Baner Awstria

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Awstria FIAV 100100.svg

Baner drilliw lorweddol o stribedi uwch ac is coch a stribed canol gwyn yw baner Awstria. Yn ôl chwedl daw'r dyluniad o grysbais waedlyd Dug Leopold V yn dilyn brwydr yn y Croesgadau. Roedd y stribed gwyn yn cynrychioli'r rhan lân o'i grysbais a orchuddiwyd gan wregys ei gleddyf.

Mae'r cofnod cyntaf o'r faner yn dyddio yn ôl i 1191, sy'n nodi baner Awstria fel un o rai hynaf y byd. Mabwysiadwyd yn swyddogol yn dilyn cwymp y Habsburgiaid a ffurfiad gweriniaeth yn 1918. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan oedd Awstria'n rhan o'r Drydedd Reich (gweler Anschluss), gwaharddwyd y faner a'r arfbais genedlaethol. Ail-fabwysiadwyd ar 1 Mai, 1945.

[golygu] Ffynonellau

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Flag of Austria.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Awstria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill