Baner Gweriniaeth Pobl Tsieina
Oddi ar Wicipedia
Maes coch (lliw traddodiadol comiwnyddiaeth a'r Tsieinaid) gyda seren felen (i symboleiddio comiwnyddiaeth) a phedair seren lai o faint (i gynrychioli dosbarthau cymdeithasol pobl Tsieina: y gwerinwyr, y gweithwyr, y petite bourgeoisie, a chyfalafwyr gwladgarol) yw baner Gweriniaeth Pobl Tsieina. Mae'r pum seren hefyd yn symboleiddio pwysigrwydd y rhif 5 mewn athroniaeth Tsieineaidd, ac mae ganddynt nifer o ddehongliadau eraill ynglŷn â'u hystyr. Mabwysiadwyd ar 1 Hydref, 1949.
[golygu] Ffynonellau
- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
|
||||||||||||||

