Baner Gwlad Pwyl
Oddi ar Wicipedia
Baner ddeuliw lorweddol gyda stribed uwch gwyn a stribed is coch yw baner Gwlad Pwyl. Defnyddiwyd y lliwiau gwyn a choch ers y drydedd ganrif ar ddeg, ond ni ddaethant yn y lliwiau cenedlaethol swyddogol tan 1831; mabwysiadwyd y faner gyfredol ar 1 Awst, 1919. Yn ystod y cyfnod o reolaeth Gomiwnyddol (1945–1989), dywedir bod gwyn yn cynrychioli heddwch a choch yn cynrychioli sosialaeth.
Ffynonellau [golygu]
- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)