y flwyddyn ganlynol, defnyddiodd Botvinnik ei hawl i ail ornest, ac enillodd y teitl yn ôl. Dywedodd Smyslov yn ddiweddarach fod ei iechyd yn dioddef yn ystod yr ail ornest, wedi iddo ddal niwmonia, ond cydnabu hefyd fod Botvinnik wedi paratoi'n drylwyr iawn.[3] Yn ystod tair gornest Pencampwriaeth y Byd, roedd Smyslov wedi ennill 18 gêm i 17 gêm Botvinnik (gyda 34 gêm gyfartal), ac eto dim ond am flwyddyn y bu'n bencampwr. Serch hynny ysgrifennodd Smyslov yn ei gasgliad gemau hunangofiannol, "Nid oes gennyf unrhyw reswm i gwyno am fy ffawd. Cyflawnais fy mreuddwyd a dod yn seithfed pencampwr y byd,"[3]

Pencampwriaethau'r Byd yn ddiweddarach[golygu | golygu cod]

Smyslov yn Interzonal Amsterdam yn 1964

Ni fu Smyslov yn gymwys ar gyfer Pencampwriaeth y Byd arall, ond parhaodd i chwarae yn nigwyddiadau rhagbrofol Pencampwriaeth y Byd. Ym 1959, roedd yn Ymgeisydd, ond gorffennodd yn bedwerydd yn y twrnamaint rhagbrofol a gynhaliwyd yn Iwgoslafia, a enillwyd gan Mikhail Tal. Methodd eto yn 1962, ond roedd yn ôl yn 1964, yn dilyn gêm gyfartal gyntaf yn Rhwngzonal Amsterdam. Ond collodd ei gêm yn y rownd gyntaf i Efim Geller.

Ym 1983, yn 62 oed, aeth drwodd i Rownd Derfynol yr Ymgeiswyr (y gêm i benderfynu pwy sy'n chwarae'r pencampwr, Anatoly Karpov yn yr achos hwnnw), gan golli 8½–4½ yn Vilnius 1984 i Garry Kasparov, a oedd yn 21 oed ar y pryd, cyn i Kasparov fynd ymlaen i guro Karpov a dod yn bencampwr byd yn 1985. Curodd Smyslov Zoltan Ribli 6½–4½ yn y rownd gynderfynol, ond cafodd gêm gyfartal yn y pedwar olaf yn erbyn Robert Hubner, gyda’r chwaraewr aeth ymlaen (Smyslov) yn cael ei bennu gan droelliad olwyn roulette yn unig. Ei ymddangosiad olaf fel Ymgeisiwr oedd twrnamaint Montpellier 1985, lle na gymhwysodd.

Pencampwriaethau Sofietaidd[golygu | golygu cod]

Roedd Smyslov yn gystadlu'n gyson yn y Pencampwriaethau Sofietaidd a cafodd rai llwyddiannau nodedig. Ym 1940, tra'n dal yn ei arddegau, gorffennodd yn drydydd y tu ôl i Bondarevsky a Lilienthal. Yn y 13eg Bencampwriaeth ym 1944, daeth yn ail y tu ôl i Botvinnik ac ym 1947, daeth yn gydradd drydydd gyda Bondarevsky, tu ôl i Keres a Boleslavsky.

Roedd yn gydradd gyntaf yn y gystadleuaeth ym 1949 ac eto ym 1955 (gyda Bronstein, a wedyn Geller). Rhannwyd y teitl ym 1949, ond enillwyd teitl 1955 gan Geller ar ôl gêm ail gyfle.

Yn hwyrach o lawer yn ei yrfa dangosodd y gallai ddal i fod yn gystadleuol; rhannodd trydydd safle ym 1969 (y tu ôl i Petrosian a Polugaevsky) ac yn 1971 daeth yn gydradd ail â Tal, tu ôl i Savon. Fe'i graddiwyd gan FIDE fel un o'r 15 chwaraewr gorau yn y byd o ddiwedd y 1940au i ddechrau'r 1980au, cyfnod o bron i 40 mlynedd.

Record twrnamaint ar ôl yr Ail Ryfel Byd[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd Smyslov yn gyson mewn twrnameintau trwy gydol y 1950au, 60au a 70au, gan orffen yn y tri uchaf yn rhai o dwrnameintiau mwyaf mawreddog y cyfnod.

Ym 1950 roedd yn ail y tu ôl i Kotov yn Fenis ac ym 1951 enillodd Gofeb Chigorin, a gynhaliwyd yn Leningrad. Rhannodd drydydd gyda Botvinnik ym Mudapest (Cofeb Maróczy) ym 1952, tu ôl i Keres a Geller. Ym 1953, enillodd dwrnamaint hyfforddi yn Gagra a gorffen yn drydydd ym Mucharest, tu ôl i Tolush a Petrosian. Yng Nghyngres Hasting 1954-55, 'roedd yn gydradd gyntaf gyda Keres. Yn Zagreb 1955, ef oedd yn fuddugol, ddau bwynt yn glir ar y blaen. Parhaodd â'i rediad buddugol yng Nghofeb Alekhine Moscfa ym 1956, buddugoliaeth ar y cyd gyda'i wrthwynebydd cyson, Botvinnik. Yn ystod y cyfnod hwn, bu sawl buddugoliaeth yn ei ddinas enedigol, pan fu'n gydradd gyntaf gyda Bronstein a Spassky yn rhifyn cyntaf cyfres twrnamaint rhyngwladol Clwb Gwyddbwyll Canol Moscfa (a elwir weithiau hefyd yn Gofeb Alekhine) ym 1959, yn gyd-enillydd ym 1960 (gyda Kholmov) a 1961 (gyda Vasiukov), ac enillodd ar ben ei hun ym 1963.

Parhaodd i chwarae'n dda trwy gydol y 1960au. Roedd yn gydradd ail yn Dortmund 1961 (tu ôl i Taimanov) ac ym Mar del Plata 1962 (tu ôl i Polugaevsky). Teithiodd eto i Hastings ar ddiwedd 1962 a gorffen yn drydydd y tu ôl i Gligoric a Kotov. Ym 1963, roedd yn ail yn Sochi (Cofeb Chigorin) tu ôl i Polugaevsky. Ar ei ymweliad â Chofeb Capablanca Hafana ym 1964 daeth yn gydradd gyntaf gyda Uhlmann o Ddwyrain yr Almaen. Roedd yn gyntaf ar ben ei hun y flwyddyn ganlynol. Ym 1966, cafwyd buddugoliaethau ym Mar del Plata ac yng Nghofeb Rubinstein yn Polanica Zdroj. Ym 1967, daeth yn ail i Fischer ym Monte Carlo, enillodd ym Moscfa ac 'roedd yn ail tu ôl i Stein yn nhwrnamaint Coffa Alekhine. Daeth yn drydydd yr un flwyddyn yng Nghofeb Capablanca yn Hafana (tu ôl i Larsen a Taimanov) a gorffennodd yn drydydd eto yn Palma de Mallorca 1967 a Monte Carlo 1968, gyda'r ddau olaf yn cael eu hennill gan Larsen a Botvinnik. Hon hefyd oedd y flwyddyn iddo ailadrodd ei lwyddiant blaenorol yn Polanica Zdroj, pan ddaeth yn gyntaf ar ben ei hun. Daeth ei daith nesaf i Hastings a buddugoliaeth hefyd, pan ddaeth yn gyntaf ym 1968-69. Daeth y 1960au i ben gyda buddugoliaeth ym Monte Carlo 1969 (yn gydradd gyda Portisch) a trydydd safle yn Skopje 1969 (ar y cyd a Uhlmann a Kholmov, tu ôl i Hort a Matulović).

Karpov (chwith), Euwe (gwaelod) a Smyslov yn nhwrnamaint gwyddbwyll Tilburg 1977

Er ei fod yn llai toreithiog nag yn y degawdau blaenorol, chwaraeodd Smyslov lawer o dwrnameintiau cryf yn y 1970au a hyd yn oed i'r 1980au a thu hwnt. Daeth yn gydradd ail gyda Hort, Gligoric a Korchnoi yn Rovinj /Zagreb 1970, tu ôl i Fischer. Yn enillydd yn Amsterdam ym 1971, daeth yn drydydd yng Nghofeb Alekhine (Moscfa) yr un flwyddyn, tu ôl i Karpov a Stein. Yn Las Palmas 1972, roedd yn gydradd ail efo Larsen, y tu ôl i Portisch ac ym 1973, ar y brig yng Nghofeb Capablanca yn Cienfuegos. Daeth yn gyntaf yn Reykjavík ym 1974, ac yn nhwrnamaint Fenis yr un flwyddyn, gorffennodd yn ail y tu ôl i Liberzon. Yna dilynwyd ail safle yng Nghofeb Alexander (Teesside) ym 1975 (tu ôl i Geller), cyntaf yn Szolnok (hefyd ym 1975), a chydradd ail aml-ffordd yn Nhwrnamaint Agored Lone Pine ym 1976 (Petrosian a enillodd). Gorffennodd yn drydydd y tu ôl i Romanishin a Tal yn Leningrad ym 1977, gyda'r tri ar y blaen i bencampwr y byd Anatoly Karpov. Ym 1978, enillodd yn São Paulo a gorffennodd yn gydradd ail yn Muenos Aires, tu ôl i Andersson. Wrth i'r saithdegau ddod i ben, bu'n gydradd gyntaf yn Berlin 1979, y tro hwn yn rhannu â Csom.

Ymhlith y canlyniadau nodedig ar gyfer 1980 roedd cyntaf ar y cyd yn San Miguel (gyda Browne, Panno, Jaime Emma) ac yng Nghopenhagen (Cwpan Politiken, gyda Mikhalchishin). Yr un flwyddyn gorffennodd yn ail yn Bar, tu ôl i Petrosian ac yn ail yn Baguio, tu ôl i Torre. Ym Moscfa 1981, gorffennodd yn ail ar y cyd gyda Kasparov a Polugaevsky, tu ôl i Karpov. Arweiniodd ymweliad arall a Hastings ym 1981–82 at gyfran o’r ail safle, gyda Speelman, a tu ôl i Kupreichik. Roedd yn gyntaf yn Graz ym 1984 ac yn gyfartal gyntaf yn Copenhagen (Cwpan Politiken) 1986 gyda Chernin, Pigusov a Cserna. Chwaraeodd yn Reggio Emilia dros Flwyddyn Newydd 1986-87 a rhannodd yr ail safle gyda Hort, Chernin a Spassky, tu ôl i Ribli. Yn Hastings yn 1988–89, cymerodd gyfran o drydydd gyda Gulko a Speelman, tu ôl i Short a Korchnoi.

Arhosodd Smyslov ar restr 100 uchaf FIDE nes ei fod yn 70 oed. Roedd ei ymddangosiadau twrnamaint yn llai yn y 1990au, ond roedd y canlyniadau'n cynnwys cyfran o'r safle cyntaf yn Buenos Aires 1990 a chyfran o ail yn Malmö (gyda Sigeman) ym 1997, tu ôl i Hellers.

Cystadleuaeth tîm[golygu | golygu cod]

Cynrychiolodd Smyslov yr Undeb Sofietaidd naw gwaith yn Olympiad gwyddbwyll, o 1952 i 1972, (ac eithrio 1962 a 1966 yn unig). Cyfrannodd yn gryf at ennill medal aur tîm ar bob achlysur y chwaraeodd, gan ennill cyfanswm o wyth medal unigol. Mae ei gyfanswm o 17 o fedalau Olympiad a enillwyd, gan gynnwys medalau tîm ac unigol, yn record yn yr Olympiad, yn ôl olimpbase.org.

Yn Helsinki 1952, chwaraeodd ar yr ail fwrdd, ac enillodd y fedal aur unigol gyda 10½/13. Yn Amsterdam 1954, yr oedd eto ar yr ail fwrdd lle sgoriodd 9/12, a chipiodd y fedal efydd unigol. Ym Moscfa 1956, sgoriodd 8½/13 ar yr ail fwrdd, ond ni lwyddodd i ennill medal. Ym Munich 1958, sgoriodd 9½/13 ar yr ail fwrdd, digon da am y fedal arian unigol. Yn Leipzig 1960, chwaraeodd ef i'r gronfa wrth gefn gyntaf, a gwnaeth sgôr wych o 11½/13, ac enillodd y fedal aur. Heb ei ddewis ym 1962, dychwelodd ar gyfer Tel Aviv 1964, ar y trydydd bwrdd, ac enillodd y fedal aur gyda 11/13. Ni chafodd ei ddewis ym 1966, ond dychwelodd i Lugano 1968, gan sgorio 11/12 rhyfeddol, a medal aur arall fel ail chwaraewr wrth gefn. Yn Siegen 1970, ef oedd y chwaraewr wrth gefn cyntaf, a sgoriodd 8/11 am y fedal efydd. Ei Olympiad olaf oedd Skopje 1972, pan yn 51 oed chwaraeodd ar y trydydd bwrdd a sgorio 11/14, digon da i ennill y fedal arian.

Ei sgôr yn yr Olympiad yw 90 pwynt mewn 113 gêm (+69 -2 =42), sef 79.6%. Y perfformiad hwn yw'r pumed gorau erioed i chwaraewyr sy'n cymryd rhan mewn o leiaf pedwar Olympiad. Cynrychiolodd Smyslov yr Undeb Sofietaidd hefyd mewn pum Pencampwriaeth Tîm Ewropeaidd, a gorffennodd gyda record berffaith o fedalau: enillodd bum medal aur tîm a phum medal aur bwrdd. Cyfanswm ei sgôr yn y digwyddiadau hyn oedd (+19 −1 =15), sef 75.7%.

Blynyddoedd olaf[golygu | golygu cod]

Smyslov yn llongyfarch Yuri Averbakh ar ei ben-blwydd yn 80 oed ac yn cyflwyno llyfr o'i astudiaethau gwyddbwyll ei hun iddo

Ym 1991, enillodd Smyslov Bencampwriaeth Gwyddbwyll Hŷn gyntaf y byd. Gyda gradd FIDE yn dal i fod tua 2400 yn y flwyddyn 2000, cymerodd yr Uwchfeistr 80 oed ran yn yr hyn a oedd i fod ei dwrnamaint olaf, y Twrnamaint Klompendans Veterans Vs. Merched yn Amsterdam. Uchafbwynt yr ornest oedd Smyslov yn chwalu Zsofia Polgar, gan adael y record rhwng y ddau fel +5 –1 =3. Gohiriwyd rhai o'r gemau yn gynnar fel gemau cyfartal oherwydd ei olwg drwg, ac ymddeolodd Smyslov yn swyddogol o chwarae cystadleuol ar ôl y twrnamaint hwn. Ei radd Elo ar ôl y digwyddiad hwn oedd 2494.

Bu farw Smyslov o fethiant y galon mewn ysbyty ym Moscfa ar 27 Mawrth 2010, tridiau ar ôl ei ben-blwydd yn 89 oed. Dywedir fod ei flynyddoedd olaf wedi'i byw mewn tlodi ac na allai fforddio llawdriniaeth ar ei lygaid yr oedd dirfawr angen amdani. Adroddwyd hefyd bod Smyslov a'i wraig Nadezhda yn byw ar incwm o rentu eu fflat ac nad oedd neb o gwmpas i wirio neu ofalu amdanynt.[4]

Etifeddiaeth[golygu | golygu cod]

Roedd Smyslov yn adnabyddus am ei arddull sefyllfaol, ac, yn benodol, ei allu ddiweddglo manwl a chywir, ond roedd llawer o'i gemau yn cynnwys ergydion tactegol ysblennydd hefyd. Roedd ei repertoire agoriadol yn gonfensiynol ar gyfer y cyfnod 1950au-60au, yn cynnwys yn bennaf y Ruy Lopez a'r Agoriad Seisnig efo Gwyn, a'r Amddiffyniad Sisilaidd a Amddiffyniad Nimzo-Indian efo Du. Gwnaeth gyfraniadau enfawr i ddamcaniaeth agoriadol gwyddbwyll mewn llawer o agoriadau, gan gynnwys yr Agoriad Seisnig, Amddiffyniadau Grünfeld, a'r Sisilaidd. Mae ganddo amrywiad o'r Ruy Lopez Caeedig a enwyd ar ei ôl, sef: 1.e4 e5 2.Nf3 Nc6 3.Bb5 a6 4.Ba4 Nf6 5.0-0 Be7 6.Re1 b5 7.Bb3 d6 8.c3 0-0 9.h3 h6. Yn yr Amddiffyniad Grünfeld, y parhad 1.d4 Nf6 2.c4 g6 3.Nc3 d5 4.Nf3 Bg7 5.Qb3 dxc4 6.Qxc4 0-0 7.e4 Bg4 8.Be3; gelwir 8...Nfd7 yn "Amrywiad Smyslov" ac mae'n parhau i fod yn bwysig. Llwyddodd Smyslov hefyd i adfywio'r Amddiffyniad Fianchetto i'r Ruy Lopez yn llwyddiannus (1.e4 e5 2.Nf3 Nc6 3.Bb5 g6) yn y 1970au. Yn Amddiffyniad y Slafiaid, y llinell ochr 1.d4 d5 2.c4 c6 3.Nc3 Nf6 4.Nf3 dxc4 5.a4 enwir 5...Na6 yn "Amrywiad Smyslov". Yn olaf, enwir amrywiad o Amddiffyniad Indiaidd y Brenin ar ei ôl: 1.d4 Nf6 2.c4 g6 3.Nc3 Bg7 4.Nf3 0-0 5.Bg5 d6 6.e3.

Canwr opera[golygu | golygu cod]

Canwr bariton oedd Smyslov, a dim ond ar ôl methu mewn cyfweliad gyda Theatr y Bolshoi ym 1950 y penderfynodd ar yrfa gwyddbwyll. O bryd i'w gilydd byddai'n canu yn ystod twrnameintiau gwyddbwyll, yn aml yng nghwmni ei gyd-Uwchfeistr a'r pianydd cyngerdd Mark Taimanov.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Smyslov gyda'i wraig yn Nhwrnamaint Ymgeiswyr 1956

Am fwy na 50 mlynedd roedd Smyslov yn briod â Nadezhda Smyslova, gwraig dair blynedd yn hŷn nag ef; dienyddiwyd ei gŵr cyntaf yn ystod purges Stalin yn y 1940au cynnar. Cyfarfuant ym 1948. Roedd gan Nadezhda fab o'r briodas gyntaf, chwaraewr gwyddbwyll uchelgeisiol a gystadlodd ym Mhencampwriaethau Iau y Byd. Ni chafodd Vasily a Nadezhda unrhyw blant pellach. Roedd Nadezhda yn aml gyda'i gŵr mewn twrnameintiau mawr, yn rhoi cefnogaeth moesol iddo.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Mark Crowther (27 Mawrth 2010). "Vasily Smyslov 1921–2010". The Week in Chess. Cyrchwyd 28 Mawrth 2010.
  2. Reuben Fine, The World's Greatest Chess Games (Efrog Newydd, 1976).
  3. 3.0 3.1 J. Watson. "Book Reviews by John Watson". chess.co.uk.
  4. "Vasily Smyslov 1921–2010" The Week in Chess (27 Mawrth 2010). Adalwyd 4 Mai 201