Baner yr Iseldiroedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner yr Iseldiroedd

Baner drilliw â stribedi gorweddol coch, gwyn a glas yw baner yr Iseldiroedd. Hon yw'r faner drilliw hynaf a ddefnyddir hyd heddiw. Defnyddiwyd gyntaf yn ystod gwrthryfel taleithiau'r Iseldiroedd yn erbyn Philip II o Sbaen. Dewiswyd y lliwiau (oren, gwyn a glas ar y pryd) oddiwrth lliwiau arfbais arweinydd y gwrthryfel, Wiliam I Tywysog Orange.

Baner Tywysog Orange
Flag of the Netherlands.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Iseldiroedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato