Baner Moldofa

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Moldofa FIAV 111100.svg

Baner drilliw gyda stribed chwith glas, stribed dde coch, a stribed canol melyn gydag arfbais Moldofa yn ei ganol yw baner Moldofa. Mae dyluniad y faner drilliw yn debyg iawn i faner Rwmania, sy'n adlewyrchu'r cysylltiadau diwylliannol a hanesyddol cryf sydd rhwng y ddwy wlad. Yn swyddogol ni ddylai arfbais ymddangos ar gefn baner Moldofa[1] (mae'n debyg i faneri Paraguay a Saudi Arabia yn yr achos nad yw cefn y faner yn unfath â'r blaen), ond weithiau defnyddir fersiynau o faner Moldofa gydag arfbais wrthdroëdig ar y cefn. Mabwysiadwyd ar 12 Mai, 1990.

ffynonellau[golygu]

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
  1. (Rwmaneg) DRAPELUL DE STAT AL REPUBLICII MOLDOVA. Pagina Oficială a Preşedintelui Republicii Moldova. Adalwyd ar 10 Awst, 2008.
Flag of Moldova.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Foldofa. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato