Baner Malta

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Malta FIAV 111011.svg

Baner ddeuliw fertigol gyda stribed chwith gwyn a stribed dde coch yw baner Malta. Daw'r lliwiau o fathodyn Marchogion Malta. Yn y canton mae Croes Siôr wedi'i hamlinellu'n goch; rhoddwyd yr anrhydedd i bobl Malta gan George VI, brenin y Deyrnas Unedig am ddewrder yn yr Ail Ryfel Byd. Mabwysiadwyd ar 21 Medi, 1964.

Malta, Cymru a Bhutan yw'r unig wledydd cyfredol sydd â draig ar eu baneri, er y bu ddraig ar faner Tsieina yn ystod Brenhinllin Qing. Mae'r ddraig yn ymddangos yn Nghroes Siôr sydd yn dangos San Siôr ar gefn ceffyl yn lladd draig.

[golygu] Ffynonellau

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Flag of Malta.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Falta. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill