Baner Bahrain
Oddi ar Wicipedia
Baner ddanheddog fertigol gyda'r traean ger yr hoist yn wyn a'r ddau draean ger y fly yn goch yw baner Bahrain.
Dan delerau Cytundeb Arforol Cyffredinol 1820, a wnaed Bahrain yn brotectoriaeth dan Brydain, wnaeth pob gwladwriaeth gyfeillgar yng Ngwlff Persia ychwanegu borderi gwynion i'w baneri i'w gwahaniaethu o longau môr-ladron. Daeth gwyn a choch yn lliwiau cyffredin ym maneri gwledydd y Gwlff. Yn wreiddiol roedd y llinell rhwng ochrau gwyn a choch baner Bahrain yn syth, ond mabwysiadwyd llinell ddanheddog ym 1932 i'w gwahaniaethu o faner Dubai.
Mabwysiadwyd y dyluniad cyfredol, gyda phum triongl yn y llinell ddanheddog i gynrychioli Pum Piler Islam, yn 2002.
Mae arfbais Bahrain yn seiliedig ar liwiau a dyluniad y faner genedlaethol.
Ffynonellau [golygu]
- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
- (Saesneg) Flags of the World: Bahrain