Baner India

Oddi ar Wicipedia
Baner India

Baner drilliw lorweddol gyda stribed uwch o liw saffrwm, stribed canol gwyn gydag olwyn las yn ei ganol, a stribed is gwyrdd yw baner India. Symbol Bwdhaidd o'r enw chakra yw'r olwyn, ac mae'n dangos y chakra o golofn hynafol Asoka yn Sarnath. Mae lliw saffrwm yn symboleiddio dewrder ac aberth, mae'r gwyn yn cynrychioli heddwch a gwir, ac mae'r gwyrdd yn cynrychioli ffydd a sifalri. Mabwysiadwyd ar 22 Gorffennaf 1947.

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]

  • Znamierowski, Alfred. The World Encyclopedia of Flags (Llundain, Southwater, 2010).