Baner Estonia
Oddi ar Wicipedia
Baner drilliw lorweddol o stribedi glas (i gynrychioli ffyddlondeb ac awyr, môr a llynnoedd Estonia), du (sy'n symbolaidd o ormes y gorffennol, pridd y wlad, a siaced ddu draddodiadol y gwerinwyr) a gwyn (am rinwedd, yr eira, rhisgl y fedwen, a brwydr Estonia am ryddid) yw baner Estonia.
Mabwysiadwyd y faner drilliw yn gyntaf gan fyfyrwyr yn wrthryfeloedd 1881 yn erbyn lluoedd Rwsiaidd oedd yn meddiannu Estonia. Ail-fabwysiadwyd fel y faner genedlaethol ar 8 Mai, 1990 yn fuan cyn ei hannibyniaeth oddi ar yr Undeb Sofietaidd yn 1991.
[golygu] Ffynonellau
- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)