Baner Føroyar

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Ynysoedd Føroyar: y Merkið
Fersiwn 'gwennol' o'r faner, answyddogol on poblogaidd yn yr Ynysoedd
Y faner wreiddiol yn cael eu harddangos yn eglwys Fámjin

Y Merkið yw'r enw ar faner genedlaethol Ynysoedd Føroyar (Ynysoedd Ffaro), sef Croes Lychlynnaidd goch yn fewnol, glas yn allanol ar faes gwyn. Mae'r ynysoedd yn genedl hunan-lywodraethol o fewn Teyrnas Denmarc.

Ystyr Merkið yn syml ac yn gyffredinnol yw 'baner' neu 'marc' ond fe'i defnyddir gan amlaf i gyfeirio'n uniongyrchol at faner yr ynysoedd hyn.

Dyluniad a cymboliaeth[golygu]

Fel gwlad Sgandinafaidd a'i phoblogaeth yn ddisgynyddion i'r Llychlynwyr mae'r Merkið yn dilyn dyluniad adnabyddus y 'Groes Nordaidd' lle gorwedda'r groes i'r chwith o'r canol. Yn fwy penodol mae'n dilyn patrwm baneri Norwy a Gwlad yr Iâ lle ceir dwy groes ar ben ei gilydd yn hytrach nag un fel y gwelir ym maneri Sweden, Denmarc a'r Ffindir.

Gorwedda croes goch gydag ymyl las ar gefndir wen.

Mae'r coch a'r glas yn liwiau a welir ym maneri eraill gwledydd Llychllyn ac yn dynodi perthynas agos yr ynysoedd gyda'r byd hwnnw. Mae'r gwyn yn symbol o ewyn y môr ac awyr gwyn pur yr Ynysoedd.

Hanes[golygu]

Dyfeiswyd y faner yn 1919 gan Jens Oliver Lisberg ac eraill tra oedd yn fyfyriwr yn Copenhagen, prifddinas Denmarc. Chwifiwyd y faner am y tro cyntaf ar Ynysoedd y Ffaro mewn priodas ar 22 Mehefin 1919 ym mhentref Fámjin ar Suðuroy, ynys fwyaf deheuol yr ynysfor.

Ar Ebrill 1940 a chyda Denmarc wedi ei meddiannu gan y Natsïaid ac heb reolaeth dros yr Ynysoedd fe lansiodd Llywodraeth Prydain dan gyfarwyddid Winston Churchill 'Operation Valentine' er mwyn cipio Ynysoedd Føroyar a sicrhau na byddent yn cael eu meddianu gan yr Almaenwyr. Roedd gan yr ynysoedd hyd at hynny statws amt (sir) yn unig o fewn gwladwriaeth Denmarc. Ar 23 Ebrill 1940 yn dilyn trafodaethau gyda'r awdurdodau Danaidd a chyngor Løgting yr Ynysoedd, penderfynodd Llywodraeth Prydain gydnabod y faner ar longau a chychod Ynysoedd Føroyar. Yn dilyn y statws 'rhyngwladol' hwn fe gydnabu Denmarc y faner fel baner genedlaethol Ynysoedd Føroyar yn Neddf Hunanlywodraeth 23 Mawrth 1948.

Fe ddethlir 25 Ebrill yn flynyddol hyd heddiw fel gŵyl genedlaethol Flaggdagur (diwrnod y faner).

Mae'r faner wreiddiol a chwifiwyd yn 1919 i'w gweld yn eglwys Fámjin yn Suðuroy.

Baneri eraill Ynysoedd Føroyar[golygu]

Nid oedd gan Ynysoedd Føroyar unrhyw statws genedlaethol cyn Deddf Hunanlywodraeth 1948. Cyn hynny roedd ond yn sir o fewn teyrnas Denmarc.

Defnyddiwyd baner Denmarc neu faner Undeb Kalmar ganddi (os o gwbl).

Yn ystod y 19 ganrif ceir enghreifftiau o faneri o ddafad neu faharen wen 'passant' ar gefndir las o fewn ffrâm coch. O gofio mai ystyr 'Føroyar' yw 'dafad' does dim syndod i symbol mor amlwg gael ei ddefnyddio.

Defnyddiwyd maharen gorniog ar gefndir las fel arfbais Senedd Ynysoedd Føroyar, y Løgting. Bellach, ers 1 Ebrill 2004 cyhoeddodd swyddfa Prif Weinidog yr Ynysoedd y byddai ei Weinidogion a'i swyddfeydd yn defnyddio arfais Ffaroe ar wedd newydd, wedi ei seilio ar gynllun ar seddi yn Kirkjubøur, cartref esgobaeth yr Ynysoedd. Addaswyd rhywfaint ar y cynlluniau blaenorol gan dynnu ar ysbrydoliaeth o liwiau'r faner. Ychwaengwyd tafod goch a hefyd lliw melyn eurog i'r carnau a'r cyrn. Caiff yr arfbais ei defnyddio gan aelodau'r Cabinet a chynrychiolwyr swyddogol yr Ynysoedd.

Y Faner mewn diwylliant poblogaidd[golygu]

Gwelir y Merkið mewn fideo i'r gân "Declare Independence Declare Independence" gan y gantores, Björk. Yn y gân mae'r gantores, sy'n dod o Wlad yr Iâ (gwlad oedd yn drefedigaeth i Ddenmarc ac sydd ag iaith debyg iawn i'r Ffoareg) yn ceisio ysbrydoli cenhedloedd i gyhoeddi eu hanibyniaeth. Gwelir baner Ynysoedd Føroyar a'r Ynys Las (sydd hefyd yn rhan o deyrnas Denmarc) yn y fideo.

Oriel[golygu]

Ffynonellau[golygu]

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)