Baner Fietnam

Oddi ar Wicipedia
Baner Fiet Nam

Baner goch (sy'n symbol o chwyldro a thywallt gwaed) gyda seren aur bum-pwynt yn ei chanol (i gynrychioli undeb y pum grŵp o weithwyr o fewn sosialaeth a Chonffiwsiaeth draddodiadol: y gweithwyr, y gwerinwyr, y deallusion, yr ieuenctid a'r milwyr) yw baner Fietnam. Mabwysiadwyd gan Ogledd Gomiwnyddol y wlad ar 30 Tachwedd, 1955, blwyddyn ar ôl rhaniad Fiet Nam, a mabwysiadwyd gan y De hefyd yn dilyn aduniad y wlad yn 1976 fel Gweriniaeth Sosialaidd Fiet Nam ar ôl diwedd Rhyfel Fietnam. Mae'r un fath â'r faner a ddefnyddiwyd gan y mudiad gwrthwynebiad cenedlaethol, dan arweiniad Ho Chi Minh, yn ei frwydr yn erbyn lluoedd Japan oedd yn meddiannu'r wlad yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Eginyn erthygl sydd uchod am Fietnam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.