Baner Laos

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Laos

Baner drilliw lorweddol gyda stribedi uwch ac is coch a stribed canol glas gyda chylch gwyn yn ei ganol yw baner Laos. Mae coch yn symboleiddio'r gwaed a gollwyd yn y frwydr am ryddid, glas yn cynrychioli cyfoeth, a gwyn yn symboleiddio undod o dan gomiwnyddiaeth. Dywedir hefyd bod y ddisg wen ar stribed glas yn cynrychioli lleuad lawn dros Afon Mekong.

Mabwysiadwyd ar 2 Rhagfyr 1975 pan ddaeth y wlad yn weriniaeth y bobl. Mae'n anghyffredin fel baner gwlad gomiwnyddol gan nad yw'n cynnwys y seren bum-pwynt.

[golygu] Ffynonellau

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Flag of Laos.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Laos. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill