Geirfa banereg

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Canton (herodraeth))

Dyma eirfa o derminoleg banereg sef, yr astudiaeth o faneri a'i hanes, a sut y dylunwyr hwy.


A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I J L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y

Diagram o'r termau Saesneg[golygu | golygu cod]

Rhanna'r faner

Diagram yn dangos prif nodweddion ac enwau rhannau o'r faner yn y Saesneg.







C[golygu | golygu cod]

Canton[golygu | golygu cod]

canton (lluosog: cantonau)

Baner Abchasia gyda'r llaw a'r sêr yn y canton

Un o chwarteri'r faner, gan amlaf y chwarter uchaf ar ochr y polyn.[1]

Gweler enghreifftiau o hyn ym maneri'r UDA, Llydaw, Wrwgwái, Taiwan, Liberia, ac Abchasia ymysg llawer. Gwelir hefyd ym maneri trefeigaethol Prydain lle lleolir Baner y Deyrnas Unedig yn y canton, megis Awstralia a Seland Newydd yn fwyaf adanbyddus.




Cloren[golygu | golygu cod]

cloren (e.b. lluosog: clorennau, cloreniaid)

Baner Sambia gyda motiff yn y gloren
Cynffon y faner, y pen pellach o'r hos, y rhan sydd ar waelod baner wrth ei hongian yn llorweddol o adeilad. Yn Saesneg 'fly'.

Daw o'r gair am gynffon pioden, gwaywffon neu "rhywbeth tebyg i gynffon".[2] Bydd y cloren yn aml yn llipa wrth cyhwfan yn naturiol, mae'n gamgymeriad felly lleoli motiff yno gan y bydd hwnnw'n anweladwy am gyfnodau mawr o'r amser pan fydd baner yn hedfan wrth bolyn yn yr awyr agored di-wynt. Serch hynny, mae wedi bod yn ffasiynol ers yr 1960au i faneri gynnwys motiff yn y gloren, efallai gan bod y baneri hynny wedi eu dylunio gan ddylunwyr wrth ddesg ac nid gan chwyldoradwyr neu filwyr oedd am gyfleu neges glir. Ymysg y camgymeriadau dylunio banereg yma mae Sambia, Nunavut a baner newydd Rwanda.


H[golygu | golygu cod]

Hòs[golygu | golygu cod]

hòs neu hosiad

Y rhan o'r faner sydd agosaf i'r polyn; y rhan a ddefnyddir i godi'r faner. Mae'r term hwn weithiau hefyd yn cyfeirio at ddimensiwn fertigol baner.

Ff[golygu | golygu cod]

Ffirbriliad[golygu | golygu cod]

ffibriliad neu rhimyn

Baner Ynysoedd Ffaroe
Ymyl neu rhimyn cul, yn aml mewn gwyn neu aur, ar faner i wahanu dau liw arall, yn enwedig os yw'r ddau liw arall yn debygol o dorri Rheol Tintur. Er enghraifft llinellau gwyn ac aur Baner De Affrica neu Ynysoedd y Ffaroe lle ceir ffibrilad las o gylch croes Sgandinafaidd goch. Ceir enghreifftiau eraill ar faner talaith hunanlywodraethol Swedeg ei hiaith ond sy'n rhan o'r Ffindir, sef, Ynysoedd Aland (ar ymyl y groes Lychlynaidd).





M[golygu | golygu cod]

Maes[golygu | golygu cod]

maes[3] (lluosog: meysydd)

Baner Libia (1977–2011)
Lliw cefndir y faner.[1]

Mae Baner Libia a elwyd yn faner Libia Arabaidd Jamahiriya yn enwog am fod yn faner ag iddi ddim ond maes werdd heb ddim lliw na motiff arall arni. Mabwysiadwyd y faner ar 19 Tachwedd 1977 ac roedd yn cynnwys maes gwyrdd. Hon oedd yr unig faner genedlaethol yn y byd gydag un lliw yn unig yn ystod y cyfnod hwnnw.[4] Fe'i dewiswyd gan arweinydd Libya Muammar Gaddafi i symboleiddio ei athroniaeth wleidyddol (ar ôl ei Lyfr Gwyrdd).ref>"Staff of Libyan consulate in Egypt lower flag". Reuters. 22 February 2011.</ref> Mae'r lliw gwyrdd yn draddodiadol yn symbol o Islam, gan adlewyrchu baneri gwyrdd hanesyddol y Califfad Fatimid. Yn Libia, roedd gwyrdd hefyd yn lliw a ddefnyddiwyd yn draddodiadol i gynrychioli rhanbarth Tripolitania.

P[golygu | golygu cod]

Polyn[golygu | golygu cod]

polyn (lluosog: polion) neu ffon (lluosog: ffyn)

Y polyn a ddefnyddir i chwifio'r faner.[1]

Palo[golygu | golygu cod]

palo

Baner Canada, gyda'r palo Canadaidd, y llain wen yn y canol
Mae Palo yn derm a ddefnyddir mewn herodraeth i nodi darn anrhydeddus sy'n cynnwys stribed fertigol traean o led y darian mewn herodraeth Eidalaidd [1] a 2 fodiwl (2/7 o'r lled) yn Ffrangeg, a gelwir palo sydd yr un lled â'r ddau stiped naill ochr, cmuseredd 1:2, y Palo Canadaidd wedi'r dylyniad ar faner Canada lle saif y ddeilled masarnen ar y llain wen.

Mae'r palo (Saesneg: Pale; benthycwyd y term Eidaleg i'r Gymraeg rhag drysu â geiriau Cymraeg arall fel pâl, pêl, neu ffâl) yn ddarn anrhydeddus (o'r drefn gyntaf) sy'n meddiannu rhan ganolog y darian yn fertigol ac wedi'i ffinio gan ddwy linell fertigol gyfochrog.


Rh[golygu | golygu cod]

Rhidens[golygu | golygu cod]

Baner Arlywydd Jimmy Carter gyda'r rhidens arian ar hyd ymyl y faner

rhidens enw g/b

Er nad yn rhan o wead mewnol baner, mae'r rhidens[5] yn atodiad boblogaidd, fel arfer mewn defnydd lliw aur, ar hyd ymyl ehedog y faner (hynny yw, bob ochr heblaw'r hós). Atodir i'r faner am i godi statws ac ar gyfer arfer seremonïol yn hytrach na hedfan yn gyffredin. Gelwir yn 'fringe' fel rheol yn y Saesneg.[6]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Ryan, Complete Flags of the World (2002), t. 9.
  2. "Cloren". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2023.
  3. Griffiths a Jones [field].
  4. "Libya Flag". Cyrchwyd 12 December 2009.
  5. "rhidens". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2023.
  6. "What is the significance of the gold fringe which we see on some United States flags?". American Legion. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2023.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006])
  • Ryan, Siobhán (gol.) Complete Flags of the World (Llundain, Dorling Kindersley, 2002)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: hòs, hosiad o'r Saesneg "hoist". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: palo o'r Eidaleg "palo". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: cloren o'r Saesneg "fly". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: ffibriliad, rhimyn o'r Saesneg "Fimbriation". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: rhidens o'r Saesneg "tassles". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.