Baner Irac

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner IracFIAV 011111.svg

Baner drilliw yw baner Irac. Mae'n cynnwys stribed coch sy'n cynrychioli dewrder, stribed gwyn am haelioni, a stribed du sy'n cofio buddugoliaethau Islam.

Ar stribed gwyn y faner mae tair seren werdd (sef lliw traddodiadol Islam) sy'n cynrychioli Irac, Syria, a'r Aifft. Bu cynllun ar gyfer undeb gwleidyddol â'r ddwy wlad hyn ni ddaeth i fod. Mae'r testun Arabeg yn darllen Allahu Akbar ("Mawr yw Duw"). Cafodd hyn ei ychwanegu gan yr Arlywydd Saddam Hussein yn 1991, a chafodd ei newid i lawysgrif Cwffig yn ddiweddar.

[golygu] Ffynonellau

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Flag of Iraq.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Irac. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill