Rhyfeloedd Napoleon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Brwydr Austerlitz

Rhoddir yr enw Rhyfeloedd Napoleon ar gyfres o ryfeloedd yn Ewrop rhwng 1804 a 1815. Ymladdwyd y rhyfeloedd rhwng Ffrainc dan Napoleon a nifer o wledydd, yn cynnwys Prydain, Rwsia, Awstria, Prwsia, Sbaen ac eraill a ffurfiodd sawl cynghrair gwahanol yn erbyn Napoleon.

Ffurfiwyd y Cynghrair Cyntaf (1792-1797) rhwng Awstria, Prwsia, Prydain, Sbaen a'r Iseldiroedd yn y cyfnod ar ôl y Chwyldro Ffrengig a chyn i Napoleon ddod i rym. Roedd y cyngheiriaid yn gobeithio dinistrio'r drefn weriniaethol yn Ffrainc, ond ni chawsant lwyddiant. Daeth Napoleon i amlygrwydd yn ystod Gwarchae Toulon yn 1793, a daeth yn rheolwr Ffrainc yn 1796.

Ffurfiwyd yr Ail Gynghrair (1798-1801) gan Rwsia, Prydain, Awstria, yr Ymerodraeth Ottoman ac eraill. Ni lwyddodd ymosodiadau'r cynghrair ar Fffrainc ei hun. Ymosododd Napoleon ar yr Aifft yn 1798, a gyrrwyd byddin Ffrengig fechan i Iwerddon yr un flwyddyn, ond methodd y ddwy ymgyrch. Gwnaed cytundeb Heddwch Amiens rhwng Ffrainc a Phrydain yn 1802, ond ail-ddechreuodd yr ymladd ar 18 Mai 1803. Coronwyd Napoleon yn Ymerawdwr Ffrainc ar 2 Rhagfyr 1804.

Crewyd y Trydydd Cynghrair (1805) gan Awstria, Prydain, Rwsia a Sweden. Dechreuodd Napoleon gynllunio ymosodiad ar Loegr, a chasglwyd 150,000 o filwyr yn Boulogne yn barod ar hynny, ond ni allwyd gweithredu ar hyn. Gorchfygwyd y llynges Ffrengig gan y llynges Brydeinig dan Horatio Nelson ym Mrwydr Trafalgar ar 21 Hydref. Ar 2 Rhagfyr, enilodd Napoleon fuddugoliaeth dros Rwsia ac Awstria ym Mrwydr Austerlitz.

Ffurfiwyd y Pedwerydd Cynghrair (1806-1807) gan Prwsia, Sachsen a Rwsia. Gorchfygwyd Prwsia gan Napoleon yn Mrwydr Jena yn Hydref 1806, a meddiannwyd Berlin gan y Ffrancwyr. Ymladdwyd Brwydr Eulau yn Chwefror 1807 rwng Ffrainc a Rwsia, heb i'r un o'r ddwy ochr gael buddugoliaeth bendant.

Roedd y Pumed Cynghrair (1809) rhwng Prydain ac Awstria. Gorchfygwyd Awstria ym Mrwydr Wagram ym mis Gorffennaf, a gorfodwyd hi i gytuno i heddwch a Napoleon. Cythaeddodd ymerodraeth Napoleon ei maint mwyaf yn 1810.

Ffurfiwyd y Chweched Cynghrair rhwng Rwsia, Prydain, Prwsia, Sweden, Awstria a nifer o wladwriaethau bychain yr Almaen, gyda'r Unol Daleithiau yn awr yn cefnogi Ffrainc. Ymosododd Napoleon ar Rwsia gyda'r Grande Armée, yn cynnwys tua 600,000 o filwyr, dim ond 270,000 ohonynt yn Ffrancwyr. Ar 7 Medi ymladdwyd Brwydr Borodino rhwng Ffrainc a Rwsia, gyda colledion trwm ar y ddwy ochr. Meddiannwyd Moscow gan y Ffrancwyr, ond rhoddwyd y ddinas ar dân. Bu raid i Napoleon encilio, a rhwng y tywydd ac ymosodiadau'r Rwsiaid, collodd bron y cyfan o'i fyddin; dim ond tua 30,000 o filwyr a groesodd afon Berezina i adael Rwsia.

Brwydr Waterloo

Enillodd Arthur Wellesley, yn ddiweddarach Dug Wellington, fuddugoliaethau dros y Ffrancwyr yn Sbaen. Ym Mrwydr Leipzig ar 16-19 Hydref 1813, gorchfygwyd Napoleon gan fyddin fawr o Rwsiaid, Prwsiaid ac eraill. Gorfodwyd ef i ildio ar 6 Ebrill 1814, wedi i'r cyngheiriad feddiannnu Paris. Gyrrwyd ef i Ynys Elba.

Crewyd y Seithfed Cynghrair (1815) wedi i Napoleon ddianc o Elba a cheisio adfeddiannu ei orsedd. Gorchfygwyd ef ym Mrwydr Waterloo, a gyrrwyd ef i ynys Saint Helena.