Baner yr Almaen

Oddi ar Wicipedia
Baner yr Almaen

Baner drilliw lorweddol o stribedi du, coch ac aur yw baner yr Almaen. Yn 1848 ceisiwyd i uno taleithiau Conffederasiwn yr Almaen; ni sefydlwyd undeb, ond dyluniwyd baner o liwiau gwisg filwrol y fyddin Almaenig yn Rhyfeloedd Napoleon hwyr yn y y ddeunawfed ganrif. Unwyd y mwyafrif o'r taleithiau i'r Ymerodraeth Almaenig yn 1871, ond yn lle defnyddio'r faner hon mabwysiadwyd baner drilliw lorweddol o stribedi du, gwyn a choch o dan reolaeth Otto van Bismarck. Roedd hon yn gyfuniad o goch y Gynghrair Hanseatig a du a gwyn Prwsia, lle yr oedd Bismarck yn ganghellor.

Yn dilyn trechiad yr Almaen yn y Rhyfel Byd Cyntaf, sefydlwyd Gweriniaeth Weimar yn 1919 a mabwysiadwyd y faner ddu, coch ac aur yn swyddogol. Pan ddaeth y Natsïaid i rym yn 1933 mabwysiadwyd faner newydd, y Hakenkreuz, oedd yn adfer y lliwiau ymerodraethol: swastica du o fewn cylch gwyn ar faes coch.

Ar ôl cwymp y Drydedd Reich ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, rhannwyd yr Almaen yn bedwar sector, ac unodd y tri sector gorllewinol i ffurfio Gorllewin yr Almaen ddemocrataidd, gyda Dwyrain yr Almaen yn wlad gomiwnyddol. Defnyddiodd y ddwy wlad y faner drilliw ddu, coch ac aur, ond gosodwyd arfbais Dwyrain yr Almaen yng nghanol ei baner hithau. Ers aduniad y wlad yn 1990, yn sgil cwymp Mur Berlin y flwyddyn gynt, mabwysiadwyd y faner drilliw blaen.

Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)