Gwlana

Oddi ar Wicipedia

Yr arfer o gasglu neu gardota gwlân o'r caeau a'r ffriddoedd agored yw gwlana.

Roedd yn arferiad yn yr oes a fu yng Nghymru i bobl, yn enwedig merched a gwragedd tlodion, fynd allan i gardota gwlân amser cneifio defaid, fel rheol gyda chaniatâd y ffermwr. Wrth hel eu blewyn yn y caeau neu ar y mynydd agored mae defaid yn tueddu i adael darnau o wlân o'u cnu ar eu holau, yn hongian ar eithin a brysgwydd er enghraifft. Arferid hel y darnau gwlân hyn, a'u golchi a'u cardio er mwyn cael cyflenwad rhad ac am ddim o wlân at ddilledu'r teulu dros y gaeaf.

Roedd yn hen arfer yng Nghymru. Ceir y cyfeiriad cyntaf at wlana mewn cerdd gan Iolo Goch ('Dychan i Hersdin Hogl', diwedd y 14g[1]). Ceir hen ddihareb yn Dictionarum Duplex John Davies:

Nid hawdd gwlana ar yr afr.[2]

Cofnodir enghreifftiau o wlana yn ardal Tregaron a Llanddewi Brefi, canolbarth Ceredigion, yn y 19g. Yn gynnar yn yr haf, âi'r dynion a'r merched gyda'i gilydd i'r tir comin ac ar hyd y caeau i wlana. Enwir carreg fawr yn yr ardal yn 'Garreg bara' chaws' am eu bod yn arfer eistedd yno i fwyta eu tamaid. Gadawent rhai o'r sachau a ddefnyddid i gadw'r gwlân ynddynt dan y garreg honno ganol dydd a'u casgu eto ar y ffordd adre.[3]

Mewn sawl ardal wledig byddai'r merched o bob oed yn gwau hosanau gwlân hirnosau'r gaeaf. Pe bai rhai ar ôl byddent yn eu gwerthu yn y ffeiriau pan ddeuai'r gwanwyn i gael ychydig ceiniogau ychwanegol.

Ar lafar ym Morgannwg mae gwlana yn air am bensynnu neu synfyfyrio ("day-dreaming").

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. D. R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988), tud. 161.
  2. Geiriadur Prifysgol Cymru. tud. 1681, d.g. gwlana.
  3. Evan Jones, Cerdded Hen Ffeiriau (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1972), tud. 34.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]