Baner Liechtenstein

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Liechtenstein FIAV 110000.svg

Baner ddeuliw lorweddol gyda stribed uwch glas brenhinol â choron felen yn y canton a stribed is coch yw baner Liechtenstein. Mae'r lliwiau glas a choch wedi cynrychioli'r wlad ers y ddeunawfed ganrif, a defnyddiwyd fel stribedi'r faner ers 1921. Yng Ngemau Olympaidd Berlin ym 1936 bu ddryswch gan fod y faner yn debyg i faner Haiti, felly ychwanegwyd y goron ar 24 Mehefin, 1937 er mwyn gwahaniaethu rhwng y ddwy (ac hefyd i ddynodi Liechtenstein fel tywysogaeth).

Ffynonellau [golygu]

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Europe map.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ewrop. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato