Baner Casachstan

Oddi ar Wicipedia
Baner Casachstan
Enghraifft o'r canlynolbaner cenedlaethol Edit this on Wikidata
Lliw/iauglas yr awyr, aur Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu4 Mehefin 1992 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner Casachstan

Maes glas gyda phatrwm addurnol traddodiadol melyn yn yr hoist a symbol melyn yn ei ganol o Eryr rheibus y diffeithwch o dan haul â 32 o belydrau yw baner Casachstan. Mae'r maes glas yn cynrychioli'r awyr sydd uwchben y Casaciaid yn ogystal â lles da, llonyddwch, heddwch, ac undod, ac mae'r berkut a'r haul yn cynrychioli cariad, rhyddid, a dyheadau'r Casaciaid. Mabwysiadwyd ar 4 Mehefin, 1992, yn sgîl annibyniaeth y wlad oddi wrth yr Undeb Sofietaidd (a gafwyd ar 25 Rhagfyr, 1991).

ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Eginyn erthygl sydd uchod am faner neu fanereg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Gasachstan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.