Baner Gweriniaeth Tsieina
Baner o faes coch (sy'n cynrychioli'r Han, y prif grŵp ethnig yn Tsieina) gyda chanton glas a symbol o haul wen yn ei ganol yw baner Gweriniaeth Tsieina. Dywedir bod y faner yn cynrychioli "haul wen mewn awyr las uwchben tir coch". Mabwysiadwyd ar 28 Hydref, 1928 gan Weriniaeth Tsieina (oedd yn cynnwys tir mawr Tsieina ac ynys Taiwan), pan oedd Plaid Genedlaetholgar Tsieina (Kuomingtang) mewn grym; baner las gyda haul wen oedd baner y Kuomingtang, gyda deuddeg o belydrau haul i symboleiddio gwelliant a symud ymlaen yn ddiddiwedd, a phob paladr yn cynrychioli dwy awr o'r dydd. Ar ôl i Weriniaeth Pobl Tsieina a Gweriniaeth Tsieina (Taiwan) rhannu yn 1949 fe'i cedwir fel baner Gweriniaeth Tsieina, tra mabwysiadodd GPT faner newydd.
Oherwydd ni dderbynir y faner hon i'w defnyddio yn y Gemau Olympaidd, mae gan Weriniaeth Tsieina baner Olympaidd arbennig a elwir yn Faner Olympaidd Taipei.
[golygu] Ffynonellau
- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
|
||||||||||||||