Baner Gwlad Iorddonen
Baner drilliw lorweddol o'r lliwiau pan-Arabaidd, gyda stribed uwch du, stribed canol gwyn, a stribed is gwyrdd, gyda thriongl coch yn yr hoist â seren saith-pwynt wen yn ei ganol yw baner Gwlad Iorddonen. Mae saith pwynt y seren yn cynrychioli saith pennill Al-Fâtiha y Coran. Cyflwynwyd y faner ym 1921, a mabwysiadwyd yn swyddogol ar 16 Ebrill 1928.
Ffynhonnell [golygu]
- Znamierowski, Alfred. The World Encyclopedia of Flags (Llundain, Southwater, 2010).
|
||||||||||||||