Baner Haiti

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Haiti FIAV 100100.svg
Baner Haiti am ddefnydd swyddogol a gwladwriaethol FIAV 011011.svg
Baner Haiti, 1964–1986

Baner ddeuliw lorweddol o stribed glas ar ben stribed coch yw baner Haiti. Mabwysiadwyd ar 18 Mai, 1803, ac ail-fabwysiadwyd ar 25 Chwefror, 1986 ar ôl cael ei disodli yn ystod cyfnod unbennaeth deuluol François Duvalier a'i fab Jean-Claude. Yn ystod eu hamser mewn grym, o 1964 i 1986, defnyddiwyd baner fertigol o stribedi du a choch.

Dywedir crewyd y faner las a choch ar ôl i faner drilliw Ffrengig cael eu rhwygo gan y gwrthryfelwr Jean-Jacques Dessalines yn 1803. Yna cafodd y ddwy ran ar y pennau eu pwytho at ei gilydd yn llorweddol i greu baner newydd.

Ers 1843 mae arfbais Haiti wedi'i gosod ar banel gwyn yng nghanol y faner am ddefnydd swyddogol a gwladwriaethol. Gosodir yr arfbais yn yr un modd pan ddefnyddiwyd y faner arall yn ystod cyfnod y Teulu Duvalier.

ffynonellau [golygu]

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Caribe-geográfico.svg Eginyn erthygl sydd uchod am y Caribî. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato