Diwydiant gwlân Cymru
Un o ddiwydianau traddodiadol Cymru yw diwydiant gwlân Cymru. Mewn gwirionedd, o'r oesoedd canol hyd at ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yn un o'r pwysicaf. Ar ei anterth, gwisgwyd gwlanen Gymreig gan lowyr a gweithwyr dur yn ogystal â byddinoedd Dug Wellington.
Dichon fod cynhyrchu gwlân o gnu defaid yn weithgaredd economaidd yn y wlad ers canrifoedd lawer. Cafodd y "diwydiant bwthyn" hwnnw hwb mawr yn y 12g gyda sefydlu abatai'r Sistersiaid yng Nghymru. Un o brif weithgareddau economaidd yr abatai hyn, fu'n perchen tiroedd eang, oedd magu defaid a chynhyrchu gwlân.
Trwy gydol y cyfnod canoloesol, roedd y droell nyddu’n elfen yr un mor flaenllaw yn y cartref Cymreig ag a oedd yr aelwyd[1]. Fodd bynnag, cynhyrchwyd y gwlân ar gyfer gofynion lleol yn unig, a chawsant y gwlân hwn o’u diadelloedd eu hunain. Yn ystod teyrnasiad Harri II ac Edward III, cafodd mewnfudwyr o Fflandrys a ddaeth i Gymru ddylanwad mawr ar y cynhyrchiad gwlân, yn enwedig mewn ardaloedd fel Sir Benfro, Gŵyr a De Gwent. Dechreuwyd allforio unrhyw wlân crai a oedd yn weddill i Fflandrys.
yn y 18g a'r 19eg, tyfodd y diwydiant yng nghefn gwlad Cymru. Roedd gweu hosanau gwlân yn gymorth i nifer o deuluoedd amethyddol gael tipyn o bres dros y gaeaf, gyda'r merched a gwragedd yn gwneud y gwaith fel arfer. Un o'r canolfannau mawr oedd Meirionnydd, yn enwedig yn ardaloedd Y Bala a Dolgellau. Roedd canolfannau eraill erbyn y 1850au yn cynnwys ardal Y Drenewydd a Llanidloes ym Maldwyn, cefn gwlad Llangollen, tref Aberhonddu, yr ardal o gwmpas Castellnewydd Emlyn a Llanbedr Pont Steffan yn ne Ceredigion ac ardal Caerfyrddin. Yn wir, ystyriwyd y Drenewydd fel ‘Leeds Cymru’ ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a galwyd dyffryn Teifi yn 'Huddersfield Cymru'.[2]
Y Drenewydd - Leeds Cymru
[golygu | golygu cod]Rhwng 1771 a 1831 tyfodd poblogaeth y Drenewydd o oddeutu 800 i 4550. Nid oes amheuaeth mai’r twf enfawr mewn gweithgynhyrchu gwlanen a achosodd hyn. Ym 1790, dim ond un gwneuthurwr gwlanen oedd i’w gael yno. Ond, erbyn 1800 roedd melinau cribo, nyddu a phannu wedi dechrau ymddangos, yn ogystal â siopau gwehyddu. Sefydlwyd llawer o ffatrïoedd edafedd newydd yn negawd cyntaf y ganrif newydd. Ar y pryd, manteisiodd Y Parch G.A. Evors ar y galw cynyddol drwy adeiladu neu adnewyddu ffatrïoedd a'u gwerthu i wneuthurwyr amrywiol yn y fasnach am renti uchel.[3]
Cafodd llwybrau trafnidiaeth eu gwella a chafodd ffatrïoedd newydd eu hadeiladu. Estynnwyd camlas Swydd Amwythig i'r Drenewydd ym 1821. Adeiladwyd y ffordd rhwng y Drenewydd a Llanfair ym Muallt ym 1825 gan alluogi i'r nwyddau gael eu hanfon mewn wagen a throl i Dde Cymru. Gallwn ni weld maint yr ehangu drwy edrych ar y ffigurau mewn cyfeirlyfrau masnach, er nad oes modd gwirio eu cywirdeb. Ym 1823 cofnodwyd pum deg pedwar o wneuthurwyr gwlanen, ac erbyn 1830 roedd wyth deg un ohonyn nhw.
Er gwaethaf y twf yn y diwydiant daeth llawer o broblemau cysylltiedig i'r amlwg. Am fod y galw am y gwlân a phris y gwlân yn amrywio, cafwyd cyfnodau o ddirwasgiad economaidd yn y fasnach. Roedd diweithdra a chyflogau isel yn broblem reolaidd, a gorfodwyd llawer o wehyddwyr i symud i Ogledd Lloegr, a hyd yn oed i fudo draw i America. Ar ben hynny, roedd y gystadleuaeth gref gan wlanen Rochdale yn ei gwneud hi'n anodd iawn i’r diwydiant yn Sir Drefaldwyn barhau.
O ganlyniad i’r amodau gwael a'r anniddigrwydd ymhlith y dosbarthiadau gweithiol yn ystod y 1830au, gwelwyd ymchwydd ym mhoblogrwydd mudiad y Siartwyr. Ym 1939 cafwyd protestiadau treisgar parhaus gyda gweithwyr tecstilau'r Drenewydd yn arwain o'r tu blaen. Sefydlwyd melinau gwlân a ffatrïoedd mewn ardaloedd eraill o Gymru, e.e. ym mhentref Trefriw, Cwm Conwy. Mae rhai o'r lleoliadau hyn yn atyniadau i dwristiaid heddiw.
Y diwydiant gwlân heddiw
[golygu | golygu cod]Heddiw mae'r diwydiant gryn dipyn yn llai o ran ei faint gyda llai na dwsin o felinau’n dal i weithredu yng Nghymru[4]. Disodlwyd y cynhyrchiad gwlanen wreiddiol i raddau helaeth gan flancedi tapestri gwehyddu dwbl a gorchuddion gwely. Mae'r blancedi’n cael eu gwehyddu â gwaith patrwm lliwgar a chywrain, gyda chynllun lliw gwahanol ar bob ochr. Mae galw arbennig am batrwm tapestri Caernarfon neu'r patrwm 'porthcwlis' fel y mae pobl yn ei alw. Mae dylunwyr mewnol yn hoff o’r deunydd hwn oherwydd yr amrywiaeth o naws a gwead sydd ganddo[1]. Gall y blancedi hyn werthu am gannoedd o bunnoedd ac maen nhw’n adnabyddus am eu hansawdd, eu cynllun deniadol, eu cynhesrwydd a’u hirhoedledd.
Gellir dysgu am hanes y diwydiant gwlân yn Amgueddfa Wlân Cymru. Fe'i lleolir ym mhentref Dre-fach Felindre, oedd ar un adeg yn ganolfan bwysig i'r diwydiant gwlân yn ne-orllewin Cymru, ger Castellnewydd Emlyn, tua 16 milltir i'r gorllewin o Gaerfyrddin.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Ben Bowen Thomas, Braslun o hanes economaidd Cymru (Caerdydd, 1941)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Jones, Mary Eirwen (1978). Welsh Crafts. Batsford Ltd. tt. 28.
- ↑ "Llandysul National Wool Museum". Visit Mid Wales.
- ↑ Jenkins, J. Geraint (2005). The Flannel Makers: A Brief History of the Welsh Woollen Industry. Gwasg Carreg Gwalch. t. 28. ISBN 0-86381-963-X.
- ↑ "O Felin Tregwynt i Felin Teifi: Y Canllaw Gorau Posib ar Ymweld â'r Melinau Gwlân sy'n Gweithio Heddiw yng Nghymru". Welsh gifts with heart.