Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 6: Llinell 6:
Cystadlaethau ym maes [[canu]], [[llefaru]], [[dawnsio]] a chanu [[offeryn cerdd|offerynnau]] yw canolbwynt yr Eisteddfod, ond mae llawer o bobl ifanc nad ydynt yn cystadlu yn mynd i'r Eisteddfod bob blwyddyn hefyd. Rhaid bod yn aelod o'r Urdd i gystadlu. Rhennir Cymru i nifer o ardaloedd. Goreuon [[eisteddfod]]au yr ardaloedd hynny sef eisteddfodau cylch sy'n mynd ymlaen i gystadlu yn yr eisteddfodau sir, ac enillwyr y rheini yn eu tro fydd yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
Cystadlaethau ym maes [[canu]], [[llefaru]], [[dawnsio]] a chanu [[offeryn cerdd|offerynnau]] yw canolbwynt yr Eisteddfod, ond mae llawer o bobl ifanc nad ydynt yn cystadlu yn mynd i'r Eisteddfod bob blwyddyn hefyd. Rhaid bod yn aelod o'r Urdd i gystadlu. Rhennir Cymru i nifer o ardaloedd. Goreuon [[eisteddfod]]au yr ardaloedd hynny sef eisteddfodau cylch sy'n mynd ymlaen i gystadlu yn yr eisteddfodau sir, ac enillwyr y rheini yn eu tro fydd yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.


Yn ystod yr Ŵyl, cyflwynir nifer o ddefodau ar brif lwyfan yr Eisteddfod i anrhydeddu enillwyr gan gynnwys enillwyr [[Y Gadair]], [[Y Goron]], [[Tlws y Cerddor]], [[Medal y Dysgwyr]], [[Y Fedal Gelf]] a [[Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd]]. Hyd 2007, fe gyflwynwyd [[Y Fedal Lenyddiaeth]] yn ogystal, ond dilëwyd y gystadleuaeth y flwyddyn honno.
Yn ystod yr Ŵyl, cyflwynir nifer o ddefodau ar brif lwyfan yr Eisteddfod i anrhydeddu enillwyr gan gynnwys enillwyr [[Y Gadair]], [[Coron Eisteddfod yr Urdd|Y Goron]], [[Tlws y Cerddor]], [[Medal y Dysgwyr]], [[Y Fedal Gelf]] a [[Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd]]. Hyd 2007, fe gyflwynwyd [[Y Fedal Lenyddiaeth]] yn ogystal, ond dilëwyd y gystadleuaeth y flwyddyn honno.


==Rhestr Eisteddfodau diweddar==
==Rhestr Eisteddfodau diweddar==

Fersiwn yn ôl 10:30, 30 Awst 2019

Plant yn yr eisteddfod
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, y Bala 1954
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerfyrddin, 1967.

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yw gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop.[1] Fe'i trefnir gan Urdd Gobaith Cymru a hynny yn ystod yr wythnos sydd yn dechrau gyda Gŵyl y Banc ddiwedd Mai neu ddechrau Mehefin, a hynny yn y Gogledd ac yn y De am yn ail. Mae'n ŵyl uniaith Gymraeg.

Cystadlaethau ym maes canu, llefaru, dawnsio a chanu offerynnau yw canolbwynt yr Eisteddfod, ond mae llawer o bobl ifanc nad ydynt yn cystadlu yn mynd i'r Eisteddfod bob blwyddyn hefyd. Rhaid bod yn aelod o'r Urdd i gystadlu. Rhennir Cymru i nifer o ardaloedd. Goreuon eisteddfodau yr ardaloedd hynny sef eisteddfodau cylch sy'n mynd ymlaen i gystadlu yn yr eisteddfodau sir, ac enillwyr y rheini yn eu tro fydd yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Yn ystod yr Ŵyl, cyflwynir nifer o ddefodau ar brif lwyfan yr Eisteddfod i anrhydeddu enillwyr gan gynnwys enillwyr Y Gadair, Y Goron, Tlws y Cerddor, Medal y Dysgwyr, Y Fedal Gelf a Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd. Hyd 2007, fe gyflwynwyd Y Fedal Lenyddiaeth yn ogystal, ond dilëwyd y gystadleuaeth y flwyddyn honno.

Rhestr Eisteddfodau diweddar

Lleoliadau Eisteddfodau'r Gorffennol

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol cyntaf yr Urdd ym Mhafiliwn Corwen yn 1929.

Cynhelir yr Eisteddfod yn y Gogledd a'r De bob yn ail, ond ym Mae Caerdydd bob pedair mlynedd ers agor Canolfan y Mileniwm.

1930au

Blwyddyn Tref
1930 Caernarfon
1931 Abertawe
1932 Machynlleth
1933 Caerffili
1934 Hen Golwyn
1935 Caerfyrddin
1936 Blaenau Ffestiniog
1937 Gwauncaegurwen
1938 Aberystwyth
1939 Llanelli

1940au

Blwyddyn Tref
1940 Y Rhyl
1941-45 Bwlch yn ystod Yr Ail Ryfel Byd
1946 Corwen
1947 Treorci
1948 Llangefni
1949 Pontarddulais

1950au

Blwyddyn Tref
1950 Wrecsam
1951 Abergwaun
1952 Machynlleth
1953 Maesteg
1954 Y Bala
1955 Abertridwr
1956 Caernarfon
1957 Rhydaman
1958 Yr Wyddgrug
1959 Llanbedr Pont Steffan

1960au

Blwyddyn Tref
1960 Dolgellau
1961 Aberdâr
1962 Rhuthun
1963 Brynaman
1964 Porthmadog
1965 Caerdydd
1966 Caergybi
1967 Caerfyrddin
1968 Llanrwst
1969 Aberystwyth

1970au

Blwyddyn Tref
1970 Llanidloes
1971 Abertawe
1972 Y Bala
1973 Pontypridd
1974 Y Rhyl
1975 Llanelli
1976 Porthaethwy
1977 Y Barri
1978 Llanelwedd
1979 Maesteg

1980au

Blwyddyn Tref
1980 Abergele
1981 Castellnewydd Emlyn
1982 Pwllheli
1983 Aberafan
1984 Yr Wyddgrug
1985 Caerdydd
1986 Dyffryn Ogwen
1987 Merthyr Tudful
1988 Maldwyn
1989 CwmGwendraeth

1990au

Blwyddyn Tref
1990 Dyffryn Nantlle
1991 Taf Elai (Tonyrefail)
1992 Rhuthun
1993 Gorseinon
1994 Meirionnydd (Dolgellau)
1995 Bro'r Preseli (Boncath)[2]
1996 Bro Maelor (Wrecsam)
1997 Islwyn
1998 Llŷn ac Eifionydd (Penyberth ger Pwllheli)
1999 Llanbedr Pont Steffan

2000

Blwyddyn Tref
2000 Conwy
2001 Gohiriwyd o achos clefyd traed a'r genau.
2002 Caerdydd
2003 Parc Margam
2004 Llangefni
2005 Caerdydd
2006 Rhuthun
2007 Caerfyrddin
2008 Llandudno
2009 Caerdydd

2010au

Blwyddyn Tref
2010 Llannerch Aeron[3]
2011 Abertawe[4]
2012 Eryri (Glynllifon ger Caernarfon)[5]
2013 Sir Benfro (Boncath)[2]
2014 Meirionnydd (Y Bala)
2015 Caerffili
2016 Y Fflint
2017 Pen-y-Bont ar Ogwr
2018 Brycheiniog a Maesyfed (Llanelwedd)
2019 Caerdydd

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Llywodraeth Cymru
  2. 2.0 2.1 "Best of luck to everyone at the Urdd". Rags to Riches for schools. 27-05-2013. Cyrchwyd 31-05-2018. Check date values in: |access-date=, |date= (help)
  3. Llanerchaeron estate to host Urdd Eisteddfod BBC, 29 April 2010
  4. Eisteddfod 2011 Swansea at Urdd Gobaith Cymru
  5. Eisteddfod Eryri 2012 at Urdd Gobaith Cymru

Gweler hefyd

Dolenni allanol